Gostyngiad eto yng ngraddau gorau canlyniadau TGAU
- Cyhoeddwyd
Mae graddau TGAU yng Nghymru wedi gostwng o'u cymharu â'r llynedd wrth i'r canlyniadau symud yn agosach at lefelau cyn y pandemig.
Fel yn achos y canlyniadau Safon Uwch wythnos yn ôl, roedd y graddau gorau yn dal yn uwch nag yn 2019 - y tro diwethaf cyn Covid i ddisgyblion orfod sefyll arholiadau.
Roedd 21.7% o'r graddau TGAU yn A neu'n A*, a 64.5% yn A* i C.
Dywedodd Cymwysterau Cymru, sy'n goruchwylio'r arholiadau, bod terfynau graddau yn is yn achos rhai pynciau er mwyn cefnogi myfyrwyr a gafodd eu heffeithio gan y pandemig.
Beth oedd y graddau eleni?
Roedd 64.9% rhwng A*-C, cwymp o 68.6% haf y llynedd pan gafodd graddau eu pennu gan athrawon.
Ar y brig, cafodd 21.7% raddau A* ac A, cwymp arall ond yn uwch na chyn y pandemig.
Roedd 300,409 o gofrestriadau arholiad - sydd 3.4% yn is na 2022, ond yn uwch na 2019.
O'r rheiny, roedd 6.4% yn ddisgyblion Blwyddyn 10 yn sefyll arholiad flwyddyn yn gynnar.
Roedd cynnydd o 30% yn y nifer safodd arholiadau mewn Astudiaethau Busnes, a chynnydd mewn ceisiadau Economeg hefyd.
Ond cwympo mae'r niferoedd sy'n dewis Almaeneg, Ffrangeg a Llenyddiaeth Saesneg.
Roedd y gefnogaeth arbennig eleni wrth gynnal arholiadau TGAU ffurfiol yn cynnwys gwybodaeth ymlaen llaw am gynnwys arholiadau a dull cefnogol o raddio.
Mae arweinwyr ysgolion wedi dweud bod "symud yn raddol" ar lefelau cyn y pandemig yn well na "cwymplaniad".
Gan longyfarch disgyblion ar draws Cymru wrth ymweld ag Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles: "Dylech i gyd fod yn falch o gyrraedd y garreg filltir bwysig hon yn eich addysg.
"Rwy'n croesawu'r canlyniadau hyn wrth i'n taith yn ôl at drefniadau cyn y pandemig barhau."
Ychwanegodd: "Bu'n rhaid i'r dysgwyr yma wynebu heriau anferth a wnaeth effeithio ar eu cyfleoedd dysgu dros y blynyddoedd diwethaf wrth iddynt symud drwy eu haddysg uwchradd ac ymlaen i'w TGAU.
"Ar draws Cymru mae'r canlyniadau'n ymddangos yn debyg i beth oedden ni'n disgwyl gweld.
"O'n ni'n cynllunio ar y sail y byddai canlyniadau rhyw hanner ffordd rhwng lle oedden nhw cyn Covid a'r canlyniadau gafon ni llynedd, a dyna beth y'n ni 'di gweld ar y cyfan."
Mesurau Covid i ddod i ben
Dywedodd Mr Miles ei bod yn debygol y bydd pethau'n newid flwyddyn nesaf gyda mesurau Covid - fel gwybodaeth am gynnwys arholiadau o flaen llaw - yn cael eu dileu.
"Bydd Cymwysterau Cymru'n gwneud datganiad ym mis Medi ond maen nhw wedi dweud eisoes bod nhw'n bwriadu erbyn haf nesa' i fynd nôl i'r approaches oedd gyda ni cyn y pandemig."
Ond ychwanegodd y bydd cymorth ar-lein gan y llywodraeth yn debygol o barhau.
"Un o'r pethau y'n ni wedi neud eleni fel llywodraeth yw darparu adnoddau ar-lein i gefnogi pobl ifanc gyda'u harholiadau o ran technegau adolygu ond hefyd o ran iechyd meddwl a phryder, a byddwn ni'n disgwyl gallu parhau gyda hwnna yn y dyfodol."
"Doeddwn i methu â chysgu neithiwr yn poeni am y canlyniadau," meddai Gwawr o Ysgol Gyfun Llangefni a gafodd 13 gradd A*.
Roedd canlyniadau Greta hefyd yn ardderchog - rhes o'r graddau uchaf.
'Pwyll cyn cymharu o flwyddyn i flwyddyn'
Mae disgyblion a'u hathrawon wedi sicrhau "cyfres cryf arall o ganlyniadau, gan adlewyrchu blynyddoedd o waith caled," yn ôl yr undeb athrawon NASUWT.
Ond maen nhw'n rhybuddio bod canlyniadau eleni "yn anochel yn amlygu rhywfaint o amrywiad o'u cymharu â'r ychydig flynyddoedd diwethaf" a bod angen "pwyll cyn cymharu canlyniadau o flwyddyn i flwyddyn".
Dywed yr undeb bod lleihau'r gefnogaeth ôl-pandemig i ddisgyblion yn raddol yn beth da, ond "dyw ddim yn cuddio'r ffaith bod athrawon wedi cael eu gadael i wneud eu gorau heb y lefelau angenrheidiol o fuddsoddiad" i helpu disgyblion ddal i fyny â'u haddysg.
Ychwanegodd prif swyddog NASUWT yng Nghymru, Neil Butler: "Ni ddylai pobl ifanc fod dan anfantais oherwydd yr amrywiaeth yng ngraddau eleni.
Fe fydd "yn hanfodol", meddai, i golegau, prifysgolion a chyflogwyr "gydnabod amgylchiadau penodol a chyd-destun graddau eleni a gweithredu'n sensitif wrth ystyried cynnig llefydd neu gyflogaeth i bobl ifanc".
Dadansoddiad Bethan Lewis, Gohebydd Addysg a Theuluoedd
Yr un yw'r stori heddiw a phan gafodd canlyniadau Safon Uwch eu cyhoeddi union wythnos yn ôl - graddau lawr o'i gymharu â'r llynedd ond yn uwch nag yn 2019.
Fe gafodd disgyblion TGAU, fel rhai Safon Uwch, rhywfaint o wybodaeth cyn arholiadau i helpu gyda'r adolygu a ffiniau graddau mwy hael.
Y bwriad oedd osgoi cwympo'n ôl yn rhy sydyn at lefelau graddau cyn y pandemig, ar ôl cyfnod o ganlyniadau llawer uwch.
Roedd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles yn Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, a dywedodd ei fod yn disgwyl i'r gefnogaeth ychwanegol yna ddiflannu flwyddyn nesaf.
Ar yr un pryd mae'n cydnabod na fydd effaith y pandemig ar ddisgyblion wedi mynd.
Ac mae pennaeth yr ysgol ymhlith y rheini sy'n dweud y bydd angen rhoi ystyriaeth arbennig i ddisgyblion flwyddyn nesaf hefyd, a thu hwnt.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2023
- Cyhoeddwyd17 Awst 2023
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2023