Cyngor Blaenau Gwent: 'Anodd recriwtio siaradwyr Cymraeg'

  • Cyhoeddwyd
CymraegFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi cael eu beirniadu am fethu cynnig rhai gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae prif weithredwr cyngor yn ne Cymru yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd recriwtio siaradwyr Cymraeg.

Mewn cyfarfod ddydd Iau bu Cyngor Blaenau Gwent yn trafod eu hanawsterau wrth gydymffurfio â chyfreithiau sy'n datgan bod rhaid trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.

Roedd hynny'n dilyn beirniadaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg fod y cyngor yn methu dilyn y safonau cyfreithiol a osodwyd ym Mesur y Gymraeg 2011.

Roedd y gwyn wreiddiol yn ymwneud â methiant y cyngor i gynnig gwasanaeth ffôn Cymraeg.

Yng nghyfarfod y cyngor dywedodd y Cynghorydd Tommy Smith bod unigolyn lleol wedi codi'r broblem gwasanaeth ffôn gydag ef yn ddiweddar.

Yn ôl Mr Smith, pan ofynnodd yr unigolyn i siarad â rhywun drwy gyfrwng y Gymraeg fe gafodd gais i aros a phan atebwyd yr alwad roedd hynny yn y Saesneg.

'Anodd iawn cwrdd â'r safonau'

Dywedodd y prif weithredwr dros dro, Damian McCann: "Yr anhawster a'r her sydd gennym yw mai dim ond 7% o'n poblogaeth sy'n siarad Cymraeg.

"Rydym wedi ymgeisio ers sawl blwyddyn i recriwtio siaradwyr Cymraeg i'r ganolfan alwadau ond mae'n hynod o anodd, ac nid ydym wedi bod yn llwyddiannus.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor wedi cael ei feirniadu am fethu cynnig gwasanaeth ffôn cyfrwng Cymraeg

"Dwi'n siŵr bod yr unigolion yna sy'n ddwyieithog yn medru dod o hyd i waith sy'n talu llawer gwell na'r hyn allwn ni ei gynnig yn ein canolfannau galwadau.

"Rydym yn ei gweld hi'n anodd iawn - mae cwrdd â'r safonau wedi bod yn sialens i ni ac awdurdodau eraill Gwent oherwydd nifer y siaradwyr Cymraeg sydd gennym yn yr ardal."

Ychwanegodd bod yr ardal yn ceisio cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg drwy'r ddarpariaeth addysg, ond y byddai'n cymryd "degawd neu ddwy" tan fod Blaenau Gwent mewn sefyllfa well i gwrdd â'r safonau.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, y Cynghorydd Julie Holt, sy'n dysgu Cymraeg: "Dwi'n falch bod hyn yn cael ei gymryd o ddifrif.

"Mae hwn yn rhwymedigaeth statudol, ac mae'r pwyllgor hwn yn edrych am sicrwydd bod pethau'n mynd i'r cyfeiriad cywir drwy'r cynllun gweithredu."