Gormod yn dal i aros yn rhy hir am driniaethau canser

  • Cyhoeddwyd
llun pelydr xFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y llywodraeth, cafodd 14,074 o bobl wybod o fewn un mis nad oedd ganddyn nhw ganser

Mae gormod o bobl yn aros yn rhy hir am ddiagnosis a thriniaeth am ganser yng Nghymru - yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Ym mis Gorffennaf, dim ond 56.6% o unigolion wnaeth ddechau eu triniaeth o fewn 62 diwrnod o ganfod canser, sy'n is o lawer na'r targed o 75%.

Yn ôl elusennau mae'r ffigyrau'n dangos fod gwasanaethau canser y gwasanaeth iechyd yng Nghymru "mewn argyfwng".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n gweithio'n galed i gyflwyno gwelliannau, ond yn cydnabod bod mwy angen ei wneud yn y maes.

Mae'r ystadegau hefyd yn dangos fod perfformiad yn erbyn y targed o 75% wedi bod yn is na 60% ar draws Cymru ers mis Mawrth eleni, ar ôl dirywio yn sylweddol yn ystod y pandemig.

Roedd perfformiad ar ei orau yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro gyda 65.6% o driniaethau canser yn dechrau ymhen 62 diwrnod, o'i gymharu â 49% yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe.

'Gweld y gorau a'r gwaethaf o'r GIG'

Fe ddarganfyddodd Mari Elin Waddington o Gaerdydd lwmp yn ei bron ar ddydd Gwyl San Steffan 2021, cyn darganfod fod ganddi ganser ar 19 Ionawr.

"O'dd e'n sioc mawr," meddai.

Ffynhonnell y llun, Mari Waddington
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Mari Waddington aros 10 wythnos i dderbyn triniaeth cemotherapi

"O'n i bron a llewygu i fod yn onest... O edrych nôl mae'n teimlo fel breuddwyd mewn ffordd.

"Hwnna odd y diwrnod ffindies i mas bod cancr arna'i."

Yn achos Mari doedd dim dewis ond cael llawdriniaeth i dynnu ei bron ac fe ddigwyddodd hynny'n gyflym.

"Roedd y cam o'r meddyg teulu i gael diagnosis yn gyflym iawn a wedyn ges i lawdriniaeth erbyn 22 Chwefror sy'n gyflym hefyd.

"Er ei fod e'n teimlo i mi ar y pryd fel hyd bywyd, yn nhermau'r targedau oedd hynny'n gyflym."

'Aros i rywun orffen neu farw'

Ond fe arafodd y broses yn sylweddol wrth iddi ddisgwyl am gemotherapi.

Oherwydd ei bod yn achos brys dylai'r driniaeth ddechrau ymhen tair wythnos, ond bu'n rhaid i Mari aros 10 wythnos.

"Dyna lle ges i'r gofid mwyaf ac fe gafodd effaith wael ar fy iechyd meddwl... nath e effeithio ar fy ysbryd a sut oeddwn ni'n delio â phethau ar y pryd."

Ffynhonnell y llun, Mari Wadington
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mari newydd nodi carreg filltir bwysig flwyddyn ar ôl gorffen ei thriniaeth cemotherapi

"O'dd y rhestr aros wedi mynd mor hir o ganlyniad i'r cyfnod clo a Covid... Y realiti yw oeddwn i yn aros i rywun orffen triniaeth neu farw cyn bo fi'n gallu dechre."

'Mae'r straen yn amlwg'

Ynghyd ag effaith y pandemig mae Mari'n credu fod prinder staff mewn gwasanaethau canser wedi cyfrannu at yr oedi.

Ond mae'n canmol eu hymdrechion diflino mewn amgylchiadau caled.

"Mae'r straen pan o'n ni yno [yn yr ysbyty] yn amlwg - doedd dim digon o staff. Ond eto i gyd ma' nhw'n gweithio ar ŵyl y banc a hyd yn oed ar ddiwrnod angladd y Frenhines.

"Fe ges i driniaeth er enghraifft ar nos Galan. Mae'r bobl yma yn gweithio a gweithio, dy'n nhw ddim yn cael gwylie fel pawb arall - ma' nhw yno i achub bywyd ond does dim digon o arian ac adnoddau yn cael ei fuddsoddi."

Mae Mari newydd nodi carreg filltir bwysig flwyddyn ar ôl gorffen ei thriniaeth cemotherapi - ond fe fydd hi'n parhau i dderbyn triniaeth i geisio atal canser rhag dychwelyd am flynyddoedd i ddod.

Mae'n teimlo iddi weld y gorau o'r gwasanaeth iechyd yn nhermau ymroddiad staff ynghyd a'r gwaethaf - y pwysau digynsail sy'n eu hwynebu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mari yn canmol ymdrechion diflino staff y GIG mewn amgylchiadau caled

"Mae'n allweddol bod pobl yn cael triniaeth cyn gynted â phosib - mae'n gwneud gwahaniaeth os yw pobl yn byw neu farw.

"Rwy bellach yn byw am y foment. 'Sneb yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd fory a rwy'n trio cymryd un dydd ar y tro."

Fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru darged canser unigol newydd yn Rhagfyr 2020 gyda'r nod o gyflymu diagnosis a thriniaeth yn ogystal ag amlygu lle yn union roedd oedi yn digwydd.

Mae ffigyrau swyddogol yn erbyn y targed hwn wedi cael eu cyhoeddi ers Gorffennaf 2021, ac ers hynny does yr un bwrdd iechyd wedi cyrraedd 75%.

Mae disgwyl i'r targed hefyd gynyddu i 80% o 2026 dan gynllun Llywodraeth Cymru i adfer gwasanaethau iechyd ar ôl Covid.

'Y geiriau does neb angen eu clywed'

Sylwodd Ceri Llwyd Robertson, o Hen Golwyn fod rhywbeth o'i le pan ddeffrodd â phoen anarferol.

"Roedd poen mawr yn ymestyn o'm bron i waelod fy nghesail... fe ffonies i'r doctor ac mi ges i fy nghyfeirio yn syth.

Ond fe fu'n rhaid Ceri aros pedwar mis i gael apwyntiad yn yr uned ganser i gael profion, ac fe gafodd hi ei chanlyniadau bythefnos yn ddiweddarach.

"Dyna pryd ges i glywed y geiriau does neb angen eu clywed sef 'yn anffodus ma gynnoch chi ganser'."

Ond wedi'r oedi sylweddol cychwynnol, unwaith iddi gael diganosis fe gafodd Ceri ddwy lawdriniaeth o fewn ychydig wythnosau, a dechrau ar driniaeth cemotherapi a radiotherapi yn fuan wedi hynny.

"Fedra'i ddim diolch digon i'r staff o'r nyrsys ar y cychwyn, i dîm gofal y fron ac wrth gwrs yr ymgynghorydd... mae pawb ar hyd y siwrne wedi bod yn wych."

"O edrych nôl i ddechre o pan ges i'n referrio gan y doctor i pan ges i apwyntiad pedwar mis wedyn - dwi rwan ar ddallt fod hynny'n bell o hitio'r targed.

'Mae cael canser wedi newid lot o bethe'

Cymaint yw gwerthfawrogiad Ceri, sy'n fam i ddau o blant yn eu harddegau, o waith caled y staff fe gytunodd i ymddangos yn noeth mewn calendr i godi arian i uned ganser Ysbyty Glan Clwyd.

"Se chi 'di gofyn i fi flwyddyn yn ôl petasen i wedi bod yn barod i dynnu'n dillad i wneud rhywbeth fel 'na - yr ateb fase wedi bod na!

Disgrifiad o’r llun,

Fe gytunodd Ceri i ymddangos yn noeth mewn calendr i godi arian i uned ganser Ysbyty Glan Clwyd

"Fe fyddwn i'n poeni gormod am sut dwi'n edrych a beth fyddai pobl yn feddwl. Rwan dwi ddim yn poeni am ddim byd fel 'na - da ni yma, da ni'n fyw, da ni'n mwynhau!"

'Wirioneddol bryderus'

Dywedodd Judi Rhys MBE, Prif Weithredwr elusen ganser Tenovus: "Nid yw amseroedd aros canser heddiw yn dangos llawer o welliant.

"Mae gwasanaethau canser mewn argyfwng, ac yn debygol o waethygu gyda'r toriadau arfaethedig yn y gyllideb sydd o'n blaenau. Mae hyn yn ddigynsail ac rydym yn wirioneddol bryderus.

"Yr unig beth cadarnhaol i'w gymryd o hyn yw ein bod yn gweld realiti'r system a'r daith hir o'n blaenau. Mae galw mawr am ein gwasanaethau a byddant yn parhau i fod yma i bawb sydd ein hangen."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod gweinidogion "yn derbyn bod mwy i'w wneud yn y maes hwn er i 14,074 gael eu hysbysu mewn un mis nad oes canser arnynt".

"Rydyn ni a'n partneriaid gofal cymdeithasol yn gweithio'n galed i gyflwyno gwelliannau, yn enwedig o ran llif cleifion cyn cyfnod y gaeaf," meddai.

"Er gwaetha'r pwysau ar gyllidebau, mae'r Gweinidog Iechyd yn disgwyl gweld byrddau iechyd yn cyrraedd y targedau newydd ar gyfer lleihau'r rhestrau aros hiraf, a byddwn yn parhau i'w cefnogi wrth iddyn nhw geisio gwneud hynny."

Pynciau cysylltiedig