Ysbyty newydd yn y gorllewin: Cwtogi rhestr fer i ddau
- Cyhoeddwyd
Mae'r rhestr fer o safleoedd posib ar gyfer codi ysbyty newydd i wasanaethu gorllewin Cymru wedi cael ei chwtogi o dri i ddau.
Daeth cadarnhad mewn cyfarfod arbennig o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddydd Mercher mai'r ddau le sy'n dal dan ystyriaeth yw ardal Tŷ Newydd, Hendy-gwyn ar Daf ac un yn Sanclêr - y ddau yn Sir Gâr.
Mae trydydd lleoliad wedi ei ddiystyru erbyn hyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, sef safle Gerddi'r Ffynnon, Hendy-gwyn ar Daf.
Mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cais busnes am £1.3bn ar gyfer yr ysbyty newydd ac at welliannau ar safleoedd eraill.
Ond mae pryniant y safle sy'n dod i'r brig yn y pen draw yn ddibynnol ar gael cyllid gan Lywodraeth Cymru, sy'n dweud bod dim penderfyniad wedi ei wneud hyd yma ynghylch buddsoddi.
Y bwriad yw israddio gwasanaethau yn ysbytai Llwynhelyg yn Hwlffordd a Glangwili yng Nghaerfyrddin pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau.
Fe fyddai'r ysbytai hynny wedyn yn cael eu defnyddio fel rhai cymunedol, gyda gwasanaethau triniaeth ddydd, therapi a gwelyau dan arweiniad nyrsys.
Ble mae'r safleoedd sydd dan ystyriaeth?
Tir amaethyddol ac adeiladau sy'n rhan o Fferm Tŷ Newydd, sydd i'r dwyrain o safle Hufenfa Hendy-gwyn ar Daf a chanol tref Hendy-gwyn ar Daf;
Tir amaethyddol sydd wrth ymyl cyffordd yr A40 a'r A477 yn Sanclêr, rhwng yr A4066 (Ffordd Dinbych-y-pysgod) i'r de, pentref Pwll-Trap i'r gogledd a'r A40 i'r gorllewin.
Yn yr ymgynghoriad cyhoeddus, roedd 59% o'r ymatebwyr yn credu bod safle Tŷ Newydd, Hendy-gwyn ar Daf yn ddewis gwael, a 49% yn achos safle Sanclêr.
Roedd mwyafrif y pryderon yn ymwneud â diffyg seilwaith yn lleol, yn enwedig o ran trafnidiaeth gyhoeddus.
Yn ôl adroddiad gan Opinion Research Services mae yna bryderon ymhlith rhai yn Sir Benfro ynghylch pa mor anghysbell yw'r lleoliadau.
Mae'r heriau o ran darparu gwasanaethau mewn ardal mor wasgaredig yn destun pryder ers dechrau trafodaethau yn 2017, medd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Steve Moore.
Dywedodd bod diffyg seilwaith ffyrdd yn "creu heriau i'n cymunedau arbennig o wledig" ac yn "gwneud hi'n eithaf anodd cadw gwasanaethau i fynd - maen nhw'n eithaf bregus".
Mae'r bwrdd, meddai, "mewn trafodaethau manwl gyda Llywodraeth Cymru ac ystod gyfan o sefydliadau eraill ynglŷn â sut y gallwn wneud ein gorau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer yr ysbyty newydd ond hefyd ar gyfer y seilwaith ehangach".
Staff a chleifion 'yn haeddu gwell'
Yn ôl Maria Battle, cadeirydd y bwrdd iechyd, mae angen symud ymlaen gyda'r cynlluniau yn gyflymach yn sgil canfod concrit RAAC yn Ysbyty Llwynhelyg.
Rhybuddiodd y bydd "gwasanaethau'n cael eu taenu'n rhy denau ac yn parhau'n fregus" os nad yw gorllewin Cymru'n cael cyfleuster newydd.
Ychwanegodd: "Dyw hi erioed wedi bod yn fater mor frys ein bod angen ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru."
Dywedodd aelod arall o fwrdd Hywel Dda, Iwan Thomas bod yr adnoddau yn Ysbyty Glangwili "gyda phob parch, ddim yn ffit i bwrpas a bydd plaster glynu gan Lywodraeth Cymru ddim yn ein helpu".
Ychwanegodd: "Rydym angen adnodd newydd yng ngorllewin Cymru. Mae ein staff yn ei haeddu, mae ein cleifion yn ei haeddu ac mae ein cymunedau'n ei haeddu hefyd."
Yn ôl Steve Moore, er nad yw'r adolygiad RAAC presennol wedi rhoi terfyn ar unrhyw gynlluniau ar gyfer ysbyty newydd, mae'n "tanlinellu'r gwir angen" am fuddsoddiad yn y gorllewin, o gofio bod rhai o'r adeiladau'n "hen iawn".
"Adeiladwyd Llwynhelyg yn 1974 - mae rhannau o Langwili hyd yn oed yn hŷn na hynny," dywedodd.
Ddydd Mercher datgelwyd bod byrddau iechyd ar draws Cymru mewn perygl o orwario hyd at £800m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Yn ôl Steve Moore ni fydd hynny'n effeithio ar gynlluniau ar gyfer ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru.
Dywedodd: "Os gallwn ni ddod â'n gwasanaethau ynghyd, petai gyda ni system fwy cynaliadwy, fe fyddai hynny fwy na thebyg yn y tymor hir yn ein galluogi i arbed arian a'i ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau eraill."
Roedd yna alwadau yn yr ymgynghoriad i adnewyddu ysbytai Llwynhelyg a Glangwili yn hytrach na buddsoddi mewn ysbyty newydd.
Ateb tymor byr fyddai hynny, yn ôl Delyth Raynsford - aelod annibynnol o'r bwrdd iechyd.
"Beth yw'r pwynt ail-wneud rhywbeth sydd dim ond am amser byr? Mae'n rhaid i ni feddwl am bethau sydd am y dyfodol.
"Mae'n rhaid i ni gydweithio gyda Llywodraeth Cymru, mae'n rhaid i ni gydweithio gyda llywodraethau lleol hefyd i feddwl am y solution gorau i ddod â'n cleifion i'r ysbyty."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2022