Argyfwng ail dai Llydaw 'yr un mor wael â Phen Llŷn'

  • Cyhoeddwyd
DinardFfynhonnell y llun, Getty Images/DAMIEN MEYER
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dinard yn llawn Airbnbs, medd Derec Stockley sy'n treulio cyfnodau hir yn Llydaw

Mae sefyllfa ail dai Llydaw yng ngogledd Ffrainc yn debyg iawn i Gymru gyda "phrisiau wedi mynd drwy'r to", meddai Cymro sy'n byw yn yr ardal.

Mae Derec Stockley yn byw yn Kerlouan yn y gorllewin, ac yn gweld pobl ifanc mewn sefyllfaoedd "tebyg i sefyllfaoedd pobl ifanc ym Mhen Llŷn", wrth i bobl o Brydain, Y Swistir, Yr Almaen a gwledydd eraill brynu tai yn Llydaw.

Yn ddiweddar mae ymgyrchwyr sydd o blaid cael annibyniaeth i Lydaw yn honni eu bod wedi llosgi chwe ail gartref yno eleni.

Mae perchnogion ail dai yn Ffrainc yn wynebu mwy o drethi hefyd, ar ôl i'r Arlywydd Macron newid rheolau.

'Dim cydymdeimlad â llosgi tai'

Wrth siarad ar raglen y Post Prynhawn ar Radio Cymru, dywedodd Derec Stockley bod "pobl ifanc ddim yn gallu fforddio rhentu heb sôn am brynu dim byd".

Daw ei sylwadau wrth i ymgyrchwyr sydd o blaid cael annibyniaeth i Lydaw yn honni eu bod wedi llosgi chwe ail gartref yno eleni.

"Mae 'na brotestio wedi bod gan grwpiau iaith ond mae llosgi tai haf yn beth eitha' newydd", meddai Mr Stockley.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Yn sgil newid i drethi yn Ffrainc, fe fydd teulu Derec Stockley yn gwerthu rhan o gartref genedigol ei wraig

"Rhyw chwech o dai sydd wedi'u llosgi mor belled a phan maen nhw wedi cael eu llosgi maen nhw'n gadael y llythrennau FLB - Front de libération de la Bretagne - ar y walydd.

"Ro'dd yr FLB yn weithgar iawn yn y 70au - yn gosod ffrwydron wrth mastiau teledu i brotestio yn erbyn diffyg Llydaweg ar y teledu, ond yn ôl arbenigwyr ar yr FLB mae'n ymddangos mai unigolion sydd wrthi y tro hyn - dyw hi ddim yn edrych fel bod grŵp mawr o bobl yn cydweithio i 'neud hyn."

"Does dim lot o gydymdeimlad gyda'r ymgyrch llosgi tai haf.

"Mae cydymdeimlad pobl gyda phobl ifanc sydd methu prynu tai - pobl sydd yn yr un sefyllfa â phobl ifanc Morfa Nefyn, Nefyn, Abersoch, Aberdaron a llefydd fel 'na."

Mwy o drethi

Yn sgil newid gan yr Arlywydd Macron, mae perchnogion ail dai yn Ffrainc yn wynebu talu mwy o drethi.

Cyn Ionawr 2023 roedd pob perchennog tŷ yn Ffrainc yn talu treth preswylio - y Taxe d'Habitation - yn ychwanegol i dreth y cyngor ond o dan gylluniau newydd yr Arlywydd Macron dim ond perchnogion ail dai sy'n gorfod talu'r dreth bellach.

Mae 'na bryderon y bydd y trethi yn codi eto, a bod hynny yn ergyd bellach i Brydeinwyr sydd ond yn gallu ymweld â gwledydd yr Undeb Ewropeaidd am 90 diwrnod ym mhob 180 ar y tro wedi Brexit.

Ychwanegodd Mr Stockley nad yw'n gwybod a fydd hynny yn lleddfu'r sefyllfa dai i bobl ifanc Llydaw gan ei bod hi'n ymddangos bod nifer o Brydeinwyr am gadw eu heiddo a nifer â diddordeb mewn prynu o hyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images/Jacques LOIC
Disgrifiad o’r llun,

Yn ddiweddar mae ymgyrchwyr sydd o blaid cael annibyniaeth i Lydaw yn honni eu bod wedi llosgi chwe ail gartre yno eleni

"Ond o ran ni ry'n ni'n bwriadu gwerthu y prif dŷ a oedd yn gartref i'r wraig a gite sydd ar y tir.

"Dan ni'n talu 1,400 ewro y flwyddyn ar hyn o bryd - ac mae hynna ar ben treth y cyngor sydd yn 1,300 ewro a byddwn yn gwerthu i bobl leol.

"Mae rhai pobl estron yn bwriadu symud o 'ma ond eto mae eraill â digon o arian - ni'n sôn am bobl Y Swistir, Yr Almaen a phobl Paris, er enghraifft."

'Airbnbs yn bla'

Dywedodd Mr Stockley hefyd bod hanner y tai ym mhentref genedigol ei wraig yng ngorllewin Llydaw yn dai haf bellach.

"Mae pobl ifanc sy'n byw 'ma ar hyd y flwyddyn yn ei chael hi'n anodd iawn - does dim posib rhentu heblaw sôn am brynu wrth i ail dai wthio prisiau lan.

"Ni dair milltir o'r môr fan hyn ac felly mae'n ardal boblogaidd iawn gyda phobl sy'n chwilio am ail gartrefi neu dai gwyliau."

"Hefyd mae Airbnbs wedi mynd yn bla yma. Ma' rhai llefydd fel Saint-Malo a Dinard yn lefydd hyfryd ond mae 'na lawer o Airbnbs yno sy'n boen yn ôl nifer o bobl sy'n byw yn yr hen dref.

"Mae perchnogion yn gallu cael symiau anhygoel - a mae hyn yn gwthio prisiau eiddo i fyny.

"Ro'dd 'na rywun ar y teledu ddoe yn dweud bod rhai Saeson yn fodlon talu hyd at 1,000 o ewros y noson yn ystod gemau Cwpan y Byd yn Ffrainc."

Pynciau cysylltiedig