Ateb y Galw: Sam Robinson
- Cyhoeddwyd
Y bugail, y bardd a'r cynhyrchydd seidir, Sam Robinson sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Rhedeg o gwmpas yn noeth yn yr ardd yn ddwy oed, wedi sesh o rolio yn y mwd.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Traeth Ynys Las, am weld breichiau Cymru yn ymestyn o Sir Benfro yr holl ffordd i Ben Llŷn.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson Y Fari Lwyd yn Y Llew Coch Dinas Mawddwy, pob blwyddyn!
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Ffaffiwr anobeithiol o optimistaidd.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Le Tour De Côr! Hynny 'di taith beicio Awst 2019 efo Côr Meibion Machynlleth o Gaergybi i Gaerdydd i godi pres at uned cemotherapi Bronglais. Taith chwedlonol.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Cerdded i mewn i bostyn lamp stryd tra ar ddêt. Dwi 'di neud hynny sawl gwaith acshili.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dyddiau diwetha 'ma, wrth wrando ar Yr Wylan Gefnddu gan Gwen Màiri.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Sawl un! Ffaffio yw'r un gorau gen i. Fydda i'n hwyr yn cyrraedd fy nghladdu fy hun siŵr.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?
Y nofel Hill gan Jean Giono, am gofio bod y tir yn fyw, yn llawn meddwl, a gallu i fagu dicter.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Llywarch Hen. Roedd o'n byw mewn cwt lawr y lôn mae'n debyg. Neu Nansi Richards, roedd hi'n dipyn o hwyl ar y wisgi nôl sôn.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod
Dwi wedi hopio freight trains dros yr Unol Daleithiau.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Canu, dawnsio ac yfed seidir.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Tydw i ddim yn foi lluniau rili. Go brin ydw i'n cofio cymryd lluniau deud y gwir. Ond dwi yn hoffi fy lluniau o'r cathod acw...
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Tylluan Cwm Cowlyd.
Hefyd o ddiddordeb: