Disgwyl canlyniadau Safon Uwch is er cymorth Covid

  • Cyhoeddwyd
Myfyrwyr yn Abertawe yn derbyn eu canlyniadau Safon Uwch y llyneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Myfyrwyr yn Abertawe yn derbyn eu canlyniadau Safon Uwch y llynedd

Mae disgwyl i ganlyniadau Safon Uwch a fydd yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau fod yn is na'r llynedd er bod disgyblion Cymru wedi derbyn cymorth ychwanegol gyda'u harholiadau yn sgil Covid.

Dywedodd y rheoleiddwr arholiadau y byddai canlyniadau Cymru gyfan tua hanner ffordd rhwng rhai 2019 a 2022.

Mae'r mesurau yn dilyn y graddau uwch gafodd eu rhoi gan athrawon pan gafodd arholiadau eu canslo yn ystod y pandemig.

Fe fydd galw mawr am lefydd ar gyrsiau poblogaidd drwy'r broses glirio, yn ôl rhai prifysgolion Cymreig.

Mae Gwen Evans, 18, newydd orffen ei chyrsiau Lefel A mewn Bioleg, Cemeg a Chymdeithaseg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd.

Mae hi'n gobeithio astudio meddygaeth ond yn cymryd blwyddyn o saib ar ôl methu â sicrhau lle fis Medi.

Mae hi'n aros i dderbyn ei chanlyniadau cyn penderfynu ar ei chamau nesaf ond yn benderfynol o geisio sicrhau lle i astudio'r pwnc flwyddyn nesaf.

Yn y cyfamser mae hi'n bwriadu gweithio yn ei hen ysgol, yn helpu mewn uned anghenion dysgu ychwanegol, cyn mynd i deithio.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Gwen Evans (chwith) gyda'i ffrind Efa ar eu diwrnod olaf yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

Mae Gwen yn teimlo bod y profiad o sefyll arholiadau Uwch Gyfrannol ac yna Safon Uwch yn heriol ar ôl i arholiadau TGAU gael eu canslo yn sgil y pandemig.

"Roedd yn anodd - y broses o sefyll arholiadau adolygu yn y ffordd gywir," esboniodd Gwen, "hyd yn oed eistedd mewn neuadd i'w gwneud, a'r pwyslais ar yr arholiadau eu hunain.

"Dwi'n teimlo fy mod wedi colli allan ar lawer o addysg ac roeddwn yn teimlo bod angen i fi ddal i fyny."

Mae hi'n teimlo hefyd ei fod yn "deg" bod disgyblion yn cael mwy o gefnogaeth, a bod angen y cyfnod pontio yma ar ôl y pandemig.

Fe gafodd disgyblion rywfaint o wybodaeth cyn yr arholiadau i'w helpu gydag adolygu.

Mae rheoleiddiwr Cymwysterau Cymru wedi dweud bod y broses o bennu ffiniau graddau yn "gefnogol" i fyfyrwyr.

Mae hyn yn wahanol i Loegr ble mai'r nod yw dychwelyd i lefelau cyn y pandemig.

Er bod disgwyl i ganlyniadau eleni fod yn is nag yn 2022, mae'n annhebygol y byddan nhw'n gostwng i'r lefelau yn 2019.

Cafodd arholiadau eu canslo yn 2020 a 2021 ac fe gafodd graddau eu pennu gan athrawon.

Roedd yna gymorth ychwanegol y llynedd i adlewyrchu tarfu'r pandemig, ac mae'r mesurau wedi lleihau rhywfaint eleni.

Profiad heriol

Dywedodd Oisin Lludd, 18, o Dal-y-bont yng Ngheredigion, bod gwneud arholiadau ar ôl i'w TGAU gael eu canslo yn 2021 wedi bod yn heriol.

Llynedd fe wnaeth ei arholiadau Uwch Gyfrannol ac mae'n teimlo bod ei flwyddyn ysgol wedi bod dan anfantais.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Oisin Lludd bod sefyll arholiadau wedi'r pandemig yn heriol

"Doedd ganddon ni ddim profiad yn eistedd lawr mewn neuadd fawr - pawb o'r dosbarth yn 'neud un prawf am gyfnod sylweddol o amser," dywedodd.

"Felly yn AS dwi'n credu na'th pawb ei ffeindio hi'n anodd iawn."

Ond mae'r profiad o wneud arholiadau llynedd wedi bod o fudd.

"Eleni... roedden ni'n gwybod beth i ddisgwyl. O wybod bo' ni wedi gwneud hyn yn barod, bod ganddom ni'r profiad yn y maes, oedd hi dal yn anodd wrth gwrs ond o'dd hi'n haws.

"Y cam nesaf i fi fydd mynd off i'r brifysgol. Y gobaith yw i gyrraedd Prifysgol Caerdydd. Ffiseg dwi'n gobeithio wneud."

Mae graddau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau yn ogystal â chanlyniadau ar gyfer y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch, sy'n rhan o'r Fagloriaeth.

Mae canlyniadau ar gyfer cymwysterau galwedigaethol gan gynnwys BTEC hefyd yn cael eu rhyddhau yn ystod y cyfnod hwn.

Mae dros draean o blant 18 oed o Gymru wedi gwneud cais am lefydd yn y brifysgol.

Erbyn diwedd mis Mehefin, roedd 21,320 o geisiadau o Gymru am lefydd ym mhrifysgolion y Deyrnas Unedig, yn ôl ffigyrau diweddaraf y gwasanaeth mynediad i brifysgol, UCAS.

'Bydd y darlun yn newid fesul munud'

Dywedodd Prifysgol Caerdydd y dylai myfyrwyr sy'n chwilio am lefydd ar gyrsiau drwy'r broses glirio ymateb yn gyflym achos "bydd y darlun yn newid fesul munud a bydd galw mawr am y lleoedd sy'n weddill".

Agorodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd ei phroses glirio ym mis Gorffennaf ac mae'n dweud ei bod wedi derbyn mwy o ymholiadau o'i gymharu â'r llynedd.

Dywedodd Prifysgol De Cymru y gallai parhad effaith y pandemig ychwanegu rhywfaint o ansicrwydd at sut y byddai clirio'n mynd eleni.

Gallai newidiadau i'r broses raddio gael effaith ar berfformiad meddai llefarydd, gan olygu bod mwy o fyfyrwyr yn archwilio opsiynau a hynny o bosib yn achosi mwy o gystadleuaeth ar gyfer rhai cyrsiau.

Dywedodd Prifysgol Abertawe ei bod yn gwarantu llety i fyfyrwyr sy'n dod drwy'r broses glirio os ydyn nhw'n gwneud cais cyn 24 Awst.

Ac mae Prifysgol Aberystwyth yn addo llefydd yn eu llety preswyl i bob myfyriwr blwyddyn gyntaf ac yn dal cyfran yn ôl "ar nifer o wahanol brisiau" i ymgeiswyr hwyr.

"Eleni rydym yn gwybod, yn ogystal â meddwl am eu canlyniadau a'u dewisiadau academaidd, bydd myfyrwyr a'u teuluoedd yn meddwl am gostau byw, ac argaeledd llety sy'n fforddiadwy," meddai llefarydd.

Disgrifiad o’r llun,

Fe allai Gyrfa Cymru drafod sawl opsiwn gyda myfyrwyr wedi iddyn nhw gael eu canlyniadau, medd Catrin Owen

Mae Catrin Owen o Gyrfa Cymru yn cynghori pobl ifanc sydd ddim wedi cael y graddau maen nhw eu hangen i beidio ''panicio''.

''Tu allan i'r opsiynau traddodiadol, fel falle mynd i brifysgol, mae 'na opsiynau arall allan yno," meddai.

"Pethe fel prentisiaethau, neu falle mynd yn syth i waith, neu falle dy fod ti eisiau dechrau dy fusnes dy hun - a ma'r rhain i gyd yn opsiynau perffaith iawn hefyd

''Be faswn i'n cynghori yw siarad gyda cynghorydd gyrfa a wedyn fedran ni siarad drwy be' wyt ti ishe allan o dy yrfa di a dy ddyfodol di, a fedrwn ni rhoi plan yn ei le efo ti."

Pynciau cysylltiedig