Atlas y Gymraeg: Ym mha ardaloedd mae'r iaith yn ffynnu?

  • Cyhoeddwyd
Rhosllannerchrugog a Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Dirywiad yn Rhosllannerchrugog a chynnydd yng Nghaerdydd

Mae gwefan newydd Atlas y Gymraeg, dolen allanol yn ceisio gosod ystadegau am niferoedd siaradwyr y Gymraeg mewn ffordd hawdd i'w dadansoddi.

Yn ôl yr awdur, "mae ystadegau'n ddiystyr oni bai eu bod yn cael eu rhoi mewn cyd-destun hanesyddol a daearyddol".

Mae felly wedi mynd ati i lunio gwefan sydd yn dosbarthu canfyddiadau Cyfrifiadau'r gorffennol fesul sir, er mwyn dod i ddeall yn well y gwahaniaethau rhwng gwahanol ardaloedd, a'r dirywiad neu gynnydd yn nifer y siaradwyr fesul Cyfrifiad. Mewn darn arbennig i Cymru Fyw, mae Huw Prys Jones yn rhannu rhai o'r canfyddiadau mwyaf diddorol:

Mae'r un nifer o bobl yn siarad Cymraeg yn 2021 ag oedd yn 1971

Roedd 538,000 o bobl Cymru'n gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021. Nid yw'r cyfanswm hwn wedi amrywio cymaint â hynny dros y 50 mlynedd ddiwethaf, ac mae hyn bron union yr un nifer ag oedd yn 1971.

Ar y llaw arall, yn sgil cynnydd yn y boblogaeth gyffredinol, mae'r ganran wedi gostwng ychydig o 20.8% yn 1971 i 17.8% yn 2021.

Ffynhonnell y llun, Atlas y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Map yn dangos y canrannau sy'n gallu siarad Cymraeg, fesul ward, yn ôl Cyfrifiad 2021 - mae'r gwyrdd tywyllaf yn cynrychioli 70% ac uwch o'r boblogaeth yn siarad yr iaith

Tref dwristaidd Llanberis yn dangos dirywiad o fewn cadarnle'r iaith

Mae bron y cyfan o'r wardiau a chymunedau lle mae dros 60 y cant o'r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg wedi eu cyfyngu i siroedd Gwynedd, Môn a Chonwy. Mae'r cadarnleoedd cryfaf - sydd â thros 70% ar gyfartaledd yn gallu siarad Cymraeg - yn ffurfio clwstwr sy'n ymestyn dros ganolbarth a de Môn, Arfon (ac eithrio Bangor), Llŷn ac Eifionydd a gogledd Meirionnydd.

Hyd yn oed o fewn y prif gadarnle hwn, mae ardaloedd sydd wedi dangos dirywiad, gyda Llanberis yn enghraifft amlwg o le sy'n dioddef effeithiau gor-dwristiaeth.

Yn amgylchynu'r craidd, mae rhannau helaeth o'r Gymru wledig lle mae tua hanner y boblogaeth ar gyfartaledd yn gallu siarad Cymraeg; yn cynnwys gweddill Môn, de Meirionnydd, y rhan fwyaf o Gonwy wledig a rhannau llai o Sir Ddinbych a gogledd Maldwyn yn y gogledd; yn y de mae'n cynnwys y rhan fwyaf o Geredigion a rhannau o Sir Gâr a gogledd Sir Benfro.

A yw'r Gymraeg yn 'iaith leiafrifol' yn ne a dwyrain Sir Gâr?

Rhai o ystadegau mwyaf dadlennol y Cyfrifiad yw rhai sy'n croesgyfeirio'r gallu i siarad Cymraeg â mannau geni.

Prif werth gwybodaeth o'r fath yw ei bod yn ein galluogi i ddadansoddi'r newid ieithyddol sy'n digwydd mewn ardal. Mae'n dangos yn glir fod rhai ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn colli tir oherwydd newid yn arferion iaith y gymdeithas, a diffyg trosglwyddo i genedlaethau iau.

Mewn ardaloedd eraill, fodd bynnag, disodli diwylliannol yw'r hyn sydd ar waith gyda nifer y trigolion brodorol yn lleihau a phobl o'r tu allan yn cynyddu.

Ffynhonnell y llun, Atlas y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Map yn dangos y gallu i siarad Cymraeg yn ôl mannau geni

Gwelwn y cadarnleoedd cryfaf yn y gogledd-orllewin, gyda 90% o'r boblogaeth a aned yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg.

Ar hyd a lled Gwynedd, Môn a Cheredigion, gwelwn ganrannau uchel hefyd mewn rhai ardaloedd lle mae cyfrannau uchel o'r boblogaeth yn hanu o'r tu allan i Gymru. Mae hyn yn awgrymu'n glir fod y Gymraeg yn dal ei thir yn dda ymysg y boblogaeth gynhenid yn yr ardaloedd hyn.

Yn Sir Gâr, fodd bynnag, mae ardaloedd helaeth yn ne a dwyrain y sir lle mai iaith leiafrifol yw'r Gymraeg bellach, hyd yn oed o blith y boblogaeth sydd wedi eu geni yng Nghymru.

