Pryder y gallai ffermydd gwynt 'ddiwydiannu' cefn gwlad

  • Cyhoeddwyd
arwydd protest beilonau
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai yn pryderu bod yna ormod o brosiectau ynni adnewyddadwy yng nghefn gwlad

Mae elusen wledig flaenllaw yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailfeddwl ei strategaeth ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy, gan ddweud y byddai cefn gwlad yn cael ei ddiwydiannu gan y cynigion presennol.

Mae Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW) yn honni bod tair miliwn o goed eisoes wedi cael eu torri ar gyfer prosiectau ynni gwynt, ac y byddai angen tua 50,000 erw o dir ar gyfer datblygiadau arfaethedig eraill ledled Cymru.

Mae'r elusen yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru ddiweddaru ei pholisïau ac archwilio'r posibiliadau o gynhyrchu ynni gwynt ar y môr, a rhoi paneli solar ar doeau adeiladau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod angen amrywiaeth o dechnolegau, ar wahanol raddfeydd, i ddiwallu ein hanghenion trydan yn y dyfodol a bod gan ynni gwynt a solar rôl amlwg i'w chwarae.

Dros 100 o brosiectau ar y gweill

Yn ôl YDCW mae 44 o ffermydd gwynt a 123 o ffermydd solar yn weithredol yng Nghymru ar hyn o bryd, a chynigion ar gyfer 34 o ffermydd gwynt a 92 o ffermydd solar eraill.

Dywedodd Ross Evans, rheolwr materion cyhoeddus a chymunedol YDCW: "Y cyfan ry'n ni'n ceisio gwneud yw lliniaru rhywfaint o'r hyn sy'n digwydd i gefn gwlad a sicrhau ein bod yn aberthu'r lleiafswm [o dir] a phosib.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ross Evans o YDCW eu bod eisiau diogelu amrywiaeth o amgylcheddau, o dir fferm i fawndiroedd

"Oherwydd dy' ni ddim just yn sôn am dir comin neu goedwigaeth.

"Ry'n ni'n sôn am dir fferm, am warchodfeydd natur, ardaloedd o bwysigrwydd gwyddonol, llefydd lle mae'r gylfinir yn bridio, mawndiroedd - maen nhw i gyd yn cael eu dinistrio ar gyfer ynni gwynt ar y tir ac ynni solar."

Cymru'r Dyfodol

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod am fodloni 100% o'r galw am drydan yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.

Yn ei fframwaith ar gyfer penderfyniadau cynllunio - Cymru'r Dyfodol 2040 - mae'r llywodraeth wedi nodi 10 ardal ar draws Cymru lle mae "rhagdybiaeth o blaid datblygiadau ynni gwynt mawr".

Mae'r fframwaith hefyd yn dweud bod "topograffi a thywydd arferol Cymru yn cynnig llawer o gyfleoedd i gynhyrchu ynni o'r gwynt heb niweidio ein tirwedd gwerthfawr a warchodir".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Teimla YDCW bod angen gwneud mwy o ymchwil i fuddiannau cynlluniau ynni gwynt ar y môr, yn hytrach na'r tir

Ond mae YDCW yn dweud bod angen diweddaru'r fframwaith gan nad yw'n ystyried y potensial ar gyfer cynhyrchu ynni gwynt ar y môr.

Mae'r elusen yn dadlau y byddai hyn yn cynhyrchu mwy o drydan na phrosiectau ar y tir.

Dywedodd Mr Evans bod un o weinidogion y llywodraeth wedi cydnabod nad yw 'Cymru'r Dyfodol' wedi cael ei ddiweddaru ers tair blynedd.

"Yn bwysicach, dyw e ddim yn cynnwys yr hyn sy'n digwydd ar y môr," meddai.

"Bydd dau brosiect yn y Môr Celtaidd a Môr Iwerddon yn cynhyrchu mwy na dwbl yr hyn sydd ei angen ar Gymru erbyn 2050 ar eu pen eu hunain."

'Ffyrdd gwell o gynhyrchu trydan'

Un o'r cwmnïau sy'n bwriadu datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ledled Cymru yw Bute Energy.

Mae ganddyn nhw gynlluniau ar gyfer pum parc ynni - y mwyaf yw Nant Mithil fydd yn cael ei osod yng Nghoedwig Maesyfed ger Llandrindod.

Mae'r prosiect yn cynnwys 36 o dyrbinau gwynt - pob un yn 220 metr o uchder - a fydd, yn ôl Bute Energy, yn cynhyrchu digon o bŵer i ddiwallu anghenion trydan tua 200,000 o gartrefi, gan ddisodli tua 350,000 tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna brotestio amlwg wedi bod yn erbyn codi'r cynllun yng nghoedwig Maesyfed

Ond dim ond rhan o'r prosiect sydd o fewn ardal wedi'i chlustnodi ar gyfer ynni gwynt ac mae'n siŵr i nifer o ymwelwyr â'r Sioe Fawr weld arwyddion gan grŵp ReThink, sy'n gwrthwynebu'r cynllun, ar eu ffordd i'r maes.

Dywedodd Jenny Chryss o ReThink: "Mae Nant Mithil yn mynd i ddinistrio Coedwig Maesyfed, sy'n ardal ar gyfer twristiaeth, cerdded ac yn enwedig o fy safbwynt i ar gyfer ecoleg, adar a bywyd gwyllt.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jenny Chryss nad gwrthwynebu ynni adnewyddadwy yw nod ReThink, ond eu bod am i ffyrdd eraill o gynhyrchu trydan gael eu hystyried

"Dwi am ei gwneud yn gwbl glir nad y'n ni yn erbyn ynni adnewyddadwy. Dy'n ni ddim yn gwadu newid hinsawdd.

"Ond ry'n ni'n meddwl fod yna ffyrdd llawer gwell o gynhyrchu trydan."

Dywedodd Aled Rowlands, cyfarwyddwr materion allanol Bute Energy: "Mae'r angen am drydan yn mynd i gynyddu'n aruthrol.

"Mae angen i ni gynhyrchu mwy o ynni, ac wrth gwrs ry'n ni am gynhyrchu ynni glân, gwyrdd o wynt ar y tir.

"Mae opsiynau eraill hefyd, fel gwynt ar y môr. Ond ry'n ni angen mwy o egni ar gyfer y genhedlaeth hon a'r genhedlaeth nesaf."

Disgrifiad o’r llun,

"Ry'n ni angen mwy o egni ar gyfer y genhedlaeth hon a'r genhedlaeth nesaf," meddai Aled Rowlands

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd adroddiad ar y cynnydd a wnaed i leihau allyriadau yng Nghymru.

Dywedodd yr adroddiad bod angen "cyflymu'r camau gweithredu ar ddatgarboneiddio yng Nghymru", gan ychwanegu nad yw Cymru ar drywydd i gyrraedd ein targedau newid hinsawdd.

Ond mae YDCW yn dweud y gallai symud yn rhy gyflym i ddatblygu mwy o brosiectau ar y tir fod yn drychinebus i gefn gwlad Cymru.

Maen nhw'n casglu llofnodion ar ddeiseb sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i oedi "pob datblygiad ynni gwynt ar y tir a datblygiad solar dros 10MW" hyd nes y bydd potensial ffynonellau eraill o ynni adnewyddadwy yn cael eu hystyried.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae angen amrywiaeth o dechnolegau, ar wahanol raddfeydd, i ddiwallu ein hanghenion trydan yn y dyfodol wrth i ni symud tuag at system ynni sero net.

"Mae gwynt a solar yn opsiynau cost-effeithiol i gynhyrchu trydan ac mae ganddyn nhw rôl amlwg i'w chwarae."

Pynciau cysylltiedig