Criw bad achub yn rhoi teyrnged i'w llywiwr

  • Cyhoeddwyd
Alan OwenFfynhonnell y llun, RNLI Moelfre
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alan Owen wedi gwasanaethu bad achub Moelfre ers 34 mlynedd

Mae aelodau criw bad achub wedi rhoi teyrnged i'w llywiwr, a fu farw'n sydyn ar ôl cael ei daro'n wael yn ei gartref tra'r oedd y criw allan yn ateb galwad frys.

Bu farw Alan Owen, cocsyn bad achub Moelfre, yn yr ysbyty ychydig ar ôl cael ei daro'n wael ddydd Llun.

Tua'r un amser roedd criw'r bad allan yn ymateb i ddwy alwad wedi i gwch hwylio bychan droi drosodd gyda thad a'i ddau fab yn y dŵr, a digwyddiad arall lle'r oedd padlfyrddiwr wedi cael ei chwythu o'r lan gan y gwynt. Cafodd pob un eu hachub.

Roedd Alan Owen, 50 oed, wedi gwasanaethu bad achub y pentref ers 34 mlynedd.

Roedd Mr Owen yn uchel iawn ei barch gan y criw a'r gymuned.

Mewn teyrnged iddo dywedodd y criw: "Alan, Al Tŷ Moel, ein cocsyn, ein harweinydd, ein ffrind, fe fyddwn yn dy golli.

Ffynhonnell y llun, RNLI Moelfre
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alan Owen yn uchel ei barch gan y criw a'r gymuned ym Moelfre

"Rydym oll yn diolch iti ac yn dymuno gwyntoedd teg a moroedd tawel i ti."

Bydd yr orsaf ar gau i'r cyhoedd am gyfnod fel arwydd o barch at ei deulu, ac i roi amser i'r criw ddod i delerau â'r golled.

Breuddwyd Mr Owen ers ei blentyndod oedd cael bod yn rhan o griw'r bad achub lleol, ac fe ddechreuodd fel gwirfoddolwr yn ei arddegau, cyn mynd ymlaen i wasanaethu mewn sawl rôl wahanol ar fad achub y glannau a'r bad achub pob tywydd sydd wedi'u lleoli yng ngorsaf yr RNLI ym Moelfre.

Ffynhonnell y llun, RNLI Moelfre
Disgrifiad o’r llun,

'Roedd Alan wastad yn rhoi anghenion pawb arall o flaen rhai fo'i hun,' meddai criw yr RNLI ym Moelfre

Gwirfoddolodd hefyd gyda thîm achub yr RNLI mewn llifogydd yn Cumbria a gogledd Cymru yn 2015.

"Yn 2019 cafodd Alan wireddu ei freuddwyd a'i uchelgais o fod yn gocsyn llawn amser ar fad achub Moelfre, rôl a gyflawnodd heb ddim ond ymroddiad a thosturi, nid yn unig tuag at ei griw ond tuag at y cyhoedd, a'r rhai â'u hachubodd oedd mewn perygl ar y môr," ychwanegodd y criw.

"Roedd Alan wastad yn rhoi anghenion pawb arall o flaen rhai fo'i hun a byddwn yn fythol ddiolchgar iddo am yr aberth hon, ac yn ei ddyled am byth.

"Fel criw a chymuned rydym yn cydymdeimlo â'i bartner, Mags, ei fam Helen, a Magic, ei gi, ac yn meddwl amdanoch."

Bydd yr orsaf yn parhau i wasanaethu fel arfer yn dilyn ei farwolaeth, gyda ffrind gorau Alan, Martin Jones, yn cymryd drosodd fel cocsyn.

Pynciau cysylltiedig