Dim carchar i yrrwr lori am achosi marwolaeth dyn ar yr A55

  • Cyhoeddwyd
Marc Winston RobertsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Marc Winston Roberts yn 52 oed ac yn dod o ardal Amlwch ar Ynys Môn

Mae gyrrwr lorri wedi ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar wedi ei ohirio yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar yr A55 y llynedd.

Ni welodd Ian Owen, 40, giw o gerbydau o'i flaen wrth iddo yrru tuag at Bont Britannia yn oriau mân y bore ar 20 Ionawr, 2022.

Bu ei lori mewn gwrthdrawiad â'r car o'i flaen, gan wthio'r cerbyd i gefn ail gar a gafodd ei orfodi o dan lori oedd hefyd yn aros yn y ciw.

Fe laddwyd gyrrwr y car cyntaf - Marc Winston Roberts - ar unwaith, gan hefyd achosi anafiadau difrifol i yrrwr yr ail gar, sydd dal heb wella'n llwyr o'i anafiadau.

Roedd Ian Owen eisoes wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal mewn gwrandawiad llys ynadon ym mis Awst.

Beth ddigwyddodd y diwrnod hwnnw?

Wrth ei ddedfrydu fe glywodd Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher mai Marc Winston Roberts, 52 oed o ardal Amlwch, a'i gydweithiwr Gareth Wyn Morris oedd gyrwyr y ddau gar.

Roedd y ddau yn gweithio gyda'i gilydd yng ngorsaf bŵer Ffestiniog, ac yn teithio'n ôl i'r ynys mewn confoi ar ddiwedd eu shifft.

Ond yn ystod oriau mân 20 Ionawr 2022, roedd gwaith ffordd ar Bont Britannia ac fe stopion nhw wrth oleuadau traffig i aros am eu tro i groesi dros y Fenai.

Clywodd y llys bod lori Volvo, oedd yn cael ei yrru gan Ian Owen, mewn gwrthdrawiad â char llonydd Marc Winston Roberts, gan ei wthio i gefn car Gareth Wyn Morris a'i orfodi o dan lori.

Fe gafodd car Marc Winston Roberts ei droi 180 gradd gan y gwrthdrawiad, a bu farw cyn y gallai dderbyn triniaeth.

Treuliodd Gareth Wyn Morris 11 diwrnod yn yr ysbyty mewn coma tra bod meddygon yn ei drin am ei anafiadau.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ian Owen eisoes wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal

Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen yn y gwrandawiad dedfrydu, dywedodd Mr Morris fod ei adferiad wedi bod yn anoddach oherwydd ei fod yn yr ysgol gydag Ian Owen, a'i fod yn cael trafferth dod i delerau â'i ddicter tuag ato oherwydd nad oedd yn cofio dim o'r digwyddiad.

"Rwy'n parhau i fod ar y ffordd hir i wella," meddai.

"Mae'r anafiadau i fy wyneb wedi gwella'n dda, ac rydw i wedi gallu adennill fy ngwên.

"Ond mae gen i dal graith fawr ar fy moch a chur pen dyddiol sy'n dwysáu wrth i mi flino.

"Rwy'n blino'n hawdd, sydd wedi fy atal rhag gwneud shifftiau ychwanegol, sydd wedi lleihau fy incwm."

'Ni ddylai unrhyw riant orfod claddu plentyn'

Ddarllenwyd datganiad hefyd gan Gareth Winston Roberts, tad Marc a chyn-arweinydd Cyngor Môn.

"Cafodd ein bywydau eu newid am byth y noson honno," meddai.

"Chawson ni ddim rhybudd - dim amser i wneud paratoadau arbennig na ffarwelio.

"Roedd Marc newydd ddechrau swydd barhaol yn yr orsaf bŵer, ac am y tro cyntaf erioed fe sylweddolodd fod ganddo botensial.

"Roeddem yn falch o'i lwyddiannau, ond yn anffodus mae hyn wedi ei dorri'n fyr."

Disgrifiad o’r llun,

Gareth Winston Roberts: "Mae'r effaith seicolegol wedi bod yn aruthrol"

Ychwanegodd: "Mae'r effaith seicolegol wedi bod yn aruthrol - rydyn ni i gyd yn galaru mewn gwahanol ffyrdd, ond yn rhannu'r un teimladau o euogrwydd a cholled.

"Mae'r ymadrodd na ddylai unrhyw riant orfod claddu plentyn yn atseinio o bryd i'w gilydd."

'Ddim yn ceisio dial'

Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyniad, John Wyn Williams, fod Ian Owen yn dymuno ymddiheuro'n gyhoeddus i'r ddau deulu am yr hyn yr oedd wedi ei wneud, a bod ei edifeirwch yn ddiffuant.

Wrth ddedfrydu Owen, o ardal Gaerwen, i ddwy flynedd o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd, dywedodd y barnwr Nicola Saffman wrtho: "Ni welsoch chi'r traffig llonydd, ond fe ddylech wedi ei weld a dylech wedi ymateb yn gynt.

"Mae urddas teulu Marc Winston Roberts wedi creu argraff arnaf, nad ydyn nhw'n ceisio dial, hyd yn oed yn wyneb colli mab annwyl."

Gorchmynnwyd Owen hefyd i gwblhau 200 awr o waith di-dâl a bydd yn rhaid iddo dalu £420 o gostau a thâl dioddefwr o £150.

Cafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd.

Pynciau cysylltiedig