Dŵr gwastraff i daclo tanau i warchod cyflenwadau
- Cyhoeddwyd
Bydd un o wasanaethau tân Cymru yn defnyddio dŵr gwastraff i daclo tanau, wrth geisio cael llai o effaith ar yr amgylchedd.
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru sydd wedi cyhoeddi'r cynllun i ddefnyddio dŵr gwastraff wedi'i drin i daclo tanau.
Mae'r prosiect - sef y cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig - yn ymgais i addasu i effeithiau newid hinsawdd.
Yn ôl gweithwyr tân roedd cyfnodau o sychder y llynedd yn heriol i'r gwasanaeth, felly'r gobaith yw y bydd y cynllun yn lleihau'r pwysau.
Mewn partneriaeth â Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn treialu'r defnydd o ddŵr carthion sydd wedi ei lanhau a'i drin gyda golau uwchfioled [UV trydyddol].
Bydd y dŵr yma yn cael ei ddefnyddio i ymladd tanau, fel dewis amgen i ddŵr yfed.
Mae Luke Jenkins yn rheolwr criw gyda'r gwasanaeth yn Aberdaugleddau, Sir Benfro.
"Dwi'n meddwl beth oedd y llynedd wedi dysgu i ni yw bod cyflenwadau dŵr yn dod yn llai dibynadwy," meddai.
"Yn enwedig gyda chyfnodau sychder y llynedd - roedd hi'n anodd."
Arloesi a chynaliadwyedd
Yn ôl y dirprwy prif swyddog tân, Iwan Cray, mae'n rhaid i'r gwasanaeth addasu er mwyn bod yn fwy cynaliadwy.
"Ma'n rhaid i ni feddwl fel gwasanaeth am y dŵr 'y ni'n defnyddio," meddai.
"Dyw e ddim just mor hawdd a rhoi'r beipen yn y llawr a llanw lan pan mae 'na ddiffyg yn yr ardaloedd a reservoirs yn isel ac ati."
Mae yna fwriad i ymestyn y prosiect ar draws gwasanaethau tân ac achub eraill Cymru, ond yn ôl Iwan Cray, mae yna hefyd ddiddordeb yn ardaloedd eraill o'r DU.
"Mae yn rhywbeth arloesol i ddweud y gwir ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad yma. Mae llawer o ddiddordeb yn dod o ardaloedd y de o'r Deyrnas Unedig lle mae 'na ddiffyg dŵr yn ystod misoedd yr haf."
1,800 litr i lenwi peiriant
Mae peiriant tân modern cyffredin â chynhwysedd dŵr o 1,800 litr - gan olygu bod angen cyflenwad sylweddol wrth ymateb i alwadau.
Gall y swm mawr o ddŵr sydd ei angen weithiau achosi problemau i gymunedau, fel pwysedd dŵr isel a dŵr budr.
Mewn rhai achosion mae dŵr wedi gorfod cael ei gludo o ardaloedd eraill os yw'r cyflenwad yn isel, sydd weithiau'n gallu cymryd hyd at awr.
Yn ôl Hywel Griffiths, sy'n ddarlithydd daearyddiaeth ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae'r fenter yn gam i'r cyfeiriad cywir wrth ystyried y tywydd eithafol rydym wedi gweld yn ddiweddar.
"Dwi ddim yn meddwl gallech chi anwybyddu hynny [newid hinsawdd] erbyn hyn," dywedodd.
"Dwi'n meddwl bod tanau yn un her benodol - hynny yw, mae'r cynllun yma'n delio gyda sut chi'n ymladd y tanau. Ond mae angen mynd i'r afael â sut mae'r tanau yn cychwyn hefyd."
'Addasu i'r heriau'
Ychwanegodd Mr Griffiths: "Mae siŵr o fod yn wir bydden ni'n gorfod addasu'r ffordd rydyn ni'n rheoli dŵr yn enwedig wrth ystyried yr eithafon.
"Ni'n debygol o gael mwy o gyfnodau sych a phoeth ond ni hefyd yn debygol o gael mwy o lifogydd.
"Felly mae'r ddau begwn mewn ffordd yn mynd i symud i'r eithafon ac mae angen addasu i'r heriau mae'r ddau o rheiny yn eu cynnig."
Dywed Mark Davies o Dŵr Cymru fod angen i'r gorfforaeth gynllunio o flaen llaw, gyda mwy o gyfnodau sych ar y gweill.
"Mae Cymru yn wlad sy'n cael digon o ddŵr glaw. Felly mae angen gwneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio'r dŵr glaw hynny mor effeithiol ag sy'n bosib.
"Ni'n cynllunio ymlaen rhyw 25 o flynyddoedd i weld sut allen ni wella cyflenwadau dŵr."
Yn ôl y gwasanaeth tân ac achub mae'r fenter hefyd yn cyfrannu at eu nod i fod yn net sero erbyn 2030, a bydd defnyddio dŵr elifiant wedi'i drin ag uwchfioled hefyd yn galluogi criwiau i ymateb yn fwy effeithlon i ddigwyddiadau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2022