'Haws bod yn rhan o'r llywodraeth o allu rhannu swydd'

  • Cyhoeddwyd
Siambe y Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bil diwygio'r Senedd yn gosod llwybr ar gyfer ystyried y syniad o adael i ASau rannu swydd yn y dyfodol

Mae cyn-weinidog gyda Llywodraeth Cymru wedi dweud y gallai e fod yn aelod o'r cabinet o hyd pe bai hi'n bosib rhannu'r swydd gyda gwleidydd arall.

Fe wnaeth Ken Skates gamu'n ôl o'r llywodraeth yn 2021 er mwyn ceisio cael gwell cydbwysedd rhwng ei waith a'i fywyd personol.

Mae'r bil diwygio'r Senedd gafodd ei gyhoeddi'r wythnos hon yn gosod llwybr ar gyfer ystyried y syniad o ASau'n rhannu swydd yn y dyfodol.

Pe bai hynny'n digwydd fe allai gwleidyddion rannu dyletswyddau a chyflog.

Roedd Ken Skates yn aelod o'r llywodraeth am wyth mlynedd rhwng 2013 a 2021.

Wedi ei benodi'n wreiddiol yn ddirprwy weinidog dros sgiliau a thechnoleg, cafodd ei benodi'n hwyrach yn ddirprwy weinidog diwylliant, chwaraeon a thwristiaeth ac yna'n weinidog yr economi.

Mae e nawr yn eistedd ar feinciau cefn Llafur gan gynrychioli etholaeth De Clwyd.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai e'n aelod o'r cabinet o hyd pe bai modd rhannu'r swydd, dywedodd: "Yn sicr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ken Skates ei ddyrchafu i fod yn Weinidog Economi Cymru yn 2016

"Mae'n anhygoel o anodd pan rydych chi'n aelod o'r llywodraeth i allu cydbwyso eich bywyd proffesiynol a'ch bywyd personol mewn ffordd sy'n rhoi boddhad ac yn y modd y mae pobl ei angen, yn enwedig os ydych chi'n byw yn bell o Fae Caerdydd," dywedodd wrth raglen Politics Wales BBC Cymru.

"Dydy hi ddim yn bosib, er enghraifft, gwneud y daith o rannau o ogledd Cymru'n ddyddiol ac mae hynny'n amharu ar eich bywyd personol. Mae'n amharu ar y berthynas sydd gyda chi â phobl, mae'n amharu ar y gwasanaeth rydych chi'n ei roi i'ch etholwyr hefyd.

Dywed Mr Skates y byddai'r opsiwn o rannu swydd yn "grymuso" rhywun ac yn galluogi mwy o bobl i ystyried gyrfa mewn gwleidyddiaeth.

"Byddai'n galluogi mwy o Aelodau'r Senedd hefyd i allu derbyn swydd gyda'r llywodraeth."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai disgwyl i'r Llywydd - Elin Jones ar hyn o bryd - geisio sefydlu pwyllgor yn dilyn yr etholiad nesaf i ystyried y syniad o ASau'n rhannu swydd

Mae'r bil diwygio'r Senedd gafodd ei gyhoeddi'r wythnos hon a fyddai'n arwain at gynyddu nifer yr ASau a newid y drefn etholiadol, hefyd yn gosod dyletswydd ar Lywydd y Senedd i geisio sefydlu pwyllgor yn dilyn yr etholiad nesaf i ystyried y syniad o ASau'n rhannu swydd.

Mae'r ddeddfwriaeth ddrafft yn rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Senedd.

Haws i fenywod a phobl anabl sefyll mewn etholiad

Mae yna ddadl byddai hynny'n arwain at fwy o amrywiaeth drwy leihau'r heriau sy'n atal rhai pobl rhag sefyll mewn etholiad, gan gynnwys pobl ag anabledd a phobl sydd â dyletswyddau gofalu fel rhieni i blant ifanc a menywod yn enwedig.

Yn ôl Jessica Laimann o Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, byddai gallu rhannu swydd yn ei gwneud hi'n "haws" i fenywod sefyll mewn etholiad.

"Rydyn ni wedi clywed gan amryw o fenywod fyddai ddim yn sefyll fel arall sy'n dweud y bydden nhw'n sefyll yn syth pe bai'r math yna o drefniant ar gael."

Disgrifiad o’r llun,

Byddai rhannu swydd o fudd i unigolion anabl a fyddai fel arall yn ofni bod dyletswyddau gwleidyddol yn drech na nhw, medd Sara Pickard

Mae Sara Pickard sydd â Syndrom Down yn gynghorydd cymuned ym Mhentyrch.

Mae hi'n dweud y byddai gallu rhannu swydd yn annog mwy o bobl ag anableddau i ystyried mynd i wleidyddiaeth hefyd.

"Byddai cael rhywun i rannu'r swydd gyda nhw'n eu helpu i rannu'r oriau a'r llwyth gwaith fel nad yw'r swydd yn teimlo'n ormod i un person, yn enwedig i rhywun ag anabledd allai deimlo bod y swydd yn drech na nhw."

'Un swydd, un bleidlais, un cyflog'

Serch hynny mae'r syniad o wleidyddion yn rhannu swydd yn codi nifer o gwestiynau ymarferol.

Er enghraifft, beth pe bai'r ddau wleidydd sy'n rhannu'r swydd yn anghytuno pan ddaw hi i bleidleisio?

Beth pe bai un ohonyn nhw eisiau ymddiswyddo neu newid plaid? A beth pe bai un yn cael cynnig swydd gyda'r llywodraeth?

Disgrifiad o’r llun,

Byddai angen cydweithio arbennig rhwng y ddau sy'n rhannu swydd, medd Yr Athro Rosie Campbell

Yn ôl yr Athro Rosie Campbell o Goleg King's Llundain, byddai'n rhaid i'r ddau sy'n rhannu'r swydd "egluro sut y bydden nhw'n rheoli'r sefyllfa".

"Y pwynt allweddol yw taw un swydd yw hon, un bleidlais ac un cyflog."

Ond mae'r AS Llafur dros Gaerffili, Hefin David, yn ansicr o'r syniad.

Tra'i fod e'n cytuno y gallai rhannu swydd fod o fudd i gadeiryddion pwyllgorau'r Senedd a gweinidogion, dydy e ddim yn meddwl bod hynny'n angenrheidiol ar gyfer ASau meinciau cefn, ac y gallai hynny greu trafferthion i etholwyr.

"Os yn y dyfodol mae gennych chi chwe aelod yn cynrychioli un etholaeth yn barod... mae'r syniad o ychwanegu cymhlethdod arall, dwi'n meddwl, siŵr o fod yn creu mwy o broblemau i'r gymuned nag ydych chi'n eu datrys i'r unigolyn."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Hefin David fe allai'r syniad greu mwy o gymhlethdod i etholwyr

Dywedodd Llafur Cymru bod yn blaid yn cydnabod y "manteision posib" y gallai rhannu swydd ei gynnig.

Dywedodd Plaid Cymru bod yn blaid yn "falch o chwarae'i rhan" yn ceisio sicrhau bod dod yn AS yn "swydd realistig a deniadol" i garfan ehangach o bobl.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y byddai "pob math o broblemau" ynghlwm wrth rannu swydd.

Mae Politics Wales ar BBC1 Wales am 10:00 ddydd Sul 24 Medi ac yna ar iPlayer