'Dim angen' llysgennad brenhinol i bêl-droed Cymru

  • Cyhoeddwyd
CefnogwyrFfynhonnell y llun, Getty Images

"Gwneud y peth iawn i bêl-droed Cymru" fydd y flaenoriaeth pan fydd y Gymdeithas Bêl-droed yn penderfynu a ydyn nhw am barhau i gael llysgennad brenhinol, yn ôl ei phrif weithredwr.

Dyna ddywedodd Noel Mooney mewn ateb i gwestiwn ynghylch deiseb sy'n galw ar CBDC i beidio â phenodi aelod arall o'r Teulu Brenhinol i'r rôl.

Y Frenhines Elizabeth II oedd Llysgennad CBDC hyd nes ei marwolaeth y llynedd, ac yn ôl adroddiad papur newydd diweddar mae'r Teulu Brenhinol yn awyddus i weld Tywysoges Cymru yn llenwi'r bwlch.

Mae CBDC yn dal i drafod a ddylid parhau gyda'r rôl yn y dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r trafodaethau'n parhau, medd Noel Mooney

"Rydyn ni eisiau gwneud y peth iawn i gymdeithas Cymru ac i Gymdeithas Bêl-droed Cymru," dywedodd Mr Mooney.

"Beth sy'n dod â gwerth i bêl-droed Cymru? Beth sy'n ein gwneud yn well? Beth sy'n gwneud i ni fynd yn gyflymach?

"Felly mae gyda ni adolygiad - rydyn ni'n siarad gyda rhanddeiliaid gwahanol a monitro beth mae'r gymdeithas yn edrych arno.

"Ar y foment dyna'r broses sydd dan adolygiad."

Ychwanegodd bod "dim dyddiad pendant" o ran ceisio dod i benderfyniad.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tywysog Cymru'n cefnogi Cymru a'r Dywysoges yn cefnogi Lloegr wrth i'r ddau dîm rygbi wynebu ei gilydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni

Y mudiad sy'n ymgyrchu i droi Cymru'n weriniaeth, Cymru Republic, yw trefnwyr y ddeiseb, sydd wedi denu cannoedd o lofnodion ers ei lansio ganol Medi.

Maen nhw'n galw ar CBDC "i ddirwyn i ben y drafodaeth" ynghylch penodi llysgennad o'r Teulu Brenhinol.

Eu dymuniad, yn hytrach, fyddai dewis "rhywun sydd yn angerddol tros Gymru" i hybu pêl-droed Cymru ar bob lefel "ac sydd yn adnabyddus ac yn uchel ei barch ymysg ein dinasyddion".

Ychwanega'r ddeiseb: "Dylai'r llysgennad fod ar flaen y gad yn uno ein cenedl ac ddim yn rhwygo ein cymdeithas fel mae Llysgenhadon Brenhinol yn ei wneud mor aml."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Sayed yn ofni y byddai penodi Llysgennad Brenhinol arall yn tanseilio gwaith "gwych" diweddar CBDC o ran uno cefnogwyr

Dywedodd Bethan Sayed, sy'n aelod o'r mudiad, bod gwaith "gwych" CBDC dros y blynyddoedd diwethaf wedi "tynnu pobl at ei gilydd gyda'r iaith, gyda teuluoedd yn mynychu'r gemau, gyda teimlo bod e'n rhywbeth sy'n rhan o fywyd bob dydd Cymreig".

Ychwanegodd: "'Dan ni ddim yn gweld bod cael Llysgennad Brenhinol yn cyd-fynd gyda hynny.

"Os unrhyw beth, fydde'n gelyniaethu nifer o ffans sydd falle ddim yn ymwneud gyda'r Teulu Brenhinol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tywysog Cymru yw llysgennad brenhinol Undeb Rygbi Cymru

Mae aelodau'r Teulu Brenhinol yn lysgenhadon i dros 60 o sefydliadau yng Nghymru - o'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd i Undeb Rygbi Cymru (URC).

Tywysog Cymru yw llysgennad brenhinol URC ers Rhagfyr 2016, ond mae hefyd yn llysgennad Cymdeithas Bêl-droed Lloegr.

Mae hynny wedi creu cryn chwithdod i lawer ar brydiau, fel pan ddymunodd yn dda i dîm Gareth Southgate ar ddechrau Cwpan y Byd yn Qatar y llynedd, er bod Cymru hefyd yn cymryd rhan yn y rowndiau terfynol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna fudd i'w gael i'r gamp yn sgil statws llysgennad brenhinol, medd Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Serch hynny, dadl nifer yw bod eu rôl yn rhoi statws uwch i sefydliadau.

Dywedodd cyn-weinidog Chwaraeon Cymru, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, bod y "statws sydd ar gael gan aelod blaenllaw o'r Teulu Brenhinol - sydd, gobeithio, â diddordeb yn chwaraeon... o ddefnydd go iawn i hyrwyddo digwyddiadau arbennig yn y gêm".

O blaid neu'n erbyn - bydd rhaid aros am beth amser eto cyn clywed beth fydd penderfyniad Cymdeithas Bel-droed Cymru a darganfod os bydd y cysylltiad brenhinol yn parhau.