Cost cynnal rasys fel marathon wedi codi'n aruthrol

  • Cyhoeddwyd
Hanner marathon Caerdydd 2022Ffynhonnell y llun, Hanner Marathon Caerdydd

Mae cost cynnal rasys cystadleuol fel marathonau yn gynyddol heriol, yn ôl cwmni o'r gogledd sy'n eu trefnu.

Yn ôl cwmni Always Aim High/Camu i'r Copa, sy'n trefnu triathlon Caerdydd a chystadlaethau eraill, mae costau 40% yn uwch eleni.

"'Dan ni wedi gweld newidiadau andros o fawr," meddai Tim Lloyd o'r cwmni.

"Mae pob dim wedi mynd i fyny. Er bod prisiau ni wedi codi, 'da ni heb godi costau.

"Y macsimwm 'da ni 'di codi cost ticed ydy 5%. Mae 'na gap mawr a dyna ydy'r broblem."

Ffynhonnell y llun, Always Aim Higher / Camu i'r Copa
Disgrifiad o’r llun,

Dyw cwmni Tim Lloyd heb godi prisiau i redwyr eto, er bod cost yr holl drefniadau wedi cynyddu

Fe ddaw'r rhybudd wrth i ddinas Casnewydd gynnal marathon a ras 10K ddydd Sul, lle mae disgwyl y bydd 6,000 o bobl yn rhedeg.

Er nad yw'r gost i redwyr wedi codi yng Nghasnewydd ers 2019, mae'r trefnwyr Run 4 Wales yn rhybuddio bod heriau economaidd sylweddol wrth drefnu'r ras o ganlyniad i'r argyfwng costau byw a chwyddiant.

Yn ôl Matt Newman, prif weithredwr Run 4 Wales, mae'r hinsawdd economaidd yn "anodd", yn enwedig oherwydd bod gan bobl "lai o arian yn eu pocedi" er mwyn talu i redeg.

Mwy yn rhedeg ond llai yn rasio

Mae mwy o bobl yn rhedeg yng Nghymru nag erioed o'r blaen yn ôl James Williams, prif weithredwr Athletau Cymru.

Er y twf, mae'n rhybuddio nad yw'r niferoedd cynyddol yn golygu mwy o bobl yn cofrestru i rasio.

"Mae hanner miliwn o bobl ledled Cymru yn rhedeg bob wythnos," meddai.

"Nid yw hynny o reidrwydd yn golygu'r niferoedd yna yn cymryd rhan mewn digwyddiadau trwyddedig."

Mae Mr Williams yn rhybuddio y gallai costau barhau i godi i'r busnesau sy'n trefnu'r digwyddiadau.

"Busnesau yw'r rhain felly mae'n rhaid iddynt dalu eu costau, a dwi'n meddwl ar ryw adeg - oni bai bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda'n darparwyr - efallai y byddwn yn gweld costau'n parhau i godi."

Mae rhedeg ymhlith y campau "mwyaf hygyrch a rhesymol o ran y gost" yn ôl Mr Williams, gan ychwanegu ei fod yn "galonogol" bod cymaint o bobl yn dewis rasio am ddim mewn digwyddiadau ParkRun ar draws y wlad.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna ffactorau ariannol i'r rhai sy'n rhedeg yn rheolaidd, medd Fay Bowen

Un o'r bobl sy'n ystyried y gost yw Fay Bowen o Gasnewydd, oedd wedi dechrau rhedeg yn ystod y pandemig. Bydd hi'n rhedeg y ras 10K ddydd Sul.

"Nes i ddechrau rhedeg gan feddwl bod e'n ffordd weddol rad o gadw'n ffit ond nes i sylweddoli'n gyflym fod e ddim," dywedodd.

Er bod Fay yn dweud bod rhedeg wedi newid ei bywyd am y gorau, mae'r ochr ariannol yn parhau'n ffactor.

"Mae'n sicr wedi bod yn dipyn o rwystr i mi o ran gwneud rasys sydd ymhellach oddi cartref," meddai.

"Dwi'n credu bod e'n gallu costio cannoedd, yn dibynnu ar ble rydych chi'n mynd. Dwi'n meddwl yn yr hinsawdd sydd ohoni y gallai hynny fod yn rhwystr i bobl."

'Dwi'n rhedeg er cof am fy mrawd'

Un arall sy'n rhedeg yng Nghasnewydd yw Lee Smith. Mae e'n rasio er cof am ei frawd, Dean, a fu farw yn 30 oed ar ôl cael ei daro gan lori.

"Mae'r ras yma yn enfawr i fi a'r holl deulu," meddai.

Ffynhonnell y llun, Lluniau cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lee Smith yn rasio er cof am ei frawd, Dean

Er ei fod yn benderfynol o godi cymaint o arian ag sy'n bosib, mae Lee yn dweud bod y gost yn bryder iddo.

"Nid cost y ras yn unig yw hi. Mae rhaid meddwl am y pethau sydd angen arnoch chi - y bwyd, yr esgidiau, yr offer. Mae e'n gallu mynd yn lot."

Fe gafodd Lee ostyngiad am brynu tocynnau i Farathon Casnewydd a Hanner Marathon Caerdydd ar y cyd.

Mae'n credu y byddai mwy o gymhellion yn annog mwy i gofrestru ar gyfer rasys.

"Mae angen cymhelliad yng Nghymru i leihau cost rasys," meddai.

Pynciau cysylltiedig