Hanes y 'digs' myfyrwyr a drawsnewidiodd ofal pobl anabl

  • Cyhoeddwyd
Bwrdd gwybodaeth
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Theatr y Sherman yn cyflwyno sioe wedi'i seilio ar hanes dyn â Syndrom Down a rannodd dŷ gyda myfyrwyr

Am ddegawdau roedd pobl ag anableddau dysgu yn cael eu cadw dan glo mewn sefydliadau oedd yn cael eu hadnabod fel ysbytai meddwl.

Pan wnaeth Jim Mansell, 19, wahodd dyn ifanc â Syndrom Down i fyw gydag ef mewn tŷ myfyrwyr yn y 70au, prin wyddai y byddai hynny'n gatalydd i ddod â gofal sefydliadol i ben i bobl anabl.

Drwy'r syniad o rannu tŷ 12 Ruthin Gardens yn ardal Cathays, Caerdydd, daeth y system o orfodi pobl i fyw mewn ysbytai meddwl i ben, a dechreuwyd eu cefnogi i fyw yn eu cymunedau yn lle.

Tafliad carreg o'r tŷ mae rhai yn dweud newidiodd y byd, mae'r stori'n cael ei hail-ddweud mewn sioe newydd ar lwyfan Theatr yn Sherman.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tim Green fod syniad Jim Mansell wedi gadael "gwaddol go iawn ledled y byd"

"Mae stori Jim Mansell yn un am rywun drodd ei weledigaeth yn wirionedd, un wnaeth newid y byd, ac ro'n i'n meddwl 'dylai rhywun wneud ffilm Hollywood am hyn'," meddai'r awdur Tim Green.

Fe ddarllenodd y stori am destun ei sioe newydd Housemates yn ngholofn marwolaethau papur newydd y Guardian yn 2012.

"Mae 'na waddol go iawn ledled y byd wnaeth newid bywydau cannoedd o filoedd o bobl ym Mhrydain, a miliynau o gwmpas y byd."

Arbrawf arloesol

Rhaid mynd yn ôl i 1967 am wreiddiau'r stori pan wnaeth papur newydd arall, The News of the World, ddatgelu bod cleifion yn Ysbyty Trelái yng Nghaerdydd yn byw dan amodau erchyll.

Roedd nifer yn cael eu cloi ar eu wardiau, lle'r oedd prinder staff sylweddol, ac o'r staff oedd yno prin iawn oedd yr hyfforddiant priodol.

Roedd ymchwiliad swyddogol i'r methiannau ac fe ddechreuodd y broses o newid y ffordd yr oedd yr awdurdodau'n trin pobl ag anableddau dysgu.

I ddechrau sefydlodd Jim Mansell grŵp o wirfoddolwyr fyddai'n mynd â chleifion o Ysbyty Trelái am dripiau.

Un o'r rheiny oedd Alan Duncan, dyn ifanc â Syndrom Down, oedd ag un freuddwyd benodol - bod mewn band.

Disgrifiad o’r llun,

Mae sioe Housemates yn dilyn hanes Alan Duncan a Jim Mansell

Erbyn 1974 roedd Jim ac Alan wedi dod yn ffrindiau da ac fe gafodd Jim y syniad am arbrawf arloesol.

Cafodd Alan a phedwar claf arall wahoddiad gan Jim i symud o'r ysbyty i fyw yn Ruthin Gardens, Cathays, gyda grŵp o fyfyrwyr.

Tra bod Jim a'r myfyrwyr eraill yn y brifysgol roedd Alan a'u ffrindiau yn mynd i'r coleg, ac yn dysgu sgiliau newydd a chael swyddi.

Fe gafodd yr hyn wnaethon nhw yn Ruthin Gardens ei gopïo mewn tai tebyg drwy'r Deyrnas Unedig - a dros y 30 mlynedd nesaf, cafodd 96 o ysbytai meddwl eu cau, gan gynnwys Ysbyty Trelái.

Sioe 'drawiadol'

Mae'r cynhyrchiad newydd, Housemates, yn brosiect ar y cyd rhwng y Sherman a chwmni Theatr Hijinx - gyda chast o actor-gerddorion niwro-amrywiol a niwro-nodweddiadol.

"Mae gyda ni bedwar o actorion o Hijinx ac maen nhw'n hollol wych i weithio gyda," meddai James Ifan, cyfarwyddwr cerdd ac un o actorion y sioe.

"Mae wedi bod yn bleser.

"Wrth gwrs mae'r pethau wnaeth ddigwydd yn yr ysbyty yn bethau dydyn ni ddim yn hoffi eu clywed ond mae'r cyfeillgarwch wnaeth ddatblygu wedyn a'r newidiadau ddaeth i fywydau miloedd o bobl, mae hynny'n wych."

Bu'r awdur Tim Green yn gweithio gyda Theatr y Sherman am dros dair blynedd yn datblygu'r sgript.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lowri Morgan fod y sioe yn mynd "gam wrth gam drwy rywbeth mor arloesol wnaeth newid y byd"

"Mae o jest mor drawiadol - dyna wnaeth daro ni wrth glywed y stori yma am y tro cyntaf," meddai Lowri Morgan, cydymaith llenyddol y theatr.

"Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cael sioc gan ei fod o wedi digwydd mor agos at y Sherman, a do'n i ddim yn credu bod hwn wedi disgyn i'n dwylo ni.

"Be' sy'n grêt am y sioe ydi ei fod yn mynd â ni gam wrth gam drwy rywbeth mor arloesol wnaeth newid y byd."

Bu farw Alan yn 2009 a Jim yn 2012, ond degawdau ar ôl eu harbrawf arloesol o rannu tŷ yng Nghaerdydd, mae'r gofal sy'n cael ei gynnig i bobl ag anableddau dysgu wedi trawsnewid ledled y byd.

Bydd Housemates i'w weld yn Theatr y Sherman, Caerdydd, 6-14 Hydref.

Pynciau cysylltiedig