Concrit: Disgwyl diweddariad ar RAAC mewn ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford wedi dweud nad ydy RAAC yn beryglus ynddo'i hun, a bod modd i'w reoli a'i gynnal yn briodol

Bydd mwy o fanylion am faint y broblem o goncrit diffygiol mewn ysgolion yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener.

Mae pryderon dros goncrit RAAC - sy'n gallu dymchwel yn ddirybudd - wedi arwain at gau dros 100 o adeiladau addysgol yn Lloegr.

Hyd yma dim ond dwy ysgol ym Môn sydd wedi'u heffeithio yng Nghymru, ond dyw gweinidogion heb ddiystyru bod mwy.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bydd y diweddariad yn darparu'r "sicrwydd sydd ei angen" i ysgolion.

Ond yn siarad ddydd Iau, dywedodd hefyd y gallai arolygiadau barhau i mewn i'r wythnos nesaf.

Os mai dyna'r achos, "byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth honno cyn gynted ag y bydd wedi'i gadarnhau," meddai Mr Drakeford.

Disgrifiad,

Beth yw concrit RAAC a pham ei fod yn beryglus?

Yn ystod yr wythnos fe ddywedodd y prif weinidog "nad yw'r un ysgol arall" wedi ei adnabod sy'n cynnwys RAAC (reinforced autoclaved aerated concrete).

Yn yr un cyfweliad dywedodd nad oedd y deunydd yn beryglus ynddo'i hun, a bod modd i'w reoli a'i gynnal yn briodol.

Wedi i Lywodraeth y DU gyhoeddi'r penderfyniad i gau ysgolion yn Lloegr fe ddechreuodd Llywodraeth Cymru siarad â chynghorau i adolygu'r wybodaeth oedd ar gael.

Mae ffynonellau wedi dweud wrth BBC Cymru bod cynghorau wedi cael hyd at ddydd Mercher i ymateb i Lywodraeth Cymru.

Ar Ynys Môn fe gaewyd dwy ysgol lle mae RAAC yn bresennol.

Erbyn hyn mae Ysgol David Hughes wedi ailagor i rai blynyddoedd, ond nid yw Ysgol Uwchradd Caergybi wedi cael dyddiad ailagor.

Cafodd wardiau hefyd eu cau yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd fis Awst ar ôl canfod y deunydd.

Mae llywodraeth Geidwadol y DU - sydd wedi'u beirniadu gan Lafur am y modd yr ymdriniodd â'r argyfwng - hefyd wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am fod yn rhy araf i ymateb.

Ddydd Iau dywedodd arweinydd Tŷ'r Cyffredin Penny Mordaunt: "Mae'n ymddangos bod blaenoriaethau iechyd a diogelwch y llywodraeth Lafur yng Nghymru yn canolbwyntio ar bobl yn prynu bargeinion bwyd yn hytrach na lwmp o goncrit yn disgyn ar ben plentyn."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Does dim awgrym hyd yma pryd y bydd Ysgol Uwchradd Caergybi yn ailagor i ddisgyblion

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi beirniadu'r Adran Addysg yn Lloegr am beidio â rhannu tystiolaeth o risgiau diogelwch pellach tan nos Sul.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi rhybuddio bod concrit RAAC yn debygol o "gwympo heb fawr o rybudd, os o gwbl".

Defnyddiwyd y ffurf ysgafn yma o goncrit mewn llawer o adeiladau sector cyhoeddus yn y DU o ganol y 1960au i ganol y 1980au.

Dywedodd canllawiau Llywodraeth y DU ar gyfer ysgolion yn Lloegr, a gyhoeddwyd ym mis Awst, bod "cwympiadau sydyn o baneli RAAC mewn toeau a oedd yn ymddangos mewn cyflwr da".