Y siroedd lle mae pobl o du allan i Gymrufwyaf tebygol o fod yn siarad yr iaith

Ffynhonnell y llun, Atlas y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Map yn dangos 20% a mwy o'r boblogaeth sydd wedi eu geni y tu allan i Gymru ac yn siarad Cymraeg

Mae'r map yn amlygu prif gadarnleoedd y Gymraeg yn y gogledd-orllewin fel y lle mae newydd-ddyfodiaid yn fwyaf tebygol o fod yn dysgu Cymraeg.

Diddorol yw gweld yr ardaloedd hyn yn ymestyn i ogledd Powys hefyd, a byddai'n rhesymol tybio y gallai hyn fod oherwydd cyfran o Gymry'r ardaloedd hyn wedi eu geni mewn ysbytai dros y ffin.

'Chwalfa ddiwylliannol' yn Rhosllannerchrugog ac Ystradgynlais

Mewn llawer i ardal lle mae dros 70% o'r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg heddiw, roedd dros 80% a 90% yn siarad yr iaith yn 1961. Roedd hyn yn wir hefyd am rannau helaeth o Geredigion a Sir Gâr lle mae'r cwympiadau wedi bod yn fwy.

Fodd bynnag, yn rhai o'r ardaloedd sy'n fwy ar gyrion y Gymru Gymraeg mae'r gostyngiadau mwyaf dramatig.

Mae'n ymddangos mai Rhosllannerchrugog ar gyrion Wrecsam sydd wedi dioddef y chwalfa ddiwylliannol waethaf. Am ran helaeth iawn o'r 20fed ganrif, roedd y lle a oedd yn cael ei adnabod fel 'pentref mwyaf Cymru' yn ynys o ddiwylliant Cymraeg byrlymus yn y gogledd-ddwyrain.

Ffynhonnell y llun, Atlas y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Graff yn dangos y cynnydd ym mhoblogaeth Wrecsam, a gostyngiad yn siaradwyr y Gymraeg, rhwng 1961 a 2021

Pan ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol â'r ardal yn 1961, roedd bron i dri chwarter ei 9,000 o drigolion yn gallu siarad Cymraeg. Bellach, yn ôl Cyfrifiad 2021, llai na 1,800 sy'n gallu siarad Cymraeg yno, sy'n cyfrif am lai na 20% o'r boblogaeth.

Tueddiad digon tebyg sydd yn Ystradgynlais yn yr hen Sir Frycheiniog ym mlaenau Cwm Tawe hefyd; roedd 78% o'r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg yn 1961, ond mae bellach i lawr i'r traean.

Cynnydd yn nifer siaradwyr y Gymraeg yn y brifddinas

Tra bod yr ardaloedd Cymreiciaf yn colli tir, mae'r gwrthwyneb yn wir am rai o'r rhannau mwyaf Seisnig o Gymru, er nad yn agos i'r un graddau.

Mewn siroedd fel Torfaen, Casnewydd a Sir Fynwy, lle'r arferai'r ganran a allai siarad Cymraeg fod tua 2% am y rhan fwyaf o'r 20fed ganrif, mae'r canrannau wedi codi i tua 8-10%. Rhaid ychwanegu mai canrannau uchel ymysg plant sy'n bennaf gyfrifol am godi'r ffigurau hyn.

Ffynhonnell y llun, Atlas y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Ystadegau am ddefnyddwyr y Gymraeg yng Nghaerdydd yn ôl Cyfrifiad 2021

Un lle sydd wedi dangos cynnydd ar raddfa sylweddol yw Caerdydd, lle mae'r nifer sy'n gallu siarad Cymraeg wedi mwy na dyblu ers 1991. Er nad yw hyn ond yn cyfrif am 12% o'r boblogaeth, mae rhai ardaloedd lle mae'r ganran yn sylweddol uwch; ward Treganna, gyda 24% yn siarad Cymraeg yw'r ward Gymreiciaf.

O'r hyn a wyddom am y symudiad cyffredinol i Gaerdydd, mae'n rhesymol tybio mai siaradwyr Cymraeg yn symud o rannau eraill o Gymru yw un o'r ffactorau pwysicaf yn y rhannau o'r ddinas sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf. Os felly mae'r newid i'w briodoli'n fwy i newid poblogaeth yn fwy nag i dwf ieithyddol.

'Nid darogan marw'r iaith... na thwyllo â darlun camarweiniol...'

Mae dealltwriaeth drylwyr o'r gwahaniaethau sylfaenol o fewn Cymru yn gwbl allweddol i unrhyw weithredu effeithiol dros y Gymraeg.

Darlunio'r sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd, mor drylwyr a llawn â phosib, yw nod Atlas y Gymraeg. Nid darogan gwae am iaith yn marw ar y naill law - na thwyllo'n hunain â darlun camarweiniol o ffafriol ar y llaw arall.

Yr hyn sy'n digwydd yw bod y Gymraeg yn colli cynefinoedd pwysig, ac wrth i'r cynefinoedd hynny brinhau a gwanychu, ni all fforddio colli rhagor. Rhaid cydnabod hefyd, mai prin iawn ydi unrhyw gynefinoedd newydd sy'n datblygu i gymryd eu lle.

Yn sicr, ni fydd gan y Llywodraeth obaith o wireddu ei nod o ddyblu'r defnydd o'r Gymraeg os bydd unrhyw wanhau pellach ar y cadarnleoedd cryfaf. Y cam cyntaf amlwg tuag at wireddu cynnydd mewn unrhyw faes ydi rhwystro colledion.

Pynciau cysylltiedig