Dechrau'r broses o ethol Esgob Tyddewi newydd

  • Cyhoeddwyd
Eglwys Gadeiriol TyddewiFfynhonnell y llun, Toby Pickard
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cynrychiolwyr eglwysi o bob rhan o Gymru yn cwrdd i ddewis yr esgob newydd

Mae drysau Eglwys Gadeiriol Tyddewi wedi eu cloi er mwyn ethol esgob newydd - proses a allai gymryd hyd at dridiau.

Daw'r etholiad yn dilyn ymddeoliad Dr Joanna Penberthy dros yr haf, wedi chwe blynedd yn y swydd.

Oherwydd salwch, roedd Dr Penberthy yn absennol o'r gwaith am gyfnodau hir, dros gyfnod o ddwy flynedd.

Mewn proffil ysgrifenedig, sydd wedi ei baratoi gan aelodau o'r Esgobaeth, mae yna alw i'r Esgob newydd greu undod yn dilyn "cyfnod o raniadau".

Joanna Penberthy, 61, oedd yr Esgob benywaidd gyntaf i gael ei hordeinio yng Nghymru ym mis Ionawr 2017, ond mae hi wedi bod yn ffigwr dadleuol.

Cafodd ei beirniadu yn hallt ar ôl ysgrifennu neges ar wefan X, neu Twitter gynt, ym mis Mawrth 2021 yn dweud wrth bobl am "beidio byth ag ymddiried mewn Tori".

Ffynhonnell y llun, Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Joanna Penberthy oedd 129fed Esgob Tyddewi

Roedd hi'n ymateb i adroddiadau ar y pryd bod y Ceidwadwyr am ddiddymu Senedd Cymru.

Fe ymddiheurodd am y neges rai wythnosau yn ddiweddarach, a dileu ei chyfrif Twitter, gan ddweud bod rhai o'i sylwadau wedi eu mynegi mewn ffordd "anghyfrifol ac amharchus".

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, bod ei sylwadau wedi "peri pryder i nifer o blwyfolion yng ngorllewin Cymru."

Ac yn ôl Archesgob Caergaint ar y pryd, roedd y neges yn "annerbyniol" ac wedi "peri embaras".

Cyfnod heriol i'r Esgobaeth

Yn ôl John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru, mae hi wedi bod yn gyfnod heriol i'r Esgobaeth.

"Mae yna raniadau mewn eglwys, bob amser. Dydy pawb ddim yn cytuno," meddai.

"Ond mae absenoldeb yr Esgob oherwydd salwch wedi efallai rhoi lle i fwy o raniadau achos mae'r Esgob yn uno cymdeithas fel arfer.

"Mae'r esgobaeth yn chwilio am rhywun fedr uno pobl unwaith yn rhagor."

Beth yw'r broses?

Fe fydd 47 o bobl, sydd yn cynrychioli eglwysi o bob rhan o Gymru, yn cwrdd tu mewn i'r Eglwys Gadeiriol i enwebu a phleidleisio ar restr gyfrinachol o ymgeiswyr i olynu Dr Penberthy.

Mae'r Coleg Etholiadol, sy'n cynnwys holl esgobion Cymru, yn dechrau ar y gwaith fore Llun a bydd ymgeiswyr ar gyfer etholiad yn cael eu henwebu yn y cyfarfod.

Fe fydd unrhyw ymgeisydd sy'n derbyn dau-draean o bleidleisiau'r rhai sy'n bresennol yn cael ei ddatgan yn Ddarpar Esgob.

Ond os nad oes canlyniad clir, mae'r Coleg yn dychwelyd i'r cam enwebu ac mae'r broses yn ailddechrau.

Unwaith mae'r penderfyniad wedi ei wneud, bydd y Gadeirlan yn ailagor a bydd Archesgob Cymru, Andrew John, yn gwneud y cyhoeddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr esgob newydd yn cael ei gysegru yng Nghadeirlan Bangor, sedd Archesgob Cymru Andrew John

Bydd gan y Coleg Etholiadol hyd at dridiau i wneud penderfyniad, ac os yw'n methu ethol unrhyw un ar ôl hynny, bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan Fainc yr Esgobion.

Unwaith yr etholir esgob, bydd ganddo ef neu hi hyd at 28 diwrnod i dderbyn y swydd.

Os bydd yn derbyn, caiff yr etholiad ei gadarnhau'n ffurfiol mewn gwasanaeth Synod Cysegredig a gynhelir yn fuan wedyn.

Yna cysegrir yr esgob newydd yng Nghadeirlan Bangor, sedd Archesgob Cymru ar hyn o bryd.

Mewn proffil o'r Esgobaeth, sydd wedi ei lunio ar gyfer y Coleg Etholiadol, mae yna gyfaddefiad bod yr Esgobaeth wedi bod trwy "gyfnod o ansicrwydd mawr yn ystod y ddwy flynedd a hanner diwethaf", sydd wedi cael ei "ddylanwadu gan salwch hir dymor, ac ar adegau, annisgwyl yr Esgob diwethaf."

Nodir hefyd bod y Glerigiaeth a Lleygwyr wedi teimlo "blinder a morâl isel" yn sgil sylwadau'r Esgob diwethaf oedd wedi "creu rhaniadau".

Mae yna alw hefyd am ethol Esgob fydd ac ymwybyddiaeth o wleidyddiaeth ond "heb arddel agenda bleidiol".

"Fe fydd angen i'r Esgob newydd fod yn rhywun all roi'r Esgobaeth nol at ei gilydd, ac adfywio'r teulu esgobaethol," meddai'r proffil.

Disgrifiad o’r llun,

"Mi fydd yna dalcen caled a sialensiau gerbron yr Esgob newydd," medd yr Hybarch Eileen Davies

Yn ôl yr Hybarch Eileen Davies, Archddiacon Aberteifi, mae yna heriau mawr ar gyfer yr Esgob newydd.

"Mae'n hanfodol bwysig i ddod â phobl nôl at ei gilydd, a'u casglu nhw nôl i'r gorlan fel petai," meddai.

"Mi fydd yna dalcen caled a sialensiau gerbron yr Esgob newydd, pwy bynnag fydd y person hynny.

"Beth sydd yn bwysig i wneud fel pobl sydd yn dilyn yr Arglwydd Iesu, yw ein bod ni yn cefnogi yr Esgob nesaf ac yn dod yn un gyda'n gilydd."

Mae'r proffil hefyd yn sôn am yr angen i ddefnyddio "adnoddau a phobl yn y ffordd gorau" gyda'r awgrym clir y bydd angen i'r Esgob newydd ystyried cwtogi ar y nifer o adeiladau eglwysig yn yr Esgobaeth.

Pynciau cysylltiedig