Streiciau i amharu ar gasgliadau sbwriel dwy sir
- Cyhoeddwyd

Gweithwyr Cyngor Wrecsam ar y llinell biced ddydd Llun
Mae pobl yng Nghaerdydd a Wrecsam wedi cael rhybudd y gallai eu gwasanaethau casglu sbwriel gael eu heffeithio gan streic pythefnos o hyd sy'n dechrau ddydd Llun.
Mae'r undeb Unite yn cydlynu ymgyrch o weithredu diwydiannol gan weithwyr 23 o gynghorau yng Nghymru a Lloegr mewn anghydfod dros gyflogau.
Fe fydd aelodau'r undeb yng Nghyngor Gwynedd ar streic am wythnos o 11 Medi.
Mae Cyngor Caerdydd yn cynghori trigolion i wirio dyddiadau casglu sbwriel ar ei wefan, a fydd yn cael ei ddiweddaru'n ddyddiol.
Yn ôl y cyngor mae disgwyl i gasgliadau biniau du a gwastraff bwyd "barhau yn ôl yr arfer" ond mae'n bosib y bydd rhaid canslo gwasanaethau gwastraff gardd ac ailgylchu.
Mae'n bosib y bydd rhaid gohirio casglu gwastraff hylendid hefyd, ond gall pobl eu rhoi "gyda eich bin du neu fagiau du ar eich diwrnod casglu rheolaidd".
Mae disgwyl i ganolfan ailgylchu Ffordd Lamby fod ar agor yn ôl yr arfer, ond fe fydd canolfan Clos Bessemer ar gau i ddefnyddwyr domestig.

Mae Cyngor Caerdydd yn cynghori trigolion i wirio dyddiadau casglu sbwriel ar ei wefan
Does dim disgwyl i'r gweithredu diwydiannol effeithio ar dri safle ailgylchu Wrecsam.
Mae'n aneglur i ba raddau y bydd y streicio'n amharu ar wasanaethau cyngor, ond ni fydd ysgolion yn cael eu heffeithio.
Mae'n rhan fwyaf o aelodau Unite yn gwneud gwaith casglu sbwriel, felly dyna sy'n debygol o gael ei daro fwyaf.
'Ymateb wrth i'r sefyllfa ddatblygu'
Mae Cyngor Wrecsam wedi dweud wrth drigolion nad oes modd gwybod beth fydd effaith y streiciau nes iddyn nhw ddechrau.
Maen nhw'n gofyn i bobl rhoi eu biniau a'r ailgylchu allan yn ôl yr arfer, ond yn dweud y byddan nhw'n ymateb wrth i'r sefyllfa ddatblygu.
Dywedodd prif weithredwr Cyngor Wrecsam, Ian Bancroft: "Fe wnawn ni reoli'r sefyllfa ac ein nod fydd gadael i gwsmeriaid wybod am unrhyw newidiadau i wasanaethau."
Ond yn siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Llun dywedodd arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Wrecsam, y Cynghorydd Marc Jones: "Yn ôl be' dwi'n ddeall, fydd 'na ddim casglu sbwriel yr wythnos yma yn Wrecsam oherwydd bod yr holl yrwyr lorïau biniau yn aelodau Unite.
"Mae'r ganolfan gwastraff yn y stad ddiwydiannol yn Wrecsam ar agor fel yr arfer, ac os ydy pobl yn medru mynd â sbwriel dros ben i fanno, mae hynny'n opsiwn.
"Ond fel arall, gobeithio bod hwn yn cael ei sortio fyddai'r peth gorau."

Mae'n bosib y bydd rhaid canslo gwasanaethau gwastraff gardd ac ailgylchu yn sgil y streic
Dywedodd Unite eu bod yn streicio wedi i'r corff sy'n trafod cyflogau gweithwyr cyngor yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wrthod ailddechrau trafodaethau.
Mae Cyd-gyngor Cenedlaethol Gwasanaethau Llywodraeth Leol (NJC) yn dweud bod y cynnig ar gyfer 2023-24 - £1,925 i weithwyr sy'n ennill llai na £49,950 a 3.88% o gynnydd i'r rhai sy'n ennill mwy na hynny - yn un "llawn a therfynol".
Dywedodd Peter Hughes, Ysgrifennydd Rhanbarth Cymru Unite: "Mae'r cynnig tâl presennol i weithwyr cyngor Cymru yn sarhad ac fe fyddai'n arwain at erydu lefelau cyflogau ymhellach.
"Mae ein haelodau yn darparu gwasanaethau hanfodol yn ddyddiol ac maen nhw'n haeddu gwell.
"Oni bai y daw cynnig gwell bydd y gweithredu diwydiannol ond yn gwaethygu wrth i fisoedd yr hydref nesáu."
Ond mae'r NJC wedi amddiffyn y cynnig gan ddweud ei fod "yn deg dan yr amgylchiadau".
Ychwanegodd fod y cynnig "yn gyfystyr â chynnydd i'r rhai ar y cyflogau isaf o 9.42% eleni, sy'n golygu y bydd eu cyflog wedi codi £4,033 (22%) dros ddwy flynedd ers Ebrill 2021".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2023
- Cyhoeddwyd23 Awst 2023
- Cyhoeddwyd25 Medi 2022