'Arwr' yn achub chwech o badlfyrddwyr ifanc

  • Cyhoeddwyd
Bad achub MoelfreFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwylwyr y Glannau wedi disgrifio'r dyn a dynnodd y plant o'r dŵr yn "arwr"

Mae chwech o blant wedi cael eu hachub gan hwylwyr dingi sydd wedi cael ei ddisgrifio'n "arwr lleol" wedi iddyn nhw fynd i drafferthion wrth badlfyrddio.

Roedd y plant yn defnyddio dau badlfwrdd pan wnaeth pethau ddechrau fynd o chwith oddi ar Draeth Lligwy, Ynys Môn o gwmpas 16:00 brynhawn Sadwrn.

Cafodd bad achub Moelfre a thimau achub Gwylwyr y Glannau Moelfre a Bae Cemaes eu hanfon mewn ymateb.

Ond hwyliwr dingi oedd y cyntaf i gyrraedd y plant.

"Roedd yn croesi'r bae ac fe welodd yn fuan beth oedd yn digwydd," dywedodd llefarydd ar ran canolfan gydlynu gwasanaeth Gwylwyr y Glannau.

Roedd y dyn, meddai, wedi gwneud "job arbennig" gan achub y plant trwy eu codi o'r dŵr.

Cafodd y plant eu trosglwyddo wedi hynny i'r bad achub, eu cludo i'r lan a chael cymorth i gynhesu cyn eu dychwelyd i ofal eu rhieni.

"Roedd un plentyn, merch, yn eithaf sâl," ychwanegodd y llefarydd. "Fe wnaethon ni roi cyngor i'r rhieni fynd â hi i Ysbyty Gwynedd ym Mangor."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth y plant i drafferth oddi ar yr arfordir ger traeth Lligwy, Moelfre

Yn ôl Osian Roberts, sy'n aelod o dîm bad achub Moelfre, roedd y criw wedi "amau" y byddai trafferthion oherwydd y tywydd braf a'r gwynt ar y diwrnod.

"Oeddan ni'n amau ella' bo ni'n mynd i gael galwad neu ddwy wrth sbïo allan ar sut oedd cyflwr y môr a sut oedd amodau'r tywydd.

"Ddiwadd y p'nawn neu ganol p'nawn, dyna oedd yr achos," dywedodd wrth siarad ar Dros Frecwast.

"Fel na'th y bad achub gyrraedd i lle'r oeddan ni'n debygol o ffeindio'r plant, dyna lle oeddan nhw i gyd, neu pedwar o'r chwech yn ista' tu mewn i dingi hwylio un o'r dynion lleol."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd criwiau wedi rhagweld problemau oherwydd y tywydd braf a'r gwynt, meddai Osian Roberts

"Yn bendant, roeddan nhw mewn trafferthion, oeddan nhw'n defnyddio rhyw botel plastig i gael gwared â dŵr o'r dingi hwylio.

"Dydy dingi hwylio o'r fath ddim yn bwrpasol i bump o bobl neu un oedolyn a phedwar o blant oedd yn ista' yno am unrhyw gyfnod."

Peryglon

Dywedodd mai ei rybudd i bobl sy'n mynd i badlfyrddio yw i sicrhau eu bod wedi gwirio rhagolygon y tywydd a bod cyswllt rhyngddynt â rhywun ar y lan.

"Byddwch yn wyliadwrus i wneud yn siŵr eich bod chi yn gwybod be' 'di cyflwr y môr cyn i chi fynd allan ac yn bendant i fynd efo life jacket a gwneud yn siŵr bod gynoch chi fodd o gyfathrebu gyda unrhyw un ar y lan a bo' nhw'n gwybod lle 'dach chi.

"Dydan ni ddim yma i stopio hwyl neb ond yn bendant rhaid i chi fod yn ymwybodol o risgiau ac unrhyw botensial peryglon sy'n dod efo defnyddio padlfwrdd ar y môr.

Pynciau cysylltiedig