Dim camau heddlu dros daflen sipsiwn Ysgrifennydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
David TC DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed David TC Davies bod lleoliadau posib ar gyfer sipsiwn a theithwyr yn "fater teg i'w drafod a'i graffu gan y cyhoedd"

Ni fydd yr heddlu'n cymryd unrhyw gamau pellach yn erbyn Ysgrifennydd Cymru dros daflen oedd yn codi pryderon am safleoedd arfaethedig i deithwyr a sipsiwn yn ei etholaeth.

Fe gafodd David TC Davies ei gyhuddo gan rai o greu "amgylchedd gelyniaethus" yn eu herbyn wrth godi pryderon ynghylch creu safle ar eu cyfer yn etholaeth Mynwy.

Gan groesawu penderfyniad Heddlu Gwent, dywedodd Mr Davies nad yw "ceisio barn etholwyr yn drosedd".

Mae'r cyngor sir hefyd wedi ymateb i awgrym ganddo y bu ddiffyg ymgynghori, gan bwysleisio bod mwy o amser wedi ei ganiatáu i ystyried lleoliadau posib.

Roedd AS Ceidwadol Mynwy wedi dadlau nad oedd y daflen yn "feirniadaeth o'r gymuned sipsiwn a theithwyr" a bod "lleoliad safleoedd awdurdodedig ac anawdurdodedig i deithwyr yn fater teg i'w drafod a'i graffu gan y cyhoedd".

Roedd hefyd wedi dweud bod sawl preswylydd "gofidus" wedi bod mewn cysylltiad ynghylch "byrder yr ymgynghoriad", a bod y lleoliadau arfaethedig hefyd yn destun pryder i'r gymuned deithiol hefyd.

Pan ddaeth i'r amlwg bod Heddlu Gwent yn adolygu'r daflen, fe wnaeth Dirprwy Brif Weinidog y DU, Oliver Dowden amddiffyn Mr Davies, gan wadu bod yr iaith ynddi yn hiliol.

Ond yn ôl y grŵp eiriolaeth, Travelling Ahead, roedd y daflen yn torri'r Ddeddf Gydraddoldeb.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Heddlu Gwent adolygu cynnwys y daflen

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd y Prif Uwcharolygydd Carl Williams bod Heddlu Gwent wedi "adolygu cynnwys taflen a gafodd ei chyhoeddi a'i dosbarthu yn Sir Fynwy ynghylch cynigion o ran datblygu safle sipsiwn a theithwyr".

"Mae swyddogion wedi siarad â nifer o bobl o'r cymunedau sipsiwn, teithwyr a sefydlog cyn gofyn am gyngor Gwasanaeth Erlyn y Goron a yw cynnwys y daflen yn gyfystyr ag unrhyw droseddau.

"Mae unrhyw honiad o anffafriaeth yn cael ei gymryd wirioneddol o ddifri', ac yn dilyn yr adolygiad yma ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau pellach."

'Ymddiheuro dim'

Mewn ymateb i gyhoeddiad yr heddlu, dywedodd Mr Davies: "Mae diffyg ymgynghoriad eang gan gyngor Llafur yn fater pwysig a dydy ceisio barn etholwyr ddim yn drosedd.

"Rwy'n falch bod Heddlu Gwent yn cytuno.

"Rwy'n ymddiheuro dim am godi mater lleoliad safleoedd ar gyfer teithwyr ar draws Sir Fynwy."

Gohirio ymgynghoriad

Roedd aelodau cabinet Cyngor Sir Fynwy, sy'n cael ei rheoli gan gynghorwyr Llafur ers i'r Ceidwadwyr golli grym yn etholiadau lleol 2022, i fod i wneud penderfyniad ddiwedd Gorffennaf i ddechrau ymgynghori ar safleoedd posib.

Ond "mewn ymateb i bryderon a gafodd eu codi," fe gafodd yr "ymgynghoriad ei ohirio, dolen allanol er mwyn caniatáu mwy o amser i ystyried opsiynau ar gyfer safleoedd posib".

Dywedodd llefarydd: "Does dim safleoedd wedi eu cadarnhau i fod yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.

Mae'r cyngor yn pwysleisio bod yna ofyn arnyn nhw, fel sydd ar bob awdurdod lleol, i ddarparu "safleoedd bach" mewn ymateb i'r gofyn, "ble gall y gymuned sipsiwn a theithwyr setlo, gweithio ac anfon eu plant i'r ysgol".