Ian Watkins 'wedi ei drywanu yn y carchar'
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth y Carchardai yn ymchwilio i ymosodiad ar gyn-ganwr y Lostprophets, Ian Watkins yn y carchar yn Wakefield.
Yn 46 oed ac yn hanu o Bontypridd, cafodd ddedfryd o 29 mlynedd dan glo a chwe blynedd ar drwydded yn Llys y Goron Caerdydd yn 2013 am droseddau rhyw yn erbyn plant.
Mae papur newydd y Mirror yn honni iddo gael ei drywanu.
Nid yw ei anafiadau yn rhai sy'n peryglu bywyd, yn ôl Heddlu Gorllewin Sir Efrog.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth y Carchardai fod yr heddlu'n ymchwilio i ddigwyddiad yn y carchar ddydd Sadwrn.
Ychwanegon nhw: "Ni allwn wneud sylw pellach tra bod yr heddlu'n ymchwilio."
Bu i farnwyr wrthod apêl gan Watkins yn 2014 i leihau hyd ei gyfnod yn y carchar.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2013