'Petrol yn rhy ddrud i fynd â'r plant mas am y diwrnod'

  • Cyhoeddwyd
Annie Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i Annie Davies deithio ymhellach i lenwi'r tanc gan ei bod yn byw mewn ardal wledig

Mae Annie Davies yn difaru peidio â llenwi ei thanc â diesel yn gynharach yn yr wythnos pan oedd y pris 4c yn rhatach.

Mae'r fam o Landysul wedi methu mynd â'i phlant allan am ddiwrnod ar adegau oherwydd y cynnydd yng nghostau tanwydd.

Mae'r RAC wedi cyhuddo adwerthwyr o wneud mwy o elw ar draul gyrwyr trwy gynyddu prisiau tanwydd ymhellach.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r Gymdeithas Adwerthwyr Petrol am ymateb.

Fore Mercher, fe gyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau fod chwyddiant wedi gostwng i 6.7% fis Awst o'i gymharu â 6.8% fis Gorffennaf.

Yn ôl arbenigwyr, cwymp mewn prisiau hediadau a gwestai allai fod yn gyfrifol am y gostyngiad.

'Ydw i'n gallu fforddio gwneud hynny?'

Ond Mae Ms Davies yn dweud bod y cynnydd ym mhrisiau tanwydd wedi golygu bod ei phlant yn colli mas ar dripiau.

Mae'r ffaith ei bod hi'n byw mewn ardal wledig hefyd yn golygu teithio'n bellach er mwyn llenwi'r tanc.

"Mae diesel yn ddrytach yn y garej leol o gymharu â'r archfarchnad," meddai.

Ond mae'n rhaid i Ms Davies ystyried a yw hi'n werth chweil teithio 20 milltir ymhellach ar gyfer tanwydd sydd ambell geiniog yn rhatach.

"Mae'n rhaid i fi bwyso a mesur y sefyllfa a gofyn, 'ydw i'n gallu fforddio gwneud hynny?'" meddai.

Yn ôl yr RAC, mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod prisiau wrth y pympiau yn rhy uchel wrth i adwerthwyr gymryd mwy o elw na'r arfer.

Dywedodd llefarydd yr RAC ar danwydd, Simon Davies: "Petawn nhw'n bod yn deg ar yrwyr, fe fydden nhw'n lleihau eu prisiau yn lle eu codi'n uwch."

Disgrifiad,

Mae'r RAC yn dweud bod adwerthwyr petrol yn gwneud mwy o elw na'r arfer drwy godi prisiau

Dywedodd rheolwr gorsaf betrol Valley Services yn Llandysul bod prisiau tanwydd rhai cyflenwyr yn newid yn ddyddiol, ac eraill yn newid yn wythnosol.

Fe gyfaddefodd Sion Jones bod prisiau cyfanwerth cynyddol tanwydd wedi effeithio ar y busnes, wrth iddi fod yn fwy anodd i fusnesau annibynnol gystadlu â'r archfarchnadoedd.

"Pan mae'r pris yn codi gyda ni mae cwsmeriaid, yn enwedig os ydyn nhw'n teithio, yn mynd i chwilio am rywle rhatach i gael tanwydd," meddai Mr Jones.

"Tan bod y llefydd eraill yn dod lan i'n pris ni, dyna pryd bydd pethau'n gwella i ni.

"Chi'n gorfod bod yn gystadleuol. Ni ffili gwerthu ar golled neu mae'n pointless i ni agor y drysau."

'Anodd asesu'r newid sydd i ddod'

Mae arbenigwyr yn rhybuddio y bydd prisiau olew cynyddol byd eang yn effeithio ar lefel chwyddiant.

Dywedodd yr economegydd ym Mhrifysgol Bangor, Dr Edward Jones, bod gwleidyddiaeth rhyngwladol yn un o'r prif ffactorau sy'n dylanwadu ar brisiau olew.

"Mae'n anodd asesu sut bydd prisiau olew yn newid dros y misoedd nesaf ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r RAC yn dweud bod adwerthwyr petrol yn gwneud mwy o elw na'r arfer drwy godi prisiau

"Mae Saudi Arabia a Rwsia wedi torri ar gynhyrchu olew yn ddiweddar. Mae'r berthynas rhwng y Dwyrain Canol a'r Unol Daleithiau ynghyd â China hefyd yn chwarae rhan yn fy marn i."

Ychwanegodd: "Mi fydd penderfyniadau gwleidyddol y prif wledydd sy'n cynhyrchu a defnyddio olew fwyaf yn parhau i effeithio ar faint rydyn ni'n ei dalu am betrol wrth y pympiau."

Pynciau cysylltiedig