Joyce yn ôl wrth i fwy o fenywod gael cytundebau proffesiynol
- Cyhoeddwyd
Mae seren rygbi saith bob ochr Prydain, Jasmine Joyce yn dychwelyd i garfan Cymru, sydd hefyd wedi rhoi cytundebau proffesiynol i saith o chwaraewyr yn ychwanegol.
Mae Joyce, sydd heb chwarae rygbi 15 bob ochr ers Cwpan y Byd 2022, yn ymuno â'r garfan ynghyd â'r cefnwr Kayleigh Powell ar gytundebau hybrid newydd â Team GB.
Courtney Keight, Hannah Bluck, Carys Williams-Morris, Abbey Constable, Kate Williams, Bryonie King a Megan Davies yw'r chwaraewyr diweddaraf i gael cytundebau.
Mae'r golygu bod nifer aelodau llawn amser tîm merched Cymru yn codi i 32.
Bydd Joyce a Powell ar gael i Gymru yn 2023-24 ond fe fyddan nhw hefyd yn anelu at gynrychioli Team GB yng Ngemau Olympaidd Paris y flwyddyn nesaf.
Mae Joyce, 27, eisoes wedi cystadlu yng nghystadleuthau saith bob ochr yng ngemau 2016 a 2020.
Daw'r cytundebau diweddaraf wrth i dîm Ioan Cunningham baratoi i wynebu timau gorau'r byd yn haen uchaf y twrnamaint newydd WXV yn Seland Newydd ym mis Hydref.
Dywedodd Cunningham: "Rydym yn falch o allu cynnig y cytundebau i'r chwaraewyr yma ac mae'n fuddsoddiad sylweddol yn ein rhaglen ac yn dangos gwerth rygbi merched i URC (Undeb Rygbi Cymru)."
Dyma drydedd blwyddyn y tîm cenedlaethol gyda chwaraewyr proffesiynol. Ar ôl dod yn drydydd ddwywaith yn olynol ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae Cymru yn eu safle uchaf erioed - chweched - yn rhestr detholion y byd.
Mae Carys Williams-Morris gyda'r garfan ers dechrau'r flwyddyn oherwydd ei statws fel athletwr elitaidd gyda'r Llu Awyr Brenhinol, ond mae hi nawr ar gytundeb llawn amser gydag URC mewn partneriaeth â'r Awyrlu.
Mae'r cyn-swyddog gyda Llynges Seland Newydd, Kate Williams yn cael ei chytundeb cyntaf ar ôl chwarae ei gêm gyntaf i Gymru yn y Chwe Gwlad, ynghyd â Bryony King ac Abbie Constable.
Fe ddychwelodd Hannah Bluck i'r tîm cenedlaethol yn ystod ymgyrch Chwe Gwlad eleni.
Bydd Joyce a Powell yn gymwys i chwarae yn nhwrnamaint WXV ac ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y flwyddyn nesaf, ond fydd Powell a Courtney Keight yn colli'r daith i Seland Newydd oherwydd anafiadau.
Fydd Ffion Lewis hefyd yn absennol, ac mae'r maswr Elinor Snowsill newydd ymddeol o'r gêm.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2023