'Diffyg sgiliau yn bygwth adeiladau hynafol Cymru'
- Cyhoeddwyd
Gan fod ei fam wedi methu â dod o hyd i rywun i wneud gwaith plastro yn ei chartref, fe benderfynodd Bleddyn Evans ddysgu'r grefft ei hun.
"Mae'n bwysig cadw'r sgiliau yma achos mae gennym ni shwd gymaint o dai traddodiadol, hynafol yng Nghymru," meddai.
"Mae'n bwysig i ni edrych ar eu hôl nhw i sicrhau eu bod nhw yn parhau i'r dyfodol... a'u bod yn parhau'n rhan o'n hunaniaeth ni."
Ar hyn o bryd, mae prinder arbenigwyr sydd yn gallu gwneud gwaith ar adeiladau hanesyddol - nid yn unig eglwysi a phlastai, ond tai teras, ffermydd ac adeiladau sy'n dyddio'n ôl cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.
"Os na fyddwn ni'n cael digon o bobl i 'neud y gwaith trwsio," medd Bleddyn, "bydd y tai'n gwaethygu a bydd y deunyddiau anghywir yn cael eu defnyddio.
"Os allwn ni ddefnyddio deunyddiau traddodiadol a sicrhau fod y tai yma'n para, fe fyddan nhw ar gael i fwy o bobl fyw ynddyn nhw yn y dyfodol."
Diogelu treftadaeth
Mae Bleddyn wedi bod yn hyfforddi ac yn ennill cymwysterau yng Nghanolfan Tywi ger Llandeilo, sef yr unig ganolfan yn y Deyrnas Unedig sy'n cynnal cyrsiau o'r fath.
Cyngor Sir Gaerfyrddin sy'n rhedeg y ganolfan ac mae'r Cynghorydd Ann Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Materion Gwledig, yn falch iawn o'r gwaith sydd yn cael ei wneud yno.
"Mae'n sialens i gynnal a chadw adeiladau hynafol," meddai.
"Ond ry'n ni'n ffodus o Ganolfan Tywi sy'n hyfforddi pobl ar sut i edrych ar ôl yr adeiladau 'ma a'u cadw yn ddiogel, yn dwym ac yn sych."
Mae'r ganolfan yn cynnig cyrsiau ar waith carreg, plastro a gwaith coed.
"Fe allwch chi wneud mwy o ddrwg i hen adeiladau os nad ydych chi'n edrych ar eu hôl nhw yn iawn," meddai'r cynghorydd.
"Mae gyda ni dros 2,000 o adeiladau sy'n dyddio 'nôl cyn 1919.
"Os 'newch chi eu cynnal a'u cadw yn y ffordd anghywir, rydych chi'n eu gwneud nhw'n oerach a gwlypach.
"Felly mae'n rhaid cael y sgiliau i wneud gwaith trwsio addas arnyn nhw, fel eu bod nhw yma i'r cenedlaethau sydd i ddod."
Fe ddywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru bod Cadw yn gweithio i geisio taclo problem prinder sgiliau ers sawl blwyddyn.
Dywedodd hefyd nad yw'r broblem yn unigryw i Gymru.
Ychwanegodd: "Mae cymwysterau adeiladu newydd sydd yn cael eu cyflwyno ar draws y wlad yn gam mawr ymlaen."
Heriau atgyweirio
Ar hyn o bryd mae cynllun mawr ar waith i atgyweirio to un o adeiladau hanesyddol pwysicaf Cymru, yr Eglwys Gadeiriol yn Aberhonddu.
Mae dod o hyd i'r deunyddiau cywir ar gyfer y gwaith yn heriol, yn ôl swyddogion y Gadeirlan.
Maen nhw wedi llwyddo i ddod o hyd i deils carreg o fath arbennig mewn hen chwarel leol - ond yr her fawr arall yw dod o hyd i bobl sydd â'r sgiliau a'r ddawn i wneud y gwaith.
"Does dim gwaith trwsio wedi ei wneud ar y to yma ers canrif a hanner," medd aelod o'r eglwys, Rhodri Williams, "felly mae'n hen bryd bwrw 'mla'n â'r gwaith.
"Mae eisiau gwneud gwaith ar y tyrrau, y waliau, y brif fynedfa - rhestr o bethau.
"Ond y to yw'r flaenoriaeth achos mae tamprwydd yn dechrau dod i mewn. Ry'n ni'n gobeithio cadw pethau fel maen nhw am flynyddoedd i ddod."
Er mwyn cwrdd â'r her o adnewyddu'r adeilad yn y dyfodol, mae Cadeirlan Aberhonddu wedi dechrau cynllun prentisiaeth fel rhan o'r prosiect i drwsio'r to.
Maen nhw'n gobeithio y byddan nhw wedyn yn meithrin crefftwyr lleol newydd i ddiogelu dyfodol hen adeiladau'r ardal, yn ogystal â hen sgiliau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd20 Medi 2019
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2019