Ymchwiliad heddlu i ddifrod i gloc Machynlleth
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i adroddiad o ddifrod troseddol i gloc Machynlleth, sydd yn cael ei adnewyddu ar gost o £60,000.
Mewn datganiad fe ddywedodd maer y dref bod "aelod o'r gymuned" wedi dringo'r sgaffaldiau rownd y cloc, ac wedi symud y bysedd i'r amser anghywir.
Y gred yw bod hynny wedi digwydd dros y penwythnos ac y gallai fod wedi achosi difrod i fecanwaith y cloc.
Mae'r cyngor tref wedi cysylltu â'r gwneuthurwyr clociau Smith of Derby - yr arbenigwyr sydd wedi bod yn gweithio ar y gwaith adnewyddu - i ddod i asesu unrhyw ddifrod posib.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ysgrifennodd y maer, y Cynghorydd Jeremy Paige: "Y penwythnos diwethaf fe ddringodd aelod o'n cymuned lan sgaffaldiau tŵr y cloc a symud bysedd y cloc.
"Mae hynny wedi arwain at y cloc yn dangos yr amser anghywir a fwy na thebyg wedi achosi difrod i'r mecanwaith newydd.
"Mae'n golygu bod 'na gostau i wirio'r mecanwaith ac ailosod y bysedd ac o bosibl costau atgyweirio sylweddol. Rwy'n siŵr eich bod yn rhannu ein siom a'n rhwystredigaeth gyda'r sefyllfa."
Fe ddywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Fe dderbyniodd Heddlu Dyfed-Powys adroddiad o ddifrod troseddol i'r cloc, tua 15:15 ddydd Llun, 9 Hydref.
"Mae ymholiadau ar y gweill, a ry'n ni'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni."
Dywedodd Mr Paige bod cyngor y dref wedi cael gwybod bod y digwyddiad wedi'i ffilmio a'i bostio ar gyfryngau cymdeithasol y penwythnos diwethaf.
"Rydyn ni wedi cael gwybodaeth ynglŷn â phwy yw'r troseddwr a phwy wnaeth ffilmio'r digwyddiad. Byddai'n well i'r person hwn ddod ymlaen a chysylltu â ni'n uniongyrchol cyn i ni ddilyn y llwybr cyfreithiol yn llawn.
"Mae'r gost o adnewyddu'r cloc eisoes tua £60,000 ac mae wedi cymryd dros tair blynedd i wneud y gwaith.
"Er ein bod wedi bod yn ffodus i ddenu grant i wneud y gwaith, mae'r rhan fwyaf wedi'i dalu gan drethdalwyr lleol. Yn anffodus bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu talu'n llawn gan drethdalwyr."
Dywedodd cynghorydd tref arall, Gareth Jones - sy'n perthyn i'r adeiladwr lleol a gododd y cloc yn 1874 - ei fod yn siomedig iawn o glywed am y digwyddiad dros y penwythnos.
"Dwi ddim yn gallu deall pam y byddai unrhywun yn gwneud rhywbeth i gloc y dref sydd mor hanesyddol i'r dref ac i Gymru gyfan.
"Dwi'n perthyn i Edward Edwards un o'r criw adeiladodd y cloc, felly mae'n siom bersonol i fi hefyd.
"Fel cynghorydd rwy' wedi siarad â phobl ym Machynlleth, a maen nhw'n siomedig gyda phwy wnaeth hyn.
"Mae unrhyw gost nawr yn mynd i ddod allan o arian y cyngor a theimlad pobl yw mai'r unigolyn wnaeth y difrod yn y lle cyntaf ddylai dalu."
Mae'r cloc yn cael ei adnewyddu cyn dathliadau ei ben-blwydd yn 150 y flwyddyn nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023