Prinder tai i bobl leol: 'Mae pawb isio dod yn ôl'
- Cyhoeddwyd
Os ydy golygfeydd Aberdaron yn denu ymwelwyr, siawns bod y rheiny'n fwy annwyl fyth i'r bobl sydd wedi'u magu yng nghanol gogoniannau Pen Llŷn.
Ond wrth i'r Eisteddfod fynd rhagddi ym Moduan, mae'r alwad am dai i bobl ifanc yn eu cymunedau'n un o'r prif bynciau trafod ar y maes.
Troi'i golygon am y brifysgol fydd Nel Llŷn nesaf, ond mae'n gobeithio dychwelyd i'w bro i fyw ryw ddydd. Ehangu gorwelion dros dro - ond creu cartref yn ei libart ei hun yn y pen draw.
"Mae dipyn o ffrindiau isio mynd, gweld be sy tu hwnt i Ben Llŷn, ond mae pawb isio dod yn ôl," meddai.
"Mae prisiau tai mor anodd... mae hi just yn anodd, chi'n gweld visitors yn dod yma, maen nhw'n prynu tai, tai ddylai fod yn fforddiadwy i bobl ifanc."
Yn yr un modd mae Alaw Haf Lewis yn gobeithio cael tŷ yn ei milltir sgwâr pan fydd hi'n amser i fagu teulu.
"Dwi'm yn gw'bod, gawn ni weld - dyna fydd y broblem 'efo dim pres," dywedodd.
"'Dwi isio aros 'efo pobl Cymraeg ond, gawn ni weld falla wneith o newid pan 'dan ni isio dod yn ôl."
Mae Cyngor Gwynedd newydd gyhoeddi eu bod yn ehangu'r cynllun i brynwyr tro cyntaf gael grantiau i adnewyddu tai gwag oedd yn arfer bod yn ail gartrefi.
Mewn datganiad, dywed y cyngor: "Mae'r cynllun ehangach i gynnig grantiau i adnewyddu tai gweigion wedi bod yn weithredol ar ei ffurf presennol ers 2021 a daw'r addasiad hwn mewn ymateb i gynnydd yn nifer yr ymgeiswyr sy'n methu bodloni'r meini prawf i dderbyn y grant.
"Yn flaenorol, nid yw perchnogion cyn ail gartrefi wedi bod yn gymwys ar gyfer y grant, er gwaetha'r ffaith eu bod yn adeiladau segur.
"Felly, er mwyn ymateb i'r diffyg hwn, mae'r cyngor wedi penderfynu ymestyn meini prawf y cynllun i gynnwys tai segur a fu'n arfer bod yn ail gartrefi, hynny yw eiddo a fu'n gymwys i dalu Premiwm Treth Cyngor."
Ar y maes fe fu galwad gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am ddeddf eiddo i reoli'r farchnad agored ar gyfer gwerthu tai.
Un fu'n annerch y rali gyhoeddus oedd cyn brif weithredwr Cymdeithas Dai Eryri, Walis George.
"Bydden ni isio gweld sefyllfa lle mae pobl leol yn cael y cyfle cynta' i brynu," meddai.
"'Dan ni ddim isio cosbi pobl sy'n gwerthu tai - mae angen i bobl gael pris teg - ond mae'n rhaid i hyn gael ei gyflyru a'i yrru gan yr angen lleol, ddim potensial gwerth ariannol maes o law."
Yn ystod y dydd hefyd fe ddaeth ympryd yr ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis i ben. Fe fu'n gwrthod bwyd am dros dridiau - 75 awr, i gyd-fynd â'i oed.
"Fy anogaeth i wrth wneud hyn, ydy dangos yn fy ffordd i mor ddifrifol ydy'r sefyllfa ac i annog pobl eraill ystyried be fedran nhw neud," ddywedodd Mr Ffransis wrth gloi'r weithred.
Yna fe aeth rhai o aelodau Cymdeithas yr Iaith ati i ludo sticeri'n galw am ddeddf iaith newydd i furiau pabell Llywodraeth Cymru.
Wrth ymateb i'r alwad am ddeddf eiddo, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym o'r farn fod gan bawb yr hawl i gartref derbyniol, fforddiadwy i'w brynu neu'i rentu yn eu cymunedau, fel y gallan nhw fyw a gweithio'n lleol.
"Rydym yn cymryd camau radical gan ddefnyddio'r drefn gynllunio, eiddo a threthi i gyflawni hyn, fel rhan o becyn i ymateb i gyfres gymhleth o faterion."
Yn ddiweddar fe gafodd papur gwyrdd ei gyhoeddi ar bolisi tai oedd yn cyfeirio at rent teg ac eiddo fforddiadwy.
Fe fydd papur gwyn yn cael ei gyhoeddi gan y llywodraeth maes o law.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020