Llandudno: 'Effaith andwyol' colli traeth tywod

  • Cyhoeddwyd
Traeth y Gogledd, Llandudno
Disgrifiad o’r llun,

Mae deiseb sy'n galw am gael gwared ar y cerrig wedi cyrraedd y trothwy angenrheidiol i'w drafod ar lawr y Senedd

Mae ymgyrchwyr sy'n galw am adfer traeth un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Cymru yn dweud bod ei angen er mwyn i'r dref oroesi'r hinsawdd economaidd bresennol. 

Cafodd 50,000 o dunelli o gerrig eu gollwng ar Draeth y Gogledd Llandudno yn 2014 fel rhan o gynllun i amddiffyn y dref rhag llifogydd.

Ond yn ôl gwrthwynebwyr mae colli'r traeth tywod yn cael effaith andwyol ar y dref.

Nawr mae deiseb sy'n galw am gael gwared ar y cerrig wedi cyrraedd y trothwy angenrheidiol i'w drafod ar lawr y Senedd.

'Tywod yn angenrheidiol i'r dref oroesi'

Y cynghorydd lleol, Ian Turner, dechreuodd y ddeiseb yn galw am ddychwelyd tywod i Draeth y Gogledd. 

"Dwi wedi siarad â miloedd o bobl dros fis Awst yn unig a'r prif gŵyn dwi'n clywed ydy, 'ble mae'r traeth wedi mynd?' Maen nhw'n drist yn gweld y cerrig yma ble oedd yna dywod ar un adeg," meddai. 

Disgrifiad o’r llun,

Ian Turner: "Mae angen traeth tywod yma eto, i gefnogi'r miloedd o swyddi yma"

Ychwanegodd: "Mae'r sefyllfa economaidd yn anodd ar hyn o bryd, ni'n teimlo hynny yma yn Llandudno.

"Mae angen traeth tywod yma eto, i gefnogi'r miloedd o swyddi yma sy'n dibynnu ar y sector [twristiaeth].

"Mae angen traeth tywod i'r dref oroesi."

Nid Mr Turner ydy'r unig un sydd am weld newid.

Mae rhai o fusnesau'r dref am weld y tywod yn dychwelyd, fel un o weithwyr gwesty'r Imperial yn Llandudno, Arwel Jones. 

Disgrifiad o’r llun,

Arwel Jones: "Traeth efo tywod arno fo, bysa fo'n gwneud gwahaniaeth mawr i'r dref"

"Dwi wedi gweithio yma ers dros 20 mlynedd a dwi wedi sylwi pethau'n mynd llawer mwy distaw na oedden nhw ers talwm, yn enwedig haf yma," meddai.

"Traeth efo tywod arno fo, bysa fo'n gwneud gwahaniaeth mawr i'r dref."

Ac mae eraill hefyd yn gweld manteision traeth tywod.

Mae pier hiraf Cymru yn Llandudno, ac mae'n gartref i bob math o stondinau. 

Yn eu plith mae Sonia Jones yn gwerthu teganau.

Disgrifiad o’r llun,

Sonia Jones: "Bydda fo'n gwneud budd i'r dre"

Dywedodd: "Mae rhaid iddo fo fod yn dywod.

"Dwi'n deall bod y costau'n uwch ond bydda fo'n gwneud budd i'r dre. Yn sicr dwi'n rhagweld o'n rhoi hwb i'm musnes i." 

Yn wreiddiol, fe gefnogodd Cyngor Conwy'r cynlluniau i gael gwared ar y banc coblau ar hyd rhannau o'r traeth a rhoi tywod yn ei le.

Ond ar ôl cael gwybod gan un o adrannau Llywodraeth Cymru ei fod yn rhy ddrud i'w newid, cytunodd y cyngor i dderbyn y cyllid sydd ar gael ar gyfer yr opsiwn di-dywod.

'Ddim yn gwneud unrhyw synnwyr'

Mae Eirys Huws wedi byw yn Llandudno ers 1956. Mae'n cofio'r traeth yn dywod, a methu credu'r cyflwr mae ynddi heddiw. 

Disgrifiad o’r llun,

Eirys Huws: "Mae'n siom ofnadwy"

"Dyw hi ddim yn gwneud unrhyw synnwyr i fi bod nhw wedi rhoi'r cerrig yma ar Draeth y Gogledd pan mae yna opsiynau i amddiffyn y dref rhag llifogydd gan gadw'r tywod.

"Dwi'n cofio treulio dyddiau ar y traeth gyda fy mhlant, nawr does dim modd i deuluoedd gwneud hynny yn yr un modd. Mae'n siom ofnadwy," meddai.

Mae Marcus Williams, sydd hefyd yn byw'n lleol, yn cytuno.

"Tywod sydd angen arnom ni. Dwi'n meddwl bydda fo'n edrych llawer gwell.

"Byddai'n denu mwy o bobl a fyddai'n hwb mawr i'r economi ond rwy'n meddwl y byddai angen ei reoli fel nad ydych yn cael y sbwriel fel sy'n gallu digwydd ar draethau eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Marcus Williams y byddai'n braf gweld mwy o bobl yn dod i ymweld â'r traeth

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Conwy eu bod nhw'n ceisio am gyllid allanol tuag at gost Asesiad Effaith Economaidd i adolygu'r syniad o gael tywod yn lle'r cerrig ar Draeth y Gogledd.

"Bydd canlyniadau'r asesiad yn helpu i lywio'r camau nesaf posib," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nod ein cyllideb rheoli perygl llifogydd yw lleihau'r risg i fywyd ac eiddo ac mae pethau pwysig i'w hystyried cyn cymeradwyo cyllid. 

"Mae'r rhain yn cynnwys lefel yr amddiffyniad rhag llifogydd a roddir i'r gymuned, effeithiau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â charbon a gwerth am arian. 

"Rydym yn ystyried pa mor gost-effeithiol yw pob achos busnes ac yn blaenoriaethu cyllid yn unol â hynny - mae hyn yn ein galluogi i ddosbarthu'r buddsoddiad yn deg ar draws y cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd."

Pynciau cysylltiedig