Cwpan Rygbi'r Byd: Ymlaen i'r Côte d'Azur!

  • Cyhoeddwyd
cennydd

Wedi'r fuddugoliaeth mewn gêm gofiadwy yn erbyn Fiji, mae carfan Warren Gatland yn teithio lawr i arfordir de Ffrainc er mwyn wynebu Portiwgal yn ail gêm y grŵp yng Nghwpan y Byd.

Unwaith yn unig mae Cymru wedi cwrdd â Phortiwgal, a hynny mewn gêm ragbrofol yn Lisbon yn 1994 er mwyn cyrraedd Cwpan y Byd yn Ne Affrica y flwyddyn ganlynol. Enillodd Cymru 102 i 11 y diwrnod hwnnw wrth dirio 16 cais yn y broses.

Mae prif sylwebydd rygbi BBC Cymru, Cennydd Davies wedi cyrraedd Nice ac yma mae'n rhannu ei farn ynglŷn â'r penwythnos diwethaf a'r her sydd i ddod y penwythnos nesaf.

Mae miloedd o Gymry bellach wedi heidio i'r arfordir, yn dal i ddadansoddi wedi'r gêm ryfeddol honno yn Bordeaux yn erbyn Fiji. Na, dyw'r tîm cenedlaethol byth yn ei gwneud hi'n hawdd ond roedd diweddglo'r gêm agoriadol yn anodd ei chredu ac wrth i Semi Radradra o bawb ollwng y bêl roedd un yn synhwyro pa mor bwysig ac arwyddocaol oedd y fuddugoliaeth yng nghyd-destun y grŵp.

Ffynhonnell y llun, Cennydd Davies
Disgrifiad o’r llun,

Cennydd gyda chyn-chwaraewyr Cymru, Nicky Robinson ac Emyr Lewis, cyn y gêm yn Bordeaux

Ar drothwy'r gêm agoriadol roedd nifer o wybodusion yn gosod yr ynyswyr fel ffefrynnau ac yn hynny o beth mae'n rhaid ymfalchïo yn y fuddugoliaeth. Oedd, roedd naïfrwydd a diffyg disgyblaeth Cymru yn ofid yn y chwarter olaf wrth wahodd y gwrthwynebwyr nôl i'r gêm, ond does dim modd gorbwysleisio'r canlyniad.

Wedi'r gêm 'nes i ofyn i George North os oedd 'na gymhariaeth â Twickenham yn 2015; bryd hynny roedd 'na gydnabyddiaeth bod rhaid i Gymru guro'r hen elyn i gael unrhyw obaith o gamu ymlaen, ac roedd y canolwr yn gytûn fod hon yn ganlyniad i ysgafnhau'r pwysau ac yn hwb mawr o ran cyrraedd y chwarteri.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Semi Radradra, a darodd y bêl ymlaen gyda symudiad ola'r gêm yn erbyn Cymru

Fiji yn fendigedig ac anlwcus

Heb gymryd unrhywbeth oddi ar ymdrech y Cymry ond roedd cyffro creadigol y Ffijiaid i'w weld y glir yn yr ystadegau, gan ennill gymaint yn fwy o fetrau na'u gwrthwynebwyr gan orfodi Cymru i wneud 253 tacl (record yn y gystadleuaeth).

Ar ddiwrnod arall fe fyddai un o benderfyniadau'r swyddog teledu wedi arwain at gais, ac roedd penderfyniadau Matt Carley y dyfarnwr yn amlwg wedi corddi'r dyfroedd er roedd yr hyfforddwr Simon Raiwalui llawer rhy ddiplomyddol i ddweud hynny yn y gynhadledd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Simon Raiwalui, prif hyfforddwr Fiji a chyn-chwaraewr Casnewydd (1999-2003)

Yr hyn sy'n gwbl amlwg i bawb yw bod Fiji'n dîm o safon, sy'n haeddu cystadlu gyda'r goreuon yn y byd. Mae World Rugby wedi mynd ymhell i sicrhau bod gwledydd fel Fiji yn derbyn y gefnogaeth ariannol ddigonol er mwyn datblygu'r gêm yno ac mae tîm proffesiynol y Drua wedi cael effaith aruthrol ar godi safonau.

Mae'n bryd nawr i'r tîm gael ei ychwanegu at Bencampwriaeth Rygbi Hemisffer y De er mwyn herio Seland Newydd, Awstralia a'r Ariannin yn flynyddol - mae'r amser wedi dod i weithredu.

Y tîm i wynebu Portiwgal

Yn ôl y disgwyl mae Warren Gatland wedi gwneud newidiadau di-ri ar gyfer ail gêm y gystadleuaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Carfan Portiwgal yn dathlu cyrraedd Cwpan y Byd drwy guro'r Unol Daleithiau yn Dubai ar 18 Tachwedd, 2022

Mae'r penderfyniad yn ddealladwy am sawl rheswm: mi fydd 'na nifer o gyrff blinedig a chlwyfedig yn y garfan wedi'r ornest yn erbyn Fiji, ac heb amharchu dyma'r gêm i roi cyfle i'r chwaraewyr sydd wedi bod ar y cyrion, yn erbyn tîm gwana'r grŵp.

Braf yw gweld Dewi Lake yn holliach i arwain y tîm a bod cyfle i Taulupe Faletau gael mwy o amser yn y canol ar ôl gwella o'i anaf. Mae newidiadau helaeth wedi bod yn broblem i Gymru a Warren Gatland yn y gorffennol, er enghraifft yng ngemau'r hydref, ond fe ddylai'r tîm ddelio â Phortiwgal yn ddidrafferth a sicrhau pwyntiau llawn.

Tîm Cymru v Portiwgal

Leigh Halfpenny, Louis Rees-Zammit, Mason Grady, Johnny Williams, Rio Dyer, Gareth Anscombe, Tomos Williams, Nicky Smith, Dewi Lake (capt), Dillon Lewis, Christ Tshiunza, Dafydd Jenkins, Dan Lydiate, Tommy Reffell, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Ryan Elias, Corey Domachowski, Tomas Francis, Adam Beard, Taine Basham, Gareth Davies, Sam Costelow, Josh Adams.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyd-gapten Cymru, Dewi Lake, nôl yn y tîm ar gyfer y gêm yn erbyn Portiwgal

Y grŵp dal yn agored

Cymryd dim yn ganiataol oedd neges y garfan wedi'r fuddugoliaeth gyntaf ac wedi i Fiji sicrhau dau bwynt bonws dyw'r drws heb gau o gwbl ar eu gobeithion o bell ffordd, ac mae eu gêm yn erbyn Awstralia y penwythnos yma yn un enfawr.

Diddorol fydd gweld faint o effaith corfforol, ond yn bwysicach, emosiynol, gafodd digwyddiadau Bordeaux yn y pen draw. Mi roedd ymateb y tîm wrth gwympo'n ddi-seremoni i'r glaswellt mewn siom yn adrodd cyfrolau ac yn dangos pa mor allweddol oedd ennill y gêm gyntaf.

Mae Cymru nawr ar y ffordd ac yn symud i Nice ble fydd awel y Môr Canoldir yn fwy na derbyniol!

Ffynhonnell y llun, Cennydd Davies
Disgrifiad o’r llun,

Cennydd a'r Tarw (cyn-chwaraewr rheng-ôl Cymru, Emyr Lewis) wedi cyrraedd Nice cyn i Gymru wynebu Portiwgal