'Angen denu mwy o fenywod i'r maes gwyddoniaeth'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
gwyddoniaeth
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy o ferched yn gweithio ym myd gwyddoniaeth ond mae angen denu mwy, yn ôl trafodaeth ar y maes

Mae grŵp o wyddonwyr ar faes yr Eisteddfod ym Moduan wedi galw am wneud mwy i ddenu menywod i'r maes.

Yn ystod cyfarfod yn y Maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar faes yr Eisteddfod fe ddaeth galwad i gynyddu proffil menywod sydd eisoes mewn swyddi gwyddonol a rhoi lle amlwg iddyn nhw fel modelau rôl er mwyn ysbrydoli menywod a merched ifainc eraill i ystyried astudio gwyddoniaeth a cheisio am swyddi yn y maes.

Dywed Sara Williams, meddyg yn Ysbyty Gwynedd : "Rwy'n meddwl fod hynna'n bwysig er mwyn i bobl ifanc weld y cyfleon sy' o'u blaen nhw ac i weld pobl sy'n edrych yr un fath â nhw ac yn teimlo yr un fath â nhw yn y swyddi yma... ac mae nhw yn gallu dweud wrth eu hunain 'Dwi'n gallu gneud hynna, mae'n bosib i fi neud hynna, trwy weld pobl fath â nhw yn gneud e'."

Roedd hi yn croesawu y ffaith fod mwy o fenywod erbyn hyn yn y maes meddygol.

"Ond mae hyn wedi cymryd amser," meddai.

"Ugain mlynedd yn ôl byddech chi ond yn gweld dynion yn g'neud swyddi ym maes llawfeddygaeth, ond nawr mae llwythi o fenywod yn dod i mewn i'r maes.

"Mae'n bwysig i bobl ysgol ddod ato ni i'r ysbytai ac i feddygfeydd lleol i weld faint o ferched sy'n y maes".

Disgrifiad o’r llun,

Y gwyddonwyr Alys Jefferson, Sara Williams, Debbie Jones a Mari Morgan

Peth pwysig arall, yn ôl Alys Jefferson, o Ymestyn yn Ehangach, sef prosiect i fynd i'r afael â rhwystrau i fynediad, dilyniant a llwyddiant ym myd addysg uwch, yw rhoi pwyslais ar "ymweld ag ysgolion i gynnal gweithdai a thrafod gwyddoniaeth a pheirianneg a rhoi mwy o weithgareddau gwyddonol i deuluoedd".

"Mae'n bwysig iawn i blant gwrdd â myfyrwyr hefyd a phobl sy'n g'neud y swyddi yna ym maes gwyddoniaeth ar hyn o bryd".

Ym myd deintyddiaeth mae llwybr gyrfa yn reit glir, medd Mari Morgan, sy'n ddarlithydd ym maes hylendid deintyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor "ond mae'n bwysig i gael cyngor da ynglŷn â pha bynciau i gymryd a dechrau yn ddigon cynnar yn yr ysgol fel bo' nhw ddim yn colli y cyfle", ychwanegodd.

Mae ceisio denu mwy o fenywod i fyd gwyddoniaeth yn her, ond mae hefyd yn sialens i sicrhau fod digon o swyddi ar gael ar eu cyfer yng Nghymru .

Byw yn lleol

Mae Dr Debbie Jones, Rheolwr Arloesi Carbon Isel, yn dweud fod hyn yn bwysig yn M-SParc, parc gwyddoniaeth cyntaf Cymru.

"Ry'n ni yn trio tyfu y cyfleoedd mewn technoleg gwyddoniaeth yn yr ardal a gwneud yn siŵr bod y swyddi yno ac wedyn ry'n ni yn mynd allan i siarad â phobl ifanc er mwyn iddyn nhw cael deall y gallan nhw weithio a bod swyddi ar gael ym maes gwyddoniaeth yng ngogledd orllewin Cymru.

"Gobeithio bydd hynna'n tyfu dros y blynyddoedd fel bod mwy o bobol ifanc yn gallu aros gyda ni yn fan hyn i fyw a gweithio".

Mae'r ymgyrch i gael mwy o ferched i mewn i wyddoniaeth yn "beth positif" yn ôl Sara Williams.

"Mae angen mwy o ferched ac ma' mwy o gyfleoedd hefyd. Mae opsiynau yno. Cael i mewn yn y lle cynta' yw y peth anoddaf ac ma' angen ysbrydoli pobol ifanc i fynd am y cyfleon yna."

Er bod Alys Jefferson yn dweud ei bod yn siom bod rhaid siarad o hyd am annog menywod i mewn i wyddoniaeth, mae'n gweld pethau'n newid "ond yn araf bach".

"Felly mae'n bwysig i barhau â'r neges ac ymhen hir a hwyr bydd pethau yn newid."