Ffrae ar ôl i weinidog wrthod caniatáu dwy fferm solar
- Cyhoeddwyd
Mae'r datblygwyr sydd y tu ôl i ddau brosiect ffermydd solar ar Wastadeddau Gwent yn cymryd camau cyfreithiol wedi i weinidog Llywodraeth Cymru wrthod cais cynllunio.
Fe wnaeth y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wrthod y cynlluniau ar sail bioamrywiaeth, er i archwilwyr cynllunio argymell eu caniatáu.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw'n medru gwneud sylw am unrhyw her gyfreithiol.
Mae'r penderfyniad wedi cael ei ganmol gan eraill, sy'n dweud na all taclo newid hinsawdd fod ar draul bywyd gwyllt.
Beth yw'r cynlluniau?
Mae Gwastadeddau Gwent yn ymestyn o ddwyrain Caerdydd i Gasnewydd ac ymlaen i Sir Fynwy.
Mae'n gartref i amrywiaeth eang o rywogaethau, ac oherwydd natur y tirwedd mae grwpiau amgylcheddol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i atal datblygiadau mawr yno am y tro - er bod un fferm solar fawr yn bodoli eisoes ger Llanwern.
Oherwydd bod peilonau trydan yn rhedeg ar draws y tirwedd, fe gafodd yr ardal ei dewis ar gyfer y datblygiad er mwyn hwyluso cysylltiadau gyda'r National Grid.
Byddai'r mwyaf o'r ddau gynllun - rhwng ardaloedd Maerun a Llansanffraid Gwynllŵg - yn cynnwys fferm solar dros 122 hectar fyddai'n gallu cynhyrchu 125MW, sy'n ddigon i bweru 37,500 o gartrefi.
Dywedodd adroddiad gan archwilwyr bod buddiannau amgylcheddol yn drech nag ôl-troed carbon cynhyrchu'r paneli solar, ond roedd y safle cyfan o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Er hynny, dywedodd y gweinidog nad oedd y datblygwyr wedi ystyried safleoedd eraill yn ddigonol, a heb ddangos "sut y bydden nhw'n osgoi niwed i fioamrywiaeth ac ecosystemau".
'Siomedig a blin'
Dywedodd y datblygwyr, Wentlooge Farmers Solar Scheme Ltd, eu bod yn "siomedig a blin" am y penderfyniad.
Mewn datganiad dywedodd y cwmni: "Mae'r penderfyniad yn nodweddiadol o batrwm sy'n datblygu lle mae argymhellion proffesiynol archwilydd cynllunio'n cael ei anwybyddu, ac felly'n codi amheuon mawr am ddatblygiadau ynni mawr newydd yng Nghymru a thaclo'r argyfwng hinsawdd."
Cafodd yr ail gynllun am fferm solar ychydig llai yn Y Redwig - cynllun 75MW o'r enw Rush Wall - hefyd ei wrthod am resymau tebyg.
Dywedodd y datblygwyr yno, BSR Energy: "Mae gallu'r prosiect i gysylltu gyda grid trydan cenedlaethol y DU yn un o fuddion mwyaf arwyddocaol y safle.
"Does dim modd creu prosiect ynni ar y raddfa yma yn y mwyafrif o leoliadau eraill o fewn yr ardal ddaearyddol yma, neu hyd yn oed ar lefel cenedlaethol."
Ond dywedodd Ross Evans, llefarydd ar ran Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig: "Mae newid yn gyflym i ynni adnewyddadwy yn hanfodol wrth ymateb i newid hinsawdd.
"Ond gall hyn ddim bod ar draul natur, y tirwedd a bywyd gwyllt ar Wastadeddau Gwent."
Roedd yn gwadu fod y penderfyniad yn codi amheuon am ddyfodol ynni adnewyddadwy, gan ddweud fod ei fudiad yn gweld nifer "dychrynllyd" o geisiadau am ddatblygiadau arfaethedig yn mynd i Lywodraeth Cymru.
Ychwanegodd Catherine Linstrum, cyd-gadeirydd Cyfeillion Gwastadeddau Gwent, fod y penderfyniad yn gywir, gan ddweud fod "brys mawr wedi bod i ddatblygu ar Wastadeddau Gwent oherwydd yr angen i gynyddu ynni adnewyddadwy, ac mae'r farchnad wedi gweld hynny fel cyfle i wneud lot fawr o arian".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gallwn gadarnhau fod heriau wedi eu gwneud yn erbyn y penderfyniadau i wrthod ceisiadau cynllunio am ffermydd solar Gwynllŵg a Rush Wall.
"Ni allwn wneud sylw pellach gan fod y ddau benderfyniad bellach yn rhan o gamau cyfreithiol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Awst 2023
- Cyhoeddwyd12 Awst 2023
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2023