'Dim system addas i adrodd camymddwyn rhywiol', medd nyrsys

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yn ôl Dr Olwen Williams o Goleg Brenhinol y Meddygon, mae'n "rhaid cael system sy'n gweithio i bawb" o ran adrodd digwyddiadau

Mae methiant yn y system i gofnodi achosion o gam-drin rhywiol a threisio, yn ôl cyn-nyrsys a nyrsys presennol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae BBC Cymru wedi cael gwybod am achosion o "gydio mewn bronnau", "rhoi dwylo fyny ffrogiau" a "tharo penolau".

Yn ôl un nyrs sydd eisoes wedi gadael y gwasanaeth iechyd, mae cyn lleied o bobl yn cael eu herlyn am droseddau o'r fath yng Nghymru, fel ei bod yn teimlo fod y troseddau "bron wedi'u cyfreithloni".

Mae Cydffederasiwn GIG Cymru yn dweud fod amddiffyn cleifion a staff rhag unrhyw ffurf o gamymddwyn, ymosod, aflonyddu a cham-drin rhywiol, mewn unrhyw leoliad, yn cael ei gymryd o ddifrif.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "aflonyddu a thrais rhywiol yn ffiaidd a does dim lle iddo yn ein GIG".

Disgrifiad o’r llun,

Mae nyrsys dienw wedi rhannu eu profiadau nhw o gamymddwyn rhywiol yn eu herbyn yn y gweithle

Mewn cais rhyddid gwybodaeth i'r pedwar llu heddlu yng Nghymru gan grŵp Rhwydwaith Hawliau Menywod, dangoswyd y bu 152 o ymosodiadau rhywiol a 26 achos o dreisio honedig mewn ysbytai rhwng Ionawr 2019 a Hydref 2022.

Dywedodd arweinydd y grŵp, Cathy Larkman: "Un peth sy'n achosi pryder mawr yw bod yr heddluoedd wedi cyfaddef bod y data yn anghyflawn."

Dim ond Heddlu Gogledd Cymru oedd wedi cofnodi rhyw y dioddefwyr - 80% yn ferched, 20% yn ddynion.

Yn ôl y grŵp, mae hyn yn rhan fawr o'r broblem, ac maent yn galw am gael technegau casglu data gwell er mwyn deall maint y broblem a phwy sydd yn y perygl mwyaf.

Ychwanegon nhw fod angen data mwy cywir sy'n cynnwys manylion am ryw y dioddefwr, lleoliad y digwyddiad ac os yw'r dioddefwr a'r troseddwr yn staff neu'n aelod o'r cyhoedd.

Dywedodd Ms Larkman nad yw'r heddluoedd yn cymryd y mater o ddifrif, a'i bod wedi ysgrifennu at y pedwar prif gwnstabl ym mis Awst a heb dderbyn ateb - sydd yn ei geiriau hi yn "gywilyddus".

"Dyma gyfnod lle mae'r heddlu yn pwysleisio eu bod yn gwrando ar ferched ac yn ffocysu yn fanwl ar drais yn erbyn merched, felly dydw i ddim yn credu ei fod yn afresymol i ddisgwyl ateb ar frys yn dweud y byddan nhw'n ailedrych ar eu systemau cofnodi."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cathy Larkman fod angen casglu data yn well er mwyn ceisio deall gwir faint y broblem

Mae Megan (nid ei henw iawn) yn ei 50au cynnar, a bu'n gweithio fel nyrs i'r GIG am 35 mlynedd cyn gadael yn ddiweddar i fynd i weithio i'r sector annibynnol.

Dywedodd y byddai cleifion gwrywaidd yn gweld ymosod yn rhywiol fel "jôc".

"Doedd o ddim yn rhywbeth anarferol i ddynion meddw ddod mewn a meddwl ei fod yn hollol dderbyniol i afael ym mronnau nyrsys a rhoi eu dwylo i fyny ein ffrogiau," meddai.

"Roedd o jest yn cael ei dderbyn. Ro'n i'n teimlo cywilydd mawr. Roedd o'n anodd ar brydiau.

"Roedd 'na enghreifftiau o ddynion yn gwneud sylwadau am ein hedrychiad, a be' roedden nhw eisiau gwneud i'n cyrff.

"Ro'n i jest yn eu hanwybyddu, a'r cleifion yn meddwl ei fod yn hollol dderbyniol."

'Does dim gweithredu'

Ychwanegodd ei bod wedi cael ei tharo "yn galed yn fy wyneb" ar un achlysur, ond ei bod wedi cael ei chynghori gan ei rheolwyr i beidio â chymryd y mater ymhellach am y gallai "fygwth fy nyfodol yn yr ysbyty".

"Mae gan fyrddau iechyd swyddogion trais sy'n delio hefo'r math yma o achosion, a byddwn wastad bellach yn cynghori staff iau i reportio unrhyw achosion yn syth," meddai Megan.

"Ond yn aml iawn byddan nhw'n ateb gan ddweud nad oes pwynt, gan nad oes gweithredu.

"Mae pethau wir angen gwella, ond dydw i ddim yn gweld pethau'n newid yn y dyfodol agos."

Disgrifiad o’r llun,

"Does 'na ddim system addas ar gyfer adrodd, ac mewn sawl ysbyty, does dim system adrodd o gwbl," medd Dr Becky Cox

Mae Dr Becky Cox yn feddyg teulu a fu'n hyfforddi yng Nghaerdydd, a hi yw un o gyd-sylfaenwyr corff Surviving in Scrubs, sy'n ymgyrchu yn erbyn rhywiaeth a cham-drin rhywiol yn y gweithle.

Dywedodd ei bod hi wedi cael profiadau o sylwadau rhywiaethol, aflonyddu ac ymosodiad rhywiol ers dechrau ar ei siwrne i fod yn feddyg.

"Does 'na ddim system addas ar gyfer adrodd, ac mewn sawl ysbyty, does dim system adrodd o gwbl," meddai.

"Mae nifer o bobl sy'n profi hyn yn dweud nad ydyn nhw'n gwybod ble i droi.

"Rydyn ni wedi cael achos - person oedd yn ceisio adrodd bod rhywun wedi ceisio ei threisio - ac fe wnaeth ei rheolwr chwerthin arni."

Ychwanegodd fod y ffigyrau sydd wedi'u casglu gan y Rhwydwaith Hawliau Menywod yn "amcangyfrif llawer rhy isel o'r broblem".

'Pethau heb newid digon'

Mae Cerys (nid ei henw iawn) bellach wedi ymddeol fel nyrs. Dechreuodd ei gyrfa yn yr 80au.

Wedi iddi gymhwyso, dywedodd fod un o'r uwch-nyrsys ar y ward wedi "taro fy mhen ôl cyn cyflwyno ei hun".

"Ro'n i'n teimlo mor fychan, ond cafodd neb eu synnu gan hyn. Roedd y math yma o ymddygiad yn hollol normal," meddai.

"Dynion oedd yn y swyddi uwch gan amlaf, felly eu harferion nhw oedd y norm.

"Roedd rhai cleifion bregus iawn yn yr ysbyty, ac fe wnaeth tair dynes gyfaddef i fi bod rhywun wedi ymosod arnynt yn rhywiol.

"Bydden i'n ateb rhywbeth fel 'sori i glywed'. Doeddwn i byth yn teimlo fel y gallwn ei reportio.

"Mae cymdeithas wedi newid, ond efallai nad ydy pethau wedi newid digon."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn ymateb, dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi cynyddu adnoddau yn y maes yma, ac wedi peilota ymgyrch newydd "i wneud ymchwiliadau i dreisio yn fwy manwl ac effeithiol er mwyn ceisio cael y canlyniad gorau i ddioddefwyr".

Dywedodd heddluoedd Gwent a Dyfed-Powys eu bod yn cymryd pob achos o ymosodiadau rhyw a threisio "yn ddifrifol dros ben", a bod ganddynt record dda o ran canlyniadau i ddioddefwyr.

Mae Heddlu'r Gogledd hefyd yn dweud eu bod yn cymryd achosion o'r fath o ddifrif, ond nad yw'r data sydd ganddynt yn cynnwys materion fel union leoliad y drosedd.

'Herio ymddygiad gwael a chodi llais'

Dywedodd cyfarwyddwr Cydffederasiwn GIG Cymru, Darren Hughes: "Mae byrddau iechyd, ymddiriedolaethau a sefydliadau eraill GIG Cymru wedi ymrwymo i gydweithio i wneud gwelliannau mewn diogelwch a diwylliant yn y gweithle, gan feithrin amgylchedd cynhwysol i bawb, lle mae pobl yn hyderus i herio ymddygiad gwael a chodi llais.

"Rydym am i bawb deimlo'n ddiogel mewn lleoliadau'r GIG yng Nghymru ac rydym yn annog unrhyw un sydd wedi profi ymddygiad rhywiol diangen a niwed rhywiol i siarad gyda thimau profiad cleifion GIG, timau pobl y GIG, neu i gael cyngor a chefnogaeth gan y Llinell Gymorth Byw Heb Ofn neu eu Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol lleol.

"Mae staff a allai fod â phryderon ynghylch agweddau ac ymddygiad yn y GIG yn cael eu hannog i godi pryderon gyda'u rheolwr neu'n ddienw drwy'r prosesau adborth a chymorth sydd ar waith yn eu sefydliad."

Mae mwy ar y stori yma ar raglen Wales Live.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.