Bachgen, 10, yn achub ei frawd iau rhag ymosodiad ci
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 10 mlwydd oed wedi dioddef anafiadau wedi iddo achub ei frawd bach rhag ymosodiad gan gi.
Roedd Caio Lewis a'i frawd Jac, sy'n ddau, yn chwarae yn eu gardd yn Cross Hands, Sir Gaerfyrddin, pan wnaeth y ci, sydd wedi'i disgrifio fel ci tarw Ffrengig, redeg i mewn.
Wrth amddiffyn ei frawd cafodd Caio ei gnoi ar ei goes ac roedd angen triniaeth arno yn yr ysbyty.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn gwneud ymholiadau i'r achos.
Roedd y ddau fachgen yn chwarae yn nhŷ eu tad "pan redodd y ci yn syth am Jac", medd eu mam, Lara Poyer.
"Sylwodd Caio y ci yn rhedeg yn syth am Jac ac aeth syth draw a'i wthio allan o'r ffordd," dywedodd.
"Wrth i Jac redeg yn ôl tuag at y tŷ fe wnaeth y ci gnoi Caio ar ei glun."
Fe gludodd Ms Poyer Caio i Ysbyty'r Tywysog Philip, ger Llanelli, lle cafodd ei drin.
Teimla Ms Poyer y byddai'r canlyniad wedi bod yn llawer mwy difrifol pe bai'r ci wedi ymosod ar Jac, gan ei fod yn llai o faint.
"Byddai lle gwnaeth y ci gnoi Caio yn cyfateb i ben ei frawd o ran taldra am fod Jac mor fach, felly gallai fod wedi bod llawer gwaeth.
"[Mae Caio] mewn ychydig o boen ond mae'n gwneud yn dda."
"Rydyn ni'n falch iawn ohono - dangosodd llawer o synnwyr a hyder i neidio o flaen Jac. Mae perchennog y ci wedi ymddiheuro'n fawr am yr hyn a ddigwyddodd.
"Dwi ddim am i'r ci cael ei ladd am ei fod yn gi cafodd ei mabwysiadau ac mae'n amlwg cafodd magwraeth anodd yn y gorffennol."
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod wedi cael gwybod am y digwyddiad a bod ymholiadau'n cael eu gwneud.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2023