Caergybi: Dymchwel simnai enwog Alwminiwm Môn?
- Cyhoeddwyd
Fe allai un o strwythurau dynol mwyaf nodedig Môn ddiflannu dros y misoedd nesaf fel rhan o gynllun i glirio cyn-safle diwydiannol.
Pan ddaeth y gwaith i ben yn ffatri Alwminiwm Môn yn 2009 fe gollodd 400 o bobl eu swyddi, oedd yn ergyd drom i economi'r gogledd-orllewin.
Roedd gobaith am swyddi newydd ar y safle diolch i ddatblygiad menter ailgylchu rai blynyddoedd wedyn.
Ond collwyd 140 o swyddi y llynedd wedi i brif gyllidwr preifat cwmni Orthios roi'r busnes yn nwylo'r gweinyddwyr.
Er gwaetha'r holl ddatblygiadau ar y safle, ers yr 1970au mae simnai nodedig 'Rio Tinto' - sy'n dalach na Thŵr Marcwis ym mhen arall yr ynys - wedi parhau'n dirnod amlwg yn nhirlun Caergybi a gorllewin Môn.
Ond yn ôl cwmni Stena Line, sy'n gobeithio datblygu'r safle, mae disgwyl i'r strwythur 122 medr [400 troedfedd] orfod cael ei ddymchwel dros y misoedd nesaf.
'Cyflwr strwythurol yn wael'
Mae'r cwmni fferi o Sweden wedi cyflwyno cais hysbysiad dymchwel i Gyngor Môn er mwyn clirio'r safle, sydd bellach wedi'i ailenwi'n Parc Ffyniant.
Mae'r safle 213 acer, sy'n eiddo i Stena Line, yn cynnwys 3km o drac rheilffordd sy'n cysylltu â phrif linell y gogledd, ac mae wedi'i ddynodi fel safle i gwmnïau sefydlu ffatrïoedd o fewn parth y porthladd rhydd.
Yn ôl y cwmni mae'n "cynrychioli cyfle gwych i fusnesau newydd sydd am fuddsoddi yn yr ynys".
Ond yn beio cyflwr y strwythur, mae'r cais dymchwel hefyd yn cynnwys y simnai nodedig.
Dywedodd llefarydd ar ran Stena wrth Cymru Fyw: "Roedd yr hysbysiad dymchwel yn canolbwyntio'n bennaf ar ddymchwel y siediau ar hen safle Alwminiwm Môn, gyda'r corn simnai hefyd yn rhan o'r cynigion.
"Rydym wedi cynnal arolwg o'r simnai ac mae ei chyflwr strwythurol yn wael.
"Gallai ei adael yn ei le fod yn berygl diogelwch, ond gall hefyd ein hatal rhag cyflawni llawn botensial y safle.
"Rydym yn dal i ystyried yr holl opsiynau a byddwn yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Ynys Môn wrth i ni symud ymlaen.
"Fodd bynnag, ar hyn o bryd, rydym yn credu nad oes ffordd ddiogel o glirio'r safle a chyflawni potensial Parc Ffyniant heb gael gwared ar y simnai."
'Sicrhau swyddi sy'n bwysig'
Dywedodd un o gynghorwyr ardal Caergybi wrth Cymru Fyw y byddai colli'r simnai yn cynrychioli "diwedd cyfnod", ond hefyd fod "rhaid edrych ymlaen i'r dyfodol".
"Mae o yna ers blynyddoedd lawer ac mae o'n eitha' eiconig erbyn hyn," medd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, sy'n cynrychioli ward Ynys Gybi ar y cyngor sir.
"Ond rhaid i ni symud ymlaen ac os maen nhw'n dweud fod o ddim yn saff yna mae'n rhaid iddo ddod i lawr, yn enwedig gan fod o heb ei ddefnyddio ers blynyddoedd.
"Mae 'na ffigyrau afrealistig braidd yn cael eu crybwyll [gyda'r porthladd rhydd], ond yn sicr 'da ni angen swyddi o safon yma.
"Dyna mae pobl yr ardal yn ei haeddu, er gwaetha' gymaint o false promises yn y gorffennol.
"Ond os ydyn nhw yn chwalu'r simdda', yn sicr mi fydd 'na dyrfa fawr yno i'w weld yn dod i lawr.
"'Da chi'n ei weld o bell wrth deithio lawr yr A55 felly fydd hi'n wahanol hebddi."
Ychwanegodd y Cynghorydd Bob Llewelyn Jones, sy'n cynrychioli Parc a'r Mynydd, y byddai'n falch o weld y safle yn cael ei glirio.
"Mae o'n hyll dydi. 'Da ni'n ei weld o bell ac mae'n gwneud i Gaergybi edrych fel rhyw industrial complex," meddai wrth Cymru Fyw.
"Lle bach neis ydi Caergybi a mae 'na bres yn cael ei wario ar dacluso'r dref, felly mae hyn i'r groesawu."
'Ffyniant economaidd i bawb'
Yn cyfeirio at y cynlluniau i ddatblygu'r safle dywedodd Ian Davies, pennaeth awdurdodau porthladdoedd y DU yn Stena Line, fod y potensial o ddatblygu'r safle yn "anferth i'r cwmni ac i Ynys Môn gyfan".
Ychwanegodd y cwmni byddai'r gwaith cynllunio yn "blaenoriaethu busnesau lleol ar gyfer y gwaith o glirio'r tir a dymchwel, gan sicrhau bod pobl leol yn gallu elwa o Borthladd Rhydd Môn o'r diwrnod cyntaf".
"Fel busnes sydd wedi gweithredu ar Ynys Môn ers dros 30 o flynyddoedd, mae Stena Line wedi ymrwymo i sicrhau mwy o ffyniant economaidd i bawb ar draws yr ynys," medd Mr Davies.
"Pan brynon ni safle Alwminiwm y llynedd, roedden ni'n benderfynol o ddod ag ef yn ôl yn fyw a sicrhau ei fod yn darparu'r swyddi a'r cyfleoedd i bobl ar draws yr ynys.
"Y cyhoeddiad hwn yw'r cam cyntaf yn y broses ailddatblygu honno, a gobeithiwn y bydd yn dod â buddsoddiad busnes newydd i Ynys Môn."
Mae disgwyl i Gyngor Môn wneud penderfyniad ar y cais dymchwel dros y misoedd nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2022