Gwrthdrawiad Pont Cleddau: Teyrnged i ddyn 32 oed fu farw

  • Cyhoeddwyd
Mathew ChapmanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Yn wreiddiol o Dunstable yn Lloegr, roedd Mathew Chapman wedi bod yn byw yn Sir Benfro ers rhai blynyddoedd

Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad gyda bws ger Pont Cleddau yn Sir Benfro wedi dweud ei fod yn "cael ei garu gan bawb oedd yn ei adnabod".

Bu farw Mathew Chapman, 32, pan fu'r car yr oedd yn gyrru mewn gwrthdrawiad gyda bws ddydd Mawrth.

Yn wreiddiol o Dunstable yn Sir Bedford yn Lloegr, roedd wedi bod yn byw yn Sir Benfro ers rhai blynyddoedd.

Dywedodd teulu Mr Chapman: "Roedd Matt yn fab, brawd, dyweddi, ŵyr a ffrind annwyl i nifer.

"Roedd yn cael ei garu gan bawb oedd yn ei gyfarfod neu ei adnabod."

Ychwanegodd y teulu eu bod "mewn sioc ac wedi'n tristau", gan ofyn am breifatrwydd i alaru.

Ffynhonnell y llun, Martin Cavaey
Disgrifiad o’r llun,

Mae gyrrwr y bws bellach mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty

Cafodd gyrrwr y bws ei gludo i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol wedi'r digwyddiad, ond dywedodd yr heddlu ei fod bellach yn sefydlog.

Daeth i'r amlwg ddydd Mercher fod 24 o bobl oedd yn teithio ar y bws wedi cael eu gweld yn yr ysbyty, ond fod pob un ohonynt bellach wedi eu rhyddhau.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â'r llu.

Pynciau cysylltiedig