Diwrnod canlyniadau TGAU: 'Dwi ar bigau'r drain'
- Cyhoeddwyd
"Dwi ar bigau'r drain eisiau gwybod be' dwi 'di gael", meddai Rhodd, 16, sy'n derbyn ei chanlyniadau TGAU ddydd Iau.
Mae'r disgybl yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, yn un o'r miloedd fydd yn cael gwybod eu graddau, wythnos ar ôl cyhoeddi canlyniadau Safon Uwch.
Mae disgwyl i'r patrwm Cymru-gyfan fod yn debyg, sef canlyniadau is na llynedd ond uwch na chyn y pandemig.
Yn ôl arweinwyr ysgolion, mae disgyblion TGAU eleni wedi wynebu heriau yn sgil y pandemig a'r argyfwng costau byw.
'Dwy flynedd galed'
Bydd myfyrwyr yn derbyn canlyniadau TGAU, Tystysgrif Her Sgiliau a chymwysterau galwedigaethol lefel 1 a 2 ddydd Iau.
Dywedodd Rhodd, o Rosllannerchrugog, ei bod wedi llwyddo i anghofio am yr arholiadau "am wythnos neu ddwy" ar ôl gorffen, ond mae wedi bod yn "cyfri'r diwrnodau" wrth agosáu at y canlyniadau.
Mae'n disgrifio cyfnod TGAU fel "dwy flynedd galed" ac yn yr haf, ar ddiwedd blwyddyn 11, roedd ganddi 18 arholiad.
Yn bersonol, dyw hi ddim yn teimlo bod cyfnod y pandemig wedi effeithio ar ei haddysg yn ormodol.
"Ro'n i'n mwynhau'n gweithio'n annibynnol ac ar-lein a dysgu ar ben fy hun, ond dwi wedi sylwi bod llawer o'n ffrindiau i wedi stryglo cadw'r meddylfryd o weithio adre a gwneud yn siŵr bo' nhw'n codi yn y bore i weithio", meddai.
Mae yna gefnogaeth ychwanegol wedi bod i ddisgyblion eto eleni yn sgil tarfu'r pandemig, gan gynnwys rhoi rhywfaint o wybodaeth o flaen llaw ynglŷn â chynnwys arholiadau a gosod ffiniau graddau'n is.
Yn Lloegr, y penderfyniad oedd i ddychwelyd at y drefn cyn y pandemig eleni.
Mae Cymwysterau Cymru wedi dweud mai'r bwriad yw gollwng y cymorth ychwanegol y flwyddyn nesaf.
Yn ôl Rhodd, roedd gwybodaeth o flaen llaw am y pynciau allai godi mewn arholiad yn "gymaint o help".
Nawr mae'n edrych ymlaen at y bennod nesaf a mynd i'r chweched i wneud ei Safon Uwch.
Roedd 307,920 o gofrestriadau ar gyfer arholiadau TGAU yn haf 2021 - 3.3% yn is o'i gymharu â 2022, ond ychydig yn uwch nag yn 2019.
O'r rheiny, roedd 6.4% yn gofrestriadau blwyddyn 10, sef disgyblion yn gwneud arholiadau blwyddyn yn gynnar - traean yn is na'r flwyddyn gynt.
Llenyddiaeth Saesneg welodd y gyfran uchaf o ddysgwyr blwyddyn 10 yn gwneud yr arholiad - 45% o'r cofrestriadau.
Ond roedd hynny hyd yn oed yn uwch yn 2022, gyda 57% o'r dysgwyr yn gwneud yr arholiad yn gynnar.
Pryderus ond cyffrous
Mae Bowen, 16 o Abertawe, yn gobeithio mynd i'r coleg i wneud ei Safon Uwch ar ôl derbyn ei ganlyniadau TGAU.
Fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, gwleidyddiaeth yw un o'r pynciau y mae am astudio.
Mae'n teimlo "tipyn bach yn bryderus" ond yn gyffrous hefyd.
Mae'n falch bod yna fesurau ychwanegol wedi bod eleni i gydnabod effaith y pandemig ar ei addysg.
"Roedd hynny wedi cael gwared ar lawer o'r straen i fi," meddai.
Parti a'r traeth yw'r cynlluniau ar ôl y canlyniadau, cyn cofrestru ar gyfer y coleg neu'r chweched.
"Mae'n amser am newid, ac i dyfu lan ac i wneud pethau newydd," dywedodd Bowen.
'Dy'n ni ddim eisiau gweld methiant llwyr'
Ar ôl i arholiadau gael eu canslo yn 2020 a 2021 ac i raddau gael eu pennu gan athrawon, cafodd mesurau eu cyflwyno i gefnogi disgyblion pan gafodd arholiadau eu cynnal yn 2022.
Roedd y canlyniadau'n parhau i fod yn uwch na chyn y pandemig felly cafodd y penderfyniad ei wneud i fod yn hael wrth osod ffiniau graddau eleni eto ar y "siwrne" 'nôl i'r broses cyn Covid.
Dywedodd Eithne Hughes, cyfarwyddwr undeb arweinwyr ysgolion a cholegau ASCL Cymru bod disgyblion wedi wynebu sawl her.
Mae absenoldeb yn parhau'n broblem, a chyn yr arholiadau roedd lefelau presenoldeb yn isel iawn ymhlith plant o gefndiroedd mwy difreintiedig, meddai.
Ar ben hynny roedd yr argyfwng costau byw wedi achosi problemau ychwanegol i rai disgyblion.
Dywedodd Ms Hughes mai'r penderfyniad cywir oedd cadw mesurau i gefnogi disgyblion eleni, a bod hynny'n fwy "caredig".
Ond fe rybuddiodd y byddai angen ystyried mesurau y flwyddyn nesaf hefyd mewn rhai pynciau pe bai disgyblion yn parhau i'w chael hi'n rhy anodd.
"Beth dy'n ni ddim eisiau gweld yw methiant llwyr mewn rhai pynciau i blant sy'n gwneud eu gorau, ond ble mae'r methiannau tu hwnt i'w rheolaeth nhw," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2023
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd25 Awst 2022