Targedu'r to iau wrth geisio lleihau cwympiadau pobl hŷn

  • Cyhoeddwyd
Celyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Celyn ei bod am drio ei gorau glas i helpu ei mam-gu a'i thad-cu osgoi cwympo

Mae un person ym mhob tri sydd dros 65 mlwydd oed, a hanner unigolion sy'n hŷn na 80 oed yn debygol o gwympo o leiaf unwaith mewn blwyddyn, yn ôl ystadegau iechyd.

Wrth i'r boblogaeth heneiddio, cynyddu mae'r peryglon.

Gall cwympo yn y cartref gael effaith ddifrifol ar unigolion - nid yn unig o ganlyniad i'r anaf cychwynnol, ond hefyd o ganlyniad i golli hyder a sgil-effeithiau treulio cyfnod yn yr ysbyty.

Ond sut mae lleihau'r risg?

Mae elusen Age Cymru, fel rhan o Dasglu Cenedlaethol Atal Cwympiadau Cymru, am amlygu'r rôl gall plant a phobl ifanc ei chwarae i ddiogelu perthnasau hyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Age Cymru am i blant ddysgu camau syml y gellir eu cymryd i ddiogelu pobl hŷn

Mae disgyblion Ysgol Gymraeg Pont-y-brenin, ger Abertawe, ymhlith y cyntaf yng Nghymru i gymryd rhan mewn sesiwn arbennig a chwarae rôl ditectifs i ddod o hyd i beryglon yn y cartref allai gynyddu'r risg i bobl hŷn.

Mae'r rhain yn cynnwys gwifrau ar lawr, carpedi anwastad a goleuadau sydd ddim yn ddigon llachar.

Mae'r plant hefyd yn dysgu pa mor bwysig yw tacluso teganau pan fo perthnasau yn ymweld.

O siarad â Celyn, Nia a Seren o flwyddyn pump, mae'n amlwg fod y negeseuon yn taro deuddeg.

"Os yw gwn nos person yn llusgo ar y llawr all hynny fod yn beryglus," meddai Celyn.

"Hefyd os yw'r carped wedi'i blygu.

"Fe fydda i'n ceisio 'ngorau glas nawr i helpu mam-gu a tad-cu i gadw pethe yn daclus."

Disgrifiad o’r llun,

Dysgodd Nia o flwyddyn pump bod teganau'n gallu creu problemau i bobl hŷn

"Mae teganau yn gallu bod yn beryglus hefyd", medd Nia.

"Achos os ydyn ni'n gadael nhw ar y llawr ma' pobl yn gallu baglu a chwympo."

"Mae'n bwysig bod ni'n dysgu am sut mae pobl hŷn yn gallu cwympo a brifo'n haws," ategodd Seren

"Dwi'n gadael teganau mas weithiau, ond fyddai'n tacluso mwy nawr."

'Ceisio atal y cwymp cyntaf'

Ond pam targedu'r to ifanc?

"Mae'n bwysig oherwydd rhaid i ni newid y ffordd y' ni'n meddwl am heneiddio," medd Angharad Phillips o Age Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid mynd i'r afael â'r syniad bod cwympo yn rhan naturiol o fynd yn hŷn, medd Angharad Phillips o Age Cymru

"Am amser maith nawr y' ni 'di meddwl bod cwympiadau yn rhan naturiol o heneiddio, bod cwympo'n digwydd a bo rhaid i ni just delio gydag e.

"Ond mae lot o bethau, lot o risgiau medrwn ni 'neud rhywbeth ynglŷn â nhw er mwyn ceisio atal y cwymp cyntaf.

"Mae plant yn glyfar iawn a ma' nhw'n pigo pethe lan yn dda iawn felly ma' fe'n werth eu dysgu nhw am y risg o fewn y cartref."

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid hefyd ystyried y peryglon sy'n codi o dreulio cyfnod yn yr ysbyty, medd Dr Conor Martin

Yn ôl Dr Conor Martin, meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd sy'n arbenigo yng ngofal yr henoed, mae atal un person rhag disgyn nid yn unig yn atal anaf ond hefyd yn gallu atal llawer iawn o sgil-effeithiau.

"Da ni'n gwybod pan fo pobl yn dod i mewn i'r ysbyty ac yn gorfod dod i mewn ar gyfer eu triniaeth maen nhw'n llawer iawn fwy tebygol o gael sgil-effeithiau difrifol - colli nerth, dod yn fwy dryslyd a chael heintiau sydd yn ymwneud â'r ysbyty.

"Felly mae 'na broblemau difrifol yn gallu datblygu o ddod i mewn i'r ysbyty."

Fel rhywun fu'n gweithio fel nyrs ac ymwelydd iechyd cymunedol, roedd Valmai Fox, o Benllergaer ger Abertawe, yn ymwybodol fod y risg o gwympo yn cynyddu wrth i rywun fynd yn hŷn.

Ond tair blynedd yn ôl tra'n garddio, a hithau yn eu 80au cynnar, trodd y risg yn wirionedd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cwympo yn ei chartref yn gnoc i hyder Valmai Fox

"O'n ni'n chwynnu rownd y cefn, a'r peth nesaf o'n i'n gwbod o'n i ar y llawr - so gorffes i gropian mas.

"A'r ail dro [i gwympo] o'n i yn yr ardd eto yn cymoni a nes i gerdded fan hyn a'r peth nesaf o'n i'n gwbod o'n i ar y llawr eto."

Ond y trydydd tro iddi gwympo, yn ei chartref y tro hwn, brifodd Valmai ei choes yn wael.

"O'n i'n eistedd ar y gadair a feddylies i gaf i baned o de. Felly godes i ac ar y ffordd mewn i'r gegin lawr es i.

"Ac o'n i'n sbel cyn gallu codi ac o'n i wedi gorffen lan yn Ysbyty Treforys."

'Ddim yn ystyried yr effaith'

Fe gymerodd wythnosau i Valmai wella, ac roedd y gwymp yn gnoc fawr i'w hyder.

Ond mae nifer yn yr un cwch - gyda'r ystadegau'n awgrymu fod hanner pobl dros 80 oed yn debygol o gwympo o leiaf unwaith mewn blwyddyn.

Mae 60% o'r rhai sy'n cwympo unwaith yn debygol o gwympo eto wedyn.

Ers blynyddoedd mae Valmai wedi bod yn bod yn gweithio ag elusennau'r henoed i roi cyngor i bobl ar sut i wneud addasiadau bach i'w cartrefi er mwyn bod yn fwy diogel.

Ond mae'n cytuno fod addysgu plant a chymdeithas yn ehangach am yr heriau sy'n wynebu pobl hŷn yn hollbwysig.

"Ma' llawer o bobl os nad ydyn nhw erioed wedi cwympo ei hunain ddim yn ystyried beth all e 'neud i chi.

"Y' ni'n gwbod bod plant yn cwympo ac yn crafu'u pengliniau er enghraifft.

"Ond fel y' chi'n mynd yn henach ma' beth sy'n digwydd ar ôl damwain yn gallu bod yn lawer, lawer mwy caled i ddod drosto."

Pynciau cysylltiedig