Cymru'n cynnal pencampwriaeth UEFA i nodi 150 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Bydd Pencampwriaeth dan-19 UEFA yn cael ei chynnal yng ngogledd Cymru yn 2026 wrth i'r Gymdeithas Bêl-droed ddathlu 150 o flynyddoedd ers ei sefydlu.
Yn un o ffederasiynau pêl-droed hynaf y byd, fe seydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn Wrecsam ar 2 Chwefror 1876.
Stadiwm y ddinas, y Cae Ras - maes pêl-droed rhyngwladol hynaf y byd - fydd yn cynnal rhai o'r gemau.
Bydd gemau hefyd yn cael eu chwarae yn Stadiwm Nantporth ym Mangor, Ffordd Llanelian ym Mae Colwyn, Stadiwm Glannau Dyfrdwy yng Nghei Connah, a Central Park yn Ninbych.
Mae Pencampwriaeth dan-19 UEFA yn cael ei chynnal rhwng Mehefin a Gorffennaf bob blwyddyn gydag wyth tîm yn cystadlu, sef saith tîm sydd wedi cymhwyso drwy'r rowndiau rhagbrofol â'r genedl sy'n ei chynnal.
Fe ddywedodd Steve Williams, Llywydd CBDC: "Rwy'n gyffrous iawn i weld Pencampwriaeth Dan-19 UEFA yn dod i ogledd Cymru.
"Mae'n ardal sydd â threftadaeth bêl-droed gyfoethog ac rwy'n siŵr y bydd cefnogwyr pêl-droed o bob rhan o'r rhanbarth yn gyffrous iawn i brofi'r gystadleuaeth hon a'n cynorthwyo i drefnu digwyddiad rhagorol.
"Mae gan CBDC brofiad o gynnal digwyddiadau UEFA gyda Phencampwriaeth Merched Dan-19 UEFA 2013, Super Cup 2014 a Rowndiau Terfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA a Chynghrair Pencampwyr Merched UEFA yn 2017."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2022