Cefnogwyr Cymru'n 'dawel hyderus' cyn herio Ariannin

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Shan Cothi fu'n diddanu'r dorf ym mhentref rygbi Marseille cyn y gêm ddydd Sadwrn

Does dim llawer o gefnogwyr Cymru'n darogan buddugoliaeth swmpus dros Ariannin ddydd Sadwrn - ond mae'n sicr yn deg i ddweud eu bod nhw'n "dawel hyderus".

Ar ôl dod drwy'r grŵp, tîm Warren Gatland yw'r ffefrynnau nawr i drechu'r Pumas yn y chwarteri.

Ond i rai, mae bod yma yn ddigon, wedi i