'Mewn ac allan o'r ysbyty gydag haint dŵr cronig'
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid codi ymwybyddiaeth a chynnig profion gwell i bobl sy'n dioddef o heintiau dŵr cronig, yn ôl ymgyrchwyr.
Bydd un o bob dwy fenyw yn dioddef gydag haint dŵr (UTI) ar ryw adeg yn ystod eu bywydau.
Ond i fenywod fel Llio Wyn, 22, o Ddolgellau, mae'r haint yn gallu cael effaith fawr ar eu bywydau o ddydd i ddydd.
Mae Llio wedi bod yn dioddef o'r fath heintiau ers pan oedd hi'n ddwy flwydd oed, ond fe gymerodd flynyddoedd iddi ddod o hyd i ateb i'r hyn oedd yn bod.
"Dw i 'di gweld llawer o GPs dros y blynyddoedd ac wedi cael yr un fath o atebion," meddai.
"Gofyn i fi yfed mwy o ddŵr, cranberry juice - a lot yn d'eud 'swn i'n tyfu allan o'r problema' erbyn y byswn i'n hŷn.
"Dw i 'di bod mewn ac allan o 'ysbyty, dal i gael urine infection drwy'r blynyddoedd, ac wedyn pan o'n i'n tua 12, a'th petha' lawer gwaeth, o'n i'n colli lot o ysgol achos y boen, taflu i fyny ac ati. O'n i'n rili strugglo efo'r boen.
"O'n i'n gorfod mynd i'r toiled sawl gwaith yn ystod y dydd."
Dywedodd Llio ei bod wedi bod drwy lawer o brofion a chyfnodau yn yr ysbyty dros y blynyddoedd.
"Yn y diwedd, oedd y doctoriaid yn meddwl ei fod o i gyd yn dod lawr i iechyd meddwl… ddim yn deall be' oedd yn mynd ymlaen, ddim yn deall pam bo fi'n cael gymaint o infections.
"Ges i lwyth o wahanol antibiotics i drio, profion, scans a dim byd yn gweithio.
"Yn diwedd, mi oedd rhaid penderfynu talu'n breifat i weld doctor specialist yn Withybush a dyna le ges i ddiagnosis o interstitial cystitis."
Dywedodd ei bod wedi cael triniaeth ers y diagnosis ond nad oes unrhyw beth yn gallu trin y cyflwr yn barhaol.
'Wir angen gwneud rhywbeth'
Mae'r Ymgyrch Haint Dŵr Cronig (CUTIC) yn sefydliad sy'n ymgyrchu dros gael gwell ymwybyddiaeth o'r cyflwr.
"Tua dechrau 2016 daeth grŵp o gleifion at ei gilydd a phenderfynu bod wir angen i ni wneud rhywbeth," dywedodd Carolyn Andrew, un o gyfarwyddwyr CUTIC.
Eu prif amcan ar hyn o bryd yw mynd i'r afael â phrofion UTI, gan fod profion sydd ar gael ar hyn o bryd yn aml yn methu darganfod heintiau cronig.
Un sydd wedi profi hyn yw Angela Dullaghan, 61 o Hwlffordd, Sir Benfro, sy'n amcangyfrif ei bod wedi gwario £9,000 ar driniaeth.
Dywedodd: "Mae adegau wedi bod pan rydw i wedi bod yn llefain mewn poen, yn danfon sampl wrin i fy meddyg teulu, a does dim byd annormal yn cael ei ddarganfod.
"Am flynyddoedd, roedden i'n meddwl mai fy mai i oedd e. Roedd e'n effeithio ar fy ngwaith, fy mherthnasau a fy mywyd cymdeithasol."
Mae'n dweud iddi weld pump wrolegydd gyda'r GIG dros y ddau ddegawd diwethaf, ond mae'n aml yn teimlo wedi'i hanwybyddu, dywedodd.
"Dywedodd un ymgynghorydd wrtha i, 'mae i weld dy fod ti'n gwybod mwy am y cyflwr yma na fi'," meddai.
Beth yw haint dŵr?
Mae heintiau dŵr fel arfer yn cael eu hachosi gan facteria - fel arfer o goluddion y person ei hun - sydd yn mynd i mewn i'r llwybr wrinol trwy'r wrethra - y tiwb sy'n cario wrin allan o'r corff.
Mae symptomau yn cynnwys teimlad o losgi wrth basio wrin a'r teimlad o fod angen pasio wrin yn aml. Gall hefyd achosi cryndod, poen a thymheredd uchel.
Mae heintiau dŵr cronig yn cael eu hachosi gan facteria yn mynd i mewn i wal y bledren.
Yn ôl yr Athro Jennifer Rohn o University College London mae profion "hen ffasiwn" am heintiau dŵr yn aml yn methu cyfle i ddod o hyd i heintiau cronig.
"Mae gan y bacteria ffyrdd o fynd trwy [wal y bledren] a sefydlu eu hun o fewn y celloedd.
"Ac wrth gwrs, pan maen nhw tu fewn i'r celloedd mae'r system imiwnedd yn methu eu gweld nhw. Hefyd mae'r rhan fwyaf o wrthfiotigau yn methu mynd mewn yno."
Un sy'n ceisio mynd i'r afael â'r broblem yw Dr Catriona Anderson, sydd wedi sefydlu clinig preifat lle mae'n defnyddio profion mwy manwl i ddarganfod y bacteria - a theimla y byddai modd rhedeg y math yma o brofion yn y GIG.
"Nid yw'n hawdd defnyddio'r math yma o brawf ar gyfer poblogaethau enfawr, ond gallwch ei rhedeg am y nifer o gleifion sydd efo'r cyflwr yma."
'Weithiau angen triniaeth arbenigol mewn man arall'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Lle mae'n bosib mae byrddau iechyd yn darparu triniaeth yn lleol ond weithiau mae angen rhagor o driniaeth arbenigol mewn man arall.
"Mae GIG Cymru yn datblygu cynllun 10 mlynedd i fanylu sut y bydd yn cwrdd â'r safonau wedi'u gosod allan yn natganiad Ansawdd Iechyd Merched a Menywod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2022