Eric Ramsay'n gadael ei rôl fel is-reolwr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Eric RamsayFfynhonnell y llun, John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Fe weithiodd Eric Ramsay gyda chlybiau Chelsea, Abertawe a Shrewsbury Town

Mae Eric Ramsay wedi gadael ei rôl fel is-reolwr tîm pêl-droed Cymru oherwydd rhesymau personol.

Dim ond ym mis Mawrth y gwnaeth Ramsay, sydd hefyd yn aelod o staff hyfforddi Manchester United, ymuno â Chymru.

Hyfforddwr Sheffield United, Jack Lester, fydd yn cymryd yr awenau dros dro.

Mae Cymru'n paratoi ar gyfer gemau rhyngwladol yn erbyn De Corea a Latfia y mis hwn.

"Mae hwn wedi bod yn benderfyniad hynod o anodd i'w wneud," dywedodd Ramsay.

"Ond dyma'r un iawn i fi a fy nheulu ar ôl genedigaeth ein hail blentyn ac o ystyried dwyster fy rôl gyda Manchester United."

Dywedodd ei fod wedi trafod y penderfyniad gyda Rob Page a Chymdeithas Bêl-droed Cymru [CBDC] fel y gall y grŵp "ganolbwyntio'n llawn" ar y gemau sydd i ddodd.

Dywedodd CBDC eu bod nhw a Rob Page yn diolch i Eric Ramsay am ei waith.