Caernarfon: Galw am ailddatblygu morglawdd y Foryd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Byddai ailddatblygu'r Foryd yn gwneud 'gwahaniaeth sylweddol'

Mae 'na alw am ailddatblygu rhan o forglawdd yng Nghaernarfon er mwyn cynnig llwybr cerdded a beics i bobl yr ardal. 

Mae rhan o'r Foryd yng Nghaernarfon eisoes wedi dechrau disgyn i'r môr wedi stormydd garw yn ddiweddar. 

Gyda phryder rŵan am ddiogelwch, mae 'na alw am ailddatblygu'r ardal er mwyn cynnig llwybrau teithiau llesol i bobl y dre. 

Yn ôl Cyngor Gwynedd mae'r difrod yn arwydd o sgil effeithiau newid hinsawdd. 

'Mae 'na ddarnau yn disgyn i'r môr'

Mae'r Foryd eisoes yn fan poblogaidd ac yn cynnig golygfeydd hyfryd o Ynys Môn wrth ymestyn o Gaernarfon draw am Llanfaglan. 

Ond gyda difrod bellach i'w weld ar hyd y llwybr mae sawl un yn lleol wedi galw am welliannau er mwyn sicrhau fod y defnydd gorau yn cael ei wneud o'r ardal. 

Disgrifiad o’r llun,

Mirain Llwyd Roberts: "Y gobaith ydi y bydd 'na waith yn digwydd fel bod pobl Caernarfon a'r ardal ehangach yn gallu mwynhau"

"Ma'n fan poblogaidd ond bosib dydi'r elfen diogelwch ddim cystal", meddai Mirain Llwyd Roberts o'r Cyngor Tref wrth Newyddion S4C. 

"Mae 'na ddarnau yn disgyn i'r môr ac yn fwy na dim, pe bai rhywbeth yn cael ei wneud, mi fyddai 'na fwy o ddefnydd o hyd o'r ardal." 

Disgrifiad o’r llun,

Gyda difrod bellach i'w weld ar hyd y llwybr mae sawl un yn lleol wedi galw am welliannau

Ar fore prysur, mae'n gyrchfan i bobl sy'n reidio beics a cherddwyr ond yn ôl Ms Roberts mi fyddai isadeiledd gwell yn denu mwy ac yn diogelu'r ardal. 

"'Dan ni'n gobeithio fydd 'na fuddsoddiad - y gobaith ydi fydd 'na waith yn yr ardal fel bod pobl Caernarfon a'r ardal ehangach yn gallu mwynhau." 

Mae'r ardal sy'n cael ei adnabod fel "dros yr Aber" yn lleol wedi bod yn lleoliad i ddigwyddiadau fel gwyliau cymunedol yn ddiweddar. 

Mae 'na obaith y gallai buddsoddiad elwa'r rhan yma o'r ardal hefyd er mwyn gwella'r profiad. 

'Llunio ateb hirdymor'

Mae'r safle yn denu pob math o rywogaethau o adar unigryw ac yn safle gwarchodedig yn ôl y Cynghorydd Sir a Maer y dref, Cai Larsen. 

"Does 'na'm syndod fod y lle mor boblogaidd." 

Disgrifiad o’r llun,

"Mae 'na wirioneddol angen 'neud rhywbeth," medd y Cynghorydd Cai Larsen

"Mae'r olygfa yn newid drwy'r amser ac yn denu degau ar filoedd o adar bob blwyddyn.

"Mae darnau o'r wal yn disgyn i'r môr ac mae 'na wirioneddol angen neud rhywbeth.

"Ond un rhan o'r broblem ydi hynny. Mae gwaith adfer yn un peth a chodi safon yn beth arall," meddai. 

Yn ôl Cyngor Gwynedd mae llwybrau mewn sawl ardal "wedi eu difrodi gan lefel y môr yn codi yn ogystal â stormydd amlach, a hynny oherwydd newid hinsawdd".

"Rydym yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, i amddiffyn y cyhoedd, monitro newidiadau a chynnal neu wella seilwaith arfordirol," medd llefarydd.

"Mae'r cyngor ar hyn o bryd yn edrych ar opsiynau i lunio ateb hirdymor i fynd i'r afael â'r difrod parhaus i'r morglawdd.

"Yn y cyfamser, bydd swyddogion yn ailymweld â'r safle i werthuso'r sefyllfa ac i ystyried pa fesurau tymor byr sydd angen eu gweithredu i sicrhau diogelwch y cyhoedd."

Pynciau cysylltiedig