Adran Dau: Wrecsam 2-1 Doncaster

  • Cyhoeddwyd
Paul Mullin yn penio'r bêlFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Paul Mullin oddi ar y fainc am y tro cyntaf ers iddo dyllu ei ysgyfaint

Elliot Lee wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth i Wrecsam ddydd Sadwrn, gyda Paul Mullin yn dod oddi ar y fainc am y tro cyntaf ers iddo dyllu ei ysgyfaint.

Roedd Luke Young wedi rhoi Wrecsam ar y blaen yn ystod yr hanner cyntaf, cyn i Modou Faal dod â'r ymwelwyr yn gyfartal.

Dyma oedd y tro cyntaf i Mullin chwarae ers iddo gael ei anafu mewn gêm yn erbyn Manchester United yn yr Unol Daleithiau.

Dyma oedd hefyd gêm gyntaf Steven Fletcher ar y Cae Ras wedi iddo ymuno â'r tîm ddydd Gwener.