Brexit: Gwerthu cynnyrch i Ewrop wedi 'stopio fel tap'
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni wafflau o Ddyffryn Teifi wedi dweud fod effaith Brexit yn "dal yn wael" hyd heddiw.
Yn dathlu 40 mlynedd ers sefydlu eleni, mae cwmni Tregroes Waffles yn Llandysul yn dweud fod Brexit yn eu dal yn ôl rhag gwerthu yn Ewrop.
Dywedodd rheolwr gwerthiant y cwmni, Rhys Jones, fod busnes yn Ewrop wedi "stopio fel tap", er bod gwerthiant ym Mhrydain wedi cynyddu.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod gwerth masnachu ar gynnydd ac y gwnaeth Cymru allforio bron i £21bn o nwyddau y llynedd.
Sefydlwyd cwmni Tregroes Waffles ym 1983 gan Kees Huysmans.
Yn wreiddiol o'r Iseldiroedd, daeth Mr Huysmans i Gymru gyda'r bwriad o ffermio.
Fe dyfodd lysiau a magu buwch dros y gwanwyn a'r haf, ond erbyn yr hydref roedd y llysiau wedi'u gwerthu a'r fuwch yn sych.
Felly, aeth yn ôl i'r Iseldiroedd i brynu haearn gwneud wafflau, er mwyn sicrhau incwm dros y gaeaf.
"Roedden i'n meddwl, os maen nhw'n gallu gwerthu gymaint o waffles yn Yr Iseldiroedd bydda i'n siŵr o fod yn gallu gwerthu rhai fan hyn," meddai.
O stondin ar noson tân gwyllt yn Henllan, i farchnadoedd, ffeiriau a sioeau lleol, aeth y busnes o nerth i nerth, gyda'r wafflau yn cael eu gwneud â llaw o'i gartref - yr hen siop yn Nhregroes.
Ym 1994, symudodd y popty i safle mwy o faint yn Llandysul, lle mae'r wafflau taffi yn cael eu cynhyrchu hyd heddiw.
Er bod y rysáit bron yr un peth ers y cychwyn, mae'r dull o greu yn "hollol wahanol" yn ôl y sylfaenydd.
"Pan ddechreuon ni, y waffle iron cynta, o'n i'n gallu gwneud 200 o waffles yr awr," meddai Mr Huysmans, sydd bellach yn rhugl yn y Gymraeg.
"Fe aethon ni lan i tua 1,000 o waffles yr awr yn Nhregroes, wedyn pan 'naethon ni ddod 'ma [i Landysul], 'naethon ni dyfu slow bach lan i 4,000 yr awr, a heddiw ma' nhw'n gwneud 18,000 yr awr. Mae'n anhygoel."
Cystadleuaeth ym marchnad Ewrop
Er bod gwerthiant yn tyfu a pheiriant newydd yn galluogi'r busnes i gynhyrchu tua 20 miliwn o wafflau bob blwyddyn, mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn dal i gael effaith ar y busnes.
"Mae'n cystadleuaeth ni i gyd yn Yr Iseldiroedd," meddai Rhys Jones, rheolwr gwerthiant y cwmni.
"Mae'n haws iddyn nhw. Mae eu prisiau nhw o ran logistics yn well, o ran dosbarthu o gwmpas Ewrop. I ni i gystadlu yn Ewrop, mae'n rili anodd."
Wedi iddo godi pryderon am adael yr UE yn y gorffennol, ychwanegodd Mr Huysmans fod y sefyllfa "dal yn wael".
"Mae lot o beiriannau yn dod o'r cyfandir - spare parts, er enghraifft. Cyn Brexit roeddech chi'n gallu anfon e-bost ac roedden nhw yma o fewn cwpl o ddiwrnodau.
"Ar ôl Brexit, cyn bod e'n mynd trwy customs a cyn bod e'n cyrraedd ni, mae'n gallu bod yn ddwy, tair, pedair wythnos.
"Oherwydd dim ond un lein sydd gyda ni, mae'n rhaid i ni gadw lot yn fwy o spare parts yma i wneud yn siŵr bod ni wastad yn gallu cadw fynd."
Dywedodd fod y gwaith papur hefyd wedi ychwanegu at y pwysau gwaith ers gadael Ewrop.
"O'r blaen, doedd dim lot o wahaniaeth rhwng gwerthu i Gaerdydd a gwerthu i Baris," meddai. "Nawr, mae'r broses yn very involved.
"Mae rhywun gyda ni yma sy'n gwybod pa ddogfennau a pha ffurflenni i'w llenwi ond mor gynted mae rhywun yn gwneud camgymeriad, mae'r stoc yn aros rhywle, mewn rhyw sied, yn heneiddio cyn bod pobl yn gallu mwynhau e."
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Adran Fusnes a Masnach Llywodraeth y DU: "Mae'r ffeithiau'n dangos bod gwerth masnach wedi cynyddu.
"Allforiodd Cymru bron i £21bn o nwyddau'r llynedd - cynnydd o £3.3bn mewn prisiau cyfredol o'r lefelau cyn Covid.
"Mae gennym ni becyn cymorth wedi'i deilwra i allforwyr o bob maint.
"Mae hyn yn cynnwys ein Gwasanaeth Cymorth Allforio, Cynghorwyr Masnach Ryngwladol a Chyllid Allforio'r DU, i gyd wedi'u targedu at gael busnesau ar draws economi'r DU i allforio mwy."
Tyfiant ym Mhrydain
Tra bod gwerthiant Ewropeaidd wedi ei atal mae'r cwmni yn Nhregroes yn cyfaddef, fodd bynnag, fod rhwystrau Brexit wedi cynnig cyfle ym Mhrydain.
"Mae'n anoddach iddyn nhw [Yr Iseldiroedd] hala eu cynnyrch nhw draw i Brydain" meddai Rhys Jones.
"Ni'n gallu cystadlu tamaid bach yn well nawr achos mae'n haws i ni gystadlu am y contracts mawr wrthyn nhw."
Mae cynnyrch newydd fel wafflau bach a bisgedi hefyd ar y gweill, ac mae'r busnes yn ffynnu ym marchnad America.
"Pan mae amser yn mynd yn galetach, mae pobl mo'yn rhyw fath o treat i gadw'r ysbryd lan," meddai Mr Jones. "Mae gwerthiant dal yn tyfu."
Mae'n dweud iddo sylwi, fodd bynnag, fod pobl yn tueddu i brynu llai o bacedi o wafflau ar y tro yn ddiweddar.
"Yn Sioe Frenhinol Cymru fis diwetha', fe welon ni habits pobl yn newid tamaid bach achos y cost of living crisis," meddai.
"Yn lle prynu y deals, felly saith neu chwe pecyn, ro'n nhw'n prynu un pecyn, ond roedd mwy o bobl yn prynu un neu ddau becyn, so smaller basket spends ond the frequency was higher."
Yn ôl Mr Huysmans, mae'r wafflau yn debyg i siocled - mae pobl wastad yn barod i brynu treat, beth bynnag eu sefyllfa.
"Pan mae'r economi yn wael, ni'n gwerthu comfort food," meddai. "Pan mae'r economi yn dda, ni'n gwerthu luxury articles.
"Ni'n gwerthu pleser, so ni'n gwerthu bwyd, ni'n gwerthu pleser, ac mae negeseuon fel 'na yn bwysig iawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2023
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2023