Y band dirgel a'u cân rap i dîm rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gwcci ar y llwyfan yn TafwylFfynhonnell y llun, Tafwyl/FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Gwcci ar lwyfan Tafwyl yng Nghaerdydd eleni

Morio canu emyn mewn penwisg daffodil sy'n cael ei gysylltu efo rygbi Cymru yn hytrach na rapio mewn mwgwd, ond mae cân gan fand dirgel Cymraeg yn torri tir newydd.

Gwcci ydi'r grŵp, a llai na 12 mis ers eu sengl gyntaf maen nhw wedi cydweithio efo Undeb Rygbi Cymru i ryddhau cân swyddogol Cwpan y Byd y tîm cenedlaethol sydd wedi cael sêl bendith rhai o sêr y tîm. Mae'n ddiweddglo cyffrous i flwyddyn prysur i'r artistiaid sydd wedi eu lleoli yng Nghaerdydd.

Mae'r band wedi denu sylw dros y flwyddyn ddiwethaf am eu cerddoriaeth, fideos a pherfformiadau byw egnïol - a hefyd am eu penderfyniad i aros yn anhysbys a gwisgo mygydau i wneud yn siŵr nad oes 'na neb yn eu hadnabod.

Disgrifiad o’r llun,

'Jack Pereira' a 'Cheedun Beandt' yn eu cyfweliad efo Cymru Fyw. Yr unig gliw adawodd y ddau ar ôl oedd eu hacen ogleddol

Yn gynharach eleni fe benderfynon nhw gysylltu efo Undeb Rygbi Cymru ar ôl dechrau sgwennu cân i nodi'r Cwpan y Byd yn Ffrainc.

Mae I'r Gad, sy'n cael ei rhyddhau ar ddydd Gwener 15 Medi, yn gân rap cyfoes sy'n frith o gyfeiriadau at hanes cyfoethog Cymru ar ac oddi ar y cae rygbi, gyda geiriau ac ymadroddion Cymraeg drwyddi.

'Lle i rhywbeth gwahanol'

Roedd yr Undeb yn gefnogol iawn er nad ydi'n debyg i'r gerddoriaeth sy'n cael eu cysylltu efo'r gêm yn draddodiadol.

"Mae rheiny wastad i'w gael allan yna dydi - dydi nhw ddim yn mynd i unlle - Bread of Heaven, Max Boyce neu be' bynnag," meddai'r aelod o'r band sy'n galw ei hun yn Jack Pereira. "Mae 'na le iddyn nhw gant y cant, ond roedda ni'n teimlo, ac yn amlwg y WRU yn teimlo ac o'r ymateb 'da ni 'di gael bod pobl hefyd yn teimlo, bod 'na le i rywbeth bach yn wahanol.

"Pob clod i'r WRU, o'r cychwyn cynta' roedda nhw'n awyddus iawn i gefnogi ni."

Ffynhonnell y llun, X/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gân wedi cael cryn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol

Oes ymgais gan yr Undeb, sydd wedi dod o dan y lach yn ddiweddar, i efelychu llwyddiant Cymdeithas Bêl-droed Cymru dros y blynyddoedd diwethaf?

Meddai aelod arall o Gwcci sy'n galw ei hun yn Cheedun Beandt: "Be' mae'r pêl-droed wedi wneud yn llwyddiannus ydi cael y ffans o wahanol gefndiroedd i deimlo eu bod nhw'n cael eu cynrychioli a thynnu cynulleidfa iau i mewn i'r chwaraeon hefyd ac efo'r undeb rygbi dwi'n meddwl bod o'n progresiwn naturiol iawn i ddigwydd.

"Mae cerddoriaeth fodern yn ffordd o dynnu cynulleidfa fodern a dyna ydi'r awch sydd gan yr Undeb."

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Gwcci wedi chwarae mewn nifer o gigs, yn cynnwys Tafwyl a Maes B, a rapio a chanu yn y Gymraeg maen nhw wedi ei wneud hyd yma cyn recordio I'r Gad.

Gyda chymaint o sylw i rygbi o fewn Cymru - yn enwedig yn ystod Cwpan y Byd - mae'r band nawr yn cyrraedd cynulleidfa newydd.

"Dyma'r tro cynta' 'da ni'n cyrraedd cynulleidfa sydd ddim yn uniaith Gymraeg neu'n gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg yn actif felly mae hynny yn newid byd. Ma'n golygu bod yr exposure yn fwy, 'da ni'n cyrraedd mwy o bobl achos mae platfform y WRU yn fwy," meddai Jack.

Ychwanega Cheedun: "Ma'n neis gweld y croeso mewn i betha' fel yna, pobl yn dod ar draws math o gerddoriaeth dydi nhw ddim yn gyfarwydd efo fo, a falle ddim wedi cysylltu efo'r undeb rygbi o'r blaen. Mae o bach yn wahanol, bach yn newydd a 'da ni'n falch bod 'na beth o draddodiadau Cymraeg yn dal i fod i mewn i'r peth."

Gwisgo mygydau

Ac mae rhai o sêr Cymru hefyd wedi dangos eu gwerthfawrogiad o'r gân, gan gynnwys aelodau pwyllgor cerddoriaeth y tîm, Josh Adams and Taine Basham.

Byddai nifer o bobl yn awchu am gael y fath sylw sy'n dod efo llwyddiant ac am i'r byd a'r betws gael gwybod, ond aros yn anhysbys ydi dymuniad Gwcci.

Mewn unrhyw ymddangosiad cyhoeddus - mewn gig, fideo neu gyfweliad efo Cymru Fyw - mae'r aelodau yn gwisgo mygydau a hetiau er mwyn iddyn nhw beidio cael eu hadnabod.

Ffynhonnell y llun, Gwcci
Disgrifiad o’r llun,

Gwcci

Mae safon y cynnyrch a'u dealltwriaeth o'r byd cerddoriaeth yn awgrymu eu bod nhw'n brofiadol yn y maes, ond maen nhw'n gwrthod rhoi unrhyw gliwiau, gan adael i'r gynulleidfa ddod i'w casgliad eu hunain am eu cefndir.

Rhan o'r rheswm ydi ceisio osgoi 'gwleidyddiaeth y sin Gymraeg' meddai Cheedun:

"O fewn y sin Gymraeg mae 'na lot o siarad yn digwydd ac mae hynny'n wych ar adegau ond wedyn hefyd ma' lot o bobl yn gallu dod a'u barn i mewn i rywbeth cyn i nhw brofi fo felly yn ogystal â chadw yn ddirgel 'da ni hefyd yn trio hefyd cadw ffocws ar y gerddoriaeth 'da ni'n creu yn hytrach na pwy sy'n ei greu o."

Tir newydd

Ar ôl 12 mis prysur mae'r band, sy'n rapio am bynciau cymysg fel y sefyllfa dai yng Nghymru a chwilio am sugar mummy o ardal gefnog Pontcanna, yn dweud bod eu halbym cyntaf fwy neu lai yn barod i'w ryddhau.

Ac maen nhw'n bwriadu parhau i weithio a bod yn greadigol ar yr un raddfa â'r flwyddyn ddiwethaf.

Meddai Jack: "Mae o'n teimlo'n newydd ac mae o'n teimlo'n ffresh a dwi'n meddwl bod hynny'n rhan o'r rheswm 'da ni'n 'neud be' 'da ni'n neud a pam 'da ni'n cyffwrdd ar sawl genre gwahanol.

"Ma'n teimlo fel bod ni'n troedio tir newydd o fewn y sin Cymraeg bob tro 'da ni'n dechra' sgwennu rhywbeth neu'n dechra' cyfansoddi cân arall a ma' hynny'n bwysig... ma'n teimlo werth ei wneud yn sicr."