Ironman Cymru: 'Os chi'n mynd i wneud e, gwneud e'n iawn!'

  • Cyhoeddwyd
Cystadleuwyr yn nofio yn Ironman Cymru flaenorolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cannoedd o gystadleuwyr yn cymryd rhan yn Ironman Cymru yn flynyddol

Nofio 2.4 milltir yn y môr, seiclo 112 milltir o amgylch cefn gwlad Sir Benfro, a gorffen drwy redeg marathon llawn 26 milltir.

Fel pe bai hynny ddim yn ddigon ynddo'i hun, mae llwybr treiathlon Ironman Cymru, sy'n cael ei chynnal yn Ninbych-y-pysgod bob blwyddyn, yn ei gwneud hi'n un o'r rhai mwyaf heriol yn y byd, yn ôl y gwybodusion.

Dyna'r her fydd yn wynebu cannoedd o athletwyr o bedwar ban byd fydd yn cymryd rhan yn y ras ddydd Sul, gan gynnwys Catherine Griffiths o Lanon ger Llanelli, sy'n cystadlu yno am y tro cyntaf.

Wrth wynebu'r fath sialens gorfforol, y cwestiwn y mae pawb yn ei holi yw pam?

"Mae hwnna'n gwestiwn fi'n gofyn i'n hunan yn aml!" meddai Catherine ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

Ffynhonnell y llun, Nawr yw'r Awr
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Catherine Griffiths yn gorfod seiclo 112 milltir fel rhan o Ironman Cymru

"Ond fi'n credu beth yw e gyda Ironman Cymru yw, mae'r awyrgylch lawr yna yn anhygoel.

"Fi wedi bod lawr yna sawl blwyddyn yn cefnogi ac mae'r gefnogaeth a'r awyrgylch yn anhygoel a fi o hyd 'di gweud liciwn i brofi'r awyrgylch o'r ochr arall - o'r persbectif o gystadlu.

"Nes i ddechre 'neud track run llynedd, a cyn bo' fi'n troi rownd ro'n i 'di cofrestru i wneud yr Ironman 'leni.

"Mae llawer o bobl yn cwestiynu 'pam Ironman Cymru?' achos mae'n cael ei adnabod fel un o'r rhai mwyaf heriol, ond os chi'n mynd i wneud e, gwneud e'n iawn, fi'n gweud.

"Pam lai mynd amdani!"

Ffynhonnell y llun, Nawr yw'r Awr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r nerfau wedi troi'n gyffro i Catherine Griffiths o Lanon, wrth edrych ymlaen at gystadlu yn Ironman Cymru

Mae Nia Cole o Aberteifi yn rhedeg y podlediad treiathlon Nawr Yw'r Awr, a hefyd yn hyfforddi athletwyr - gan gynnwys Catherine - ar gyfer y gamp.

Ar Dros Frecwast bu'n egluro sut mae creu'r lefel o ffitrwydd sydd ei angen er mwyn cwblhau her o'r fath.

"Wel falle bo fi'n biased," meddai, "ond fi'n credu mai'r peth cyntaf ddylech chi wneud yw cael hyfforddwr sy'n gwybod sut i helpu chi.

"Mae e'n broses dwy flynedd os chi heb wneud dim byd fel'na o'r blaen - blwyddyn i buildio base o ffitrwydd a wedyn blwyddyn anodd o hyfforddi gyda tua 10 awr yr wythnos - ar y lleiaf - o seiclo, nofio a rhedeg.

"Mae hwnna'n adeiladu lan i, falle, 18 awr i 20 awr wedyn cyn y dydd ei hunan, felly mae'n gofyn am lot o amser o'ch bywyd chi.

"Mae'n gofyn bod lot o gefnogaeth gyda chi o'ch teulu a ffrindie fel bo' chi'n ffeindio'r amser 'ma i wneud yr holl hyfforddi."

'Y gefnogaeth sydd wedi helpu fi'

Dywed Catherine fod dod o hyd i'r amser wedi bod yn anodd, yn enwedig gan ei bod newydd ddechrau swydd newydd a phrynu tŷ yn ddiweddar.

"Ond mae cael y gefnogaeth o 'nghwmpas i wedi bod o fudd mawr i fi, ac mae Nia wedi rhoi sesiynau strwythuredig i fi bob wythnos so fi'n gwybod be' sy' 'da fi i wneud," meddai.

Mae ei theulu'n chwarae rhan bwysig, meddai, gyda'i thad yn mynd allan i seiclo gyda hi ac yn ei hysgogi i fynd allan yn y glaw i hyfforddi, a'i mam a'i mam-yng-nghyfraith yn gwneud yn siŵr ei bod hi'n bwyta'n iawn.

"Y gefnogaeth yna sydd wedi helpu fi ffeindio'r amser i gyd, a'r ffaith bo' fi wir yn joio!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r digwyddiad yn denu torfeydd mewn pentrefi eraill, fel Arberth, hefyd

Dywed Catherine fod y nerfau bellach wedi troi'n deimlad o gyffro ac edrych ymlaen at brofi ei hun.

"Mae'n rhaid cofio bod y gwaith caled i gyd wedi cael ei wneud dros y flwyddyn ddiwetha', a dydd Sul fydd y cyfle i ddangos y gwaith 'na i gyd, felly mwynhau'r profiad."

Cyn-chwaraewr Cymru'n 'edrych mlaen'

Un arall fydd yn cystadlu ydy cyn-chwaraewr rygbi Cymru, Alix Popham, ar ran ei elusen Head For Change.

Mae'r cyn-flaenasgellwr, 48, yn sicr bod hyfforddi ar gyfer y ras wedi helpu ei iechyd meddwl wrth brosesu ei ddiagnosis o arwyddion cynnar dementia.

"I fi, pan ges i fy niagnosis tair blynedd yn ôl, o'n i eisiau cael amcanion newydd," meddai.

"Dyw e ddim yn mynd i fod yn gyflym. Dyw e ddim yn mynd i fod yn bert. Ond fydda i'n gwneud y ras a sicrhau bod y fedel yna rownd fy ngwddf."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alix Popham bod hyfforddi wedi helpu ei iechyd meddwl wrth brosesu ei ddiagnosis o arwyddion cynnar dementia

Er ei brofiad o hyfforddi'n gyson fel chwaraewr rygbi proffesiynol, mae Popham o'r farn bod paratoi ar gyfer Ironman yn wahanol iawn.

"Rwyt ti ond yn gorfod goroesi am 80 munud ar y cae rygbi. Mae gen i 17 awr i wneud hwn ddydd Sadwrn."

Er ei nerfusrwydd am y nofio, mae'n "edrych ymlaen" at y sialens.

"Yr awyrgylch ar wyneb clogwyn Dinbych-y-pysgod am 06:30 yn y bore, wrth i'r haul godi a'r dorf yn canu anthem genedlaethol Cymru, y gefnogaeth o gwmpas y dref - dwi'n cael goosebumps yn siarad am y peth!"

Gair o gyngor

Mae gan Catherine air o gyngor iddi hi ei hun yn ogystal â'r cystadleuwyr eraill.

"Os 'di pethau'n dechre mynd yn rong peidiwch panicio.

"Os 'dach chi ddim yn teimlo cystal ag o'ch chi'n gobeithio neu os 'dych chi'n cael [problem] mechanical ar y beic, cymerwch eich amser... a defnyddiwch y crowd - bydd y gefnogaeth chi'n cael oddi wrth pobl ar ochr yr hewl yn gallu pwsho chi trwyddo a cadw chi fynd.

"A pan mae rhywun yn gwenu arnoch chi, gwenwch nôl arnyn nhw, a mae hwnna'n 'neud byd o wahaniaeth i'ch diwrnod chi!"