Alix Popham yn 'ffodus i fod yn fyw' wedi damwain Ironman

  • Cyhoeddwyd
Alix PophamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alix Popham yn teimlo ei fod "mewn peiriant golchi" ar ôl colli rheolaeth wedi'r ddamwain yn y môr oddi ar draeth Dinbych-y-Pysgod

Mae'r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Alix Popham yn dweud ei fod yn "ffodus i fod yn fyw" ar ôl cael cic i'w ben wrth nofio yn ystod treiathlon Ironman Cymru.

Roedd y cyn-flaenasgellwr, a gafodd wybod yn 40 oed ei fod â dementia cynnar, yn cystadlu yn y digwyddiad yn Ninbych-y-Pysgod i godi arian dros ei elusen anafiadau ymenyddol.

Fe gafodd ei ruthro i'r ysbyty ar ôl teimlo'n benysgafn a "chwydu'n ddi-baid".

Gan gyfeirio at farwolaethau dau gystadleuydd mewn digwyddiad Ironman diweddar yn Iwerddon, dywedodd ei fod yn ddiolchgar nad oedd wedi boddi.

"Damwain anghyffredin oedd e - fe wnaeth grŵp o athletwyr elît fy mhasio ger yr ail fwi yn ystod fy lap gyntaf," dywedodd.

"Ro'n i'n mynd yn araf wrth fy mhwysau, yn canolbwyntio ar fy strôc, pan aethon nhw dros fy mhen.

"Roedd fel petawn ni yn sydyn o fewn peiriant golchi, ac roedd y grym mor gryf fe rwygodd fy oriawr o fy arddwrn."

'Fy llygaid yn hollol llonydd'

Fe lwyddodd i nofio 500 metr ymhellach ond roedd rhaid rhoi'r gorau arni cyn cwblhau'r ras 2.4 milltir yn y môr a chymalau eraill y treiathlon - taith feic 112 milltir a ras redeg am 13.1 milltir.

"Wrth ddod o'r dŵr do'n i ddim yn teimlo'n dda a dywedodd fy ngwraig Mel bod yna olwg fel bod fy llygaid yn hollol llonydd, fel taswn i ddim yn ei nabod o gwbl," dywedodd.

"Nes i drio mynd yn ôl ar gyfer yr ail lap ond o'n i ffaelu.

"Ro'n i'n teimlo'n sâl a chwydu mwya' tebyg tua 10 gwaith wedyn, sef pryd y cafodd ambiwlans ei alw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Alix Popham (yn y canol), gyda chyd-aelodau ei dîm, gan gynnwys Shane Williams, cyn cystadlu yn Ironman Cymru ddydd Sul

Cafodd ei ruthro i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd dan amheuaeth ei fod wedi cael cyfergyd, ac fe gafodd bigiad i stopio'r cyfogi cyn iddo gael ei archwilio gan sawl meddyg.

"Ges i'r thumbs up ganddyn nhw a ges i adael maes o law," dywedodd.

"Mae cur pen 'da fi 24 awr yn ddiweddarach, ond dyw e ddim mor ddifrifol."

'Fe allai pethau wedi gallu bod yn llawer gwaeth'

Eironig, meddai, oedd cael anaf pen tra'n codi arian dros yr elusen Head for Change, sy'n cefnogi cyn-chwaraewyr â chyflyrau ymenyddol fel dementia.

Mae Popham yn gwybod bod dementia arno ers tair blynedd, ac mae yna amcangyfrif ei fod wedi dioddef tua 100,000 o is-gyfergydion yn ystod ei yrfa.

Mae ymhlith 300 o chwaraewyr rygbi sy'n cymryd camau cyfreithiol yn erbyn cyrff llywodraethu'r gamp yn sgil anafiadau pen y maen nhw wedi eu derbyn wrth chwarae'r gêm.

Ffynhonnell y llun, Ironman Cymru 2023
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Alix Popham i drafferthion yng nghymal cyntaf y treiathlon, gan ddychwelyd i draeth Dinbych-y-Pysgod wedi un lap

"Fysach chi ddim wedi gallu dychmygu'r peth," dywedodd. "Rwy' wedi mynd trwy'r holl emosiynau dros hyn. Siom, rhwystredigaeth - rwy' wedi bod yn grac 'da fy hun drosto.

"Rhaid i mi just fod yn ddiolchgar 'mod i'n ok. Roedd methu darfod ar ôl hyfforddi mor galed am mor hir yn chwerw, ond fe allai pethau wedi gallu bod yn lawer gwaeth.

"Fe allwn ni wedi cael fy nharo'n anymwybodol yn y môr a ddim bod yma o gwbl nawr... rhaid bod yn ddiolchgar 'mod i'n iawn a dweud diolch yn fawr i bawb sydd wedi anfon negeseuon a'u dymuniadau gorau."

Y bwriad nawr yw gorffwys am gyfnod cyn paratoi ar gyfer "yr her fawr nesaf - seiclo i Lyon gyda Gareth Thomas ac ambell un arall ac yna nofio'r sianel ym mis Hydref".

Bydd hefyd yn "canolbwyntio ar y pethau pwysicaf yn fy mywyd - fy ngwraig a fy tair merch".

Pynciau cysylltiedig