Lle awn ni am dro heddiw?
- Cyhoeddwyd
Efallai fod y gwyliau haf ar fin dod i ben, ond mae yna dal amser i fynd allan am y dydd fel teulu.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi llunio rhestr o lwybrau ledled Cymru sydd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a phram - felly gall y teulu i gyd gael dôs o awyr iach, a chael ymweld â gerddi prydferth a gweld golygfeydd gwych.
Castell y Waun, Wrecsam
Wedi'i leoli ar dir y castell canoloesol, mae 5.5 erw o erddi heddychlon yn aros amdanoch i'w harchwilio, gan gynnwys yr Ardd Rosod a Thŷ'r Hebog, a golygfeydd trawiadol dros Sir Gaer a Sir Amwythig.
Hygyrchedd: Llwybrau wyneb caled; Tramper (sgwter symudedd pob tir), cadeiriau olwyn â theiars oddi ar y ffordd, a bws gwennol ar gael; llwybr ar lethr i'r Ardd Isaf, ond â wyneb addas i gadeiriau olwyn; meinciau.
Tŷ a Gardd Plas Newydd, Ynys Môn
Yn swatio ar lannau'r Fenai, gyda golygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri, mae digonedd i'w weld yn nhŷ a gardd 40 erw Plas Newydd. Ewch i ymweld ag un o furluniau mwyaf y Deyrnas Unedig, gan yr arlunydd Rex Whistler; ewch i edrych ar y planhigion ecsotig ac arbennig, neu geisio cael cip ar wiwer goch yn y Goedardd.
Hygyrchedd: Llwybr tarmac, addas i gadeiriau olwyn a phramiau; meinciau a seddi cyson; llwybr graean cadarn i'r plasty.
Dinefwr, Sir Gaerfyrddin
Rhwng mis Mawrth a mis Hydref, dilynwch y llwybr drwy goedwigoedd corsiog hardd y parc ceirw canoloesol, er mwyn chwilio am geirw brith a rhai o'r mamaliaid ac adar sydd anoddaf i ddod o hyd iddyn nhw, o ddyfrgwn i ddringwyr coed gwyn.
Hygyrchedd: Llwybr 500 metr drwy goedwigoedd corsiog; dreif tarmac i'r prif giatiau, yna llwybr graean wedi ei gywasgu; ramp i'r tŷ; lifft o fewn y tŷ; mynediad gwastad i'r caffi.
Taith bedd Gelert, Eryri
Dilynwch y llwybr o amgylch y daith gylchol yma yng nghanol Eryri a dysgwch am chwedl y Tywysog Llywelyn a'i gi ffyddlon, Gelert, a roddodd ei enw i'r pentref; lle perffaith i ymgolli ym myd natur.
Hygyrchedd: Llwybr concrid addas i bramiau; mynediad ramp a llethr fach at bontydd; giatiau hawdd eu gwthio; meinciau.
Taith y Llyn Addurnol, Dolmelynllyn, Eryri
Yn 1936, dechreuodd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ofalu am 1,700 erw o dir yn Ne Eryri sydd wedi ei ddynodi fel SSSI (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) a SAC (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig).
Chwiliwch am eogiaid, sewin, gweision y neidr a bywyd gwyllt arall wrth i chi grwydro'r llwyfannau gwylio sy'n ymestyn allan dros ymyl y llyn.
Hygyrchedd: Llwybr hawdd, gwastad ag arwyneb caled; toiledau hygyrch gerllaw; man parcio Bathodyn Glas ger y llyn.
Erddig, Wrecsam
Ewch am dro i weld y lawntiau bendigedig, parterre Fictoraidd, rhodfeydd o goed leim plethedig a dau bwll mawr neu 'gamlesi'; mae digon i'w weld yno.
Hygyrchedd: Llwybrau llydan, gwastad, addas i bramiau; ramp yn yr ardd; meinciau.
Tŷ Tredegar, Casnewydd
Mae digon i'w ddarganfod yn y gerddi a'r parcdir yn Nhŷ Tredegar; o ardd y berllan gyda'i blodau gwyllt a'i choed afalau, yr Ardd Gedrwydd gyda'i gwelyau llysiau, a Gardd yr Orendy gyda'i llawr addurniadol cywrain, a mwy. Yn yr Ardd Golchdy, mae planhigion a llysiau sy'n gyfeillgar i wenyn, ac mae'r parcdir yn llawn bywyd gwyllt drwy'r flwyddyn.
Hygyrchedd: Llwybrau llydan, addas i gadeiriau olwyn a phramiau; meinciau; llwybrau tarmac a graean; tamper ar gael i'w logi.
Gerddi Dyffryn, Caerdydd
Yn y gerddi heddychlon yma ar gyrion Caerdydd mae rhywbeth newydd i'w ddarganfod ar bob ymweliad, o'r ystafelloedd gardd cain, y lawntiau ysgubol, gardd rhosod persawrus, a gardd gegin sydd yn tyfu pob math o ffrwythau, llysiau a blodau, heb anghofio'r Tŷ Gwydr Trofannol sy'n fwrlwm o bethau rhyfeddol hyfryd o degeirianau a gwinwydd i gacti a phlanhigion suddlon (succulents).
Hygyrchedd: Cadeiriau olwyn, sgwter symudedd a bygi ymwelwyr ar gael; llwybrau gwastad, heb risiau; llwybrau tarmac a graean.
Llanerchaeron, Ceredigion
Mae digon o fannau i'w harchwilio ar y tir sy'n amgylchynu fila Sioraidd wych Llanerchaeron. Dilynwch y llwybrau o amgylch y llyn tawel neu ymweld â'r ardd lysiau o'r 18fed ganrif, sy'n gartref i goed ffrwythau hynafol, gwelyau blodau lliwgar, a gardd berlysiau bersawrus.
Hygyrchedd: Ramp concrid yn arwain at yr ardd; llwybrau llydan, gwastad; meinciau.
Rhosili, Penrhyn Gŵyr
Wedi'i leoli ar ran mwyaf Gorllewinol Penrhyn Gŵyr, mae Bae Rhosili yn hafan i fywyd gwyllt, gyda morloi llwyd, adar morol a blodau gwyllt i'w gweld. Ewch am dro ar hyd pen y colgwyn i hen safle Gwylwyr y Glannau, i fwynhau golygfeydd hyfryd traeth hir Rhosili, cyn cael cipolwg ar yr ynys lanw, Pen Pyrod.
Hygyrchedd: Taith gerdded addas i bramiau a chadeiriau olwyn; llwybrau tarmac llydan, yna llwybr glaswellt byr; meinciau.
Castell Penrhyn a'r Ardd
Cyfle i ymweld â'r castell ffantasi yma - gyda sylfeini diwydiannol a threfedigaethol - sydd wedi'i amgylchynu gan ardd furiog, dolydd a choetir sy'n edrych dros arfordir gogledd Cymru.
Hygyrchedd: Llwybrau graean rhydd, heb risiau; llwybr â ramp; meinciau a byrddau picnic hygyrch; mynediad gwastad i'r castell; gwasanaeth bygi ymwelwyr.
Stagbwll, Sir Benfro
Mae amrywiaeth eang o dirweddau i'w mwynhau yn Ystad Stagbwll, o goetiroedd a thraethau i lynnoedd dŵr croyw a gerddi trawiadol. Beth am ddilyn y llwybr tua Chei Stagbwll i weld golygfeydd arfordirol, neu chwiliwch am lilïau dŵr ar hyd y llwybr tua Llynnoedd Bosherton, cyn cyrraedd Traeth De Aberllydan.
Hygyrchedd: Tramper a chadair olwyn traeth ar gael; mynediad ramp i ystafell de'r Boathouse.
Gardd Bodnant, Conwy
Gardd sy'n arbennig unrhyw adeg o'r flwyddyn, gyda magnolias a rhododendrons yn y gwanwyn, gwelyau llysiau amryliw yn yr haf, caleidosgop o liwiau dail cyfoethog yn yr hydref, a'r Ardd Aeaf liwgar a phersawrus yn y gaeaf. Mwynhewch olygfeydd o'r mynyddoedd o'r Terasau, ac ymweld â beddrod Fictoraidd yn Y Llennyrch.
Hygyrchedd: Llwybrau addas i gadeiriau olwyn a phramiau; seddi a meinciau picnic; mynediad gwastad i Ystafell De'r Pafiliwn.
Hefyd o ddiddordeb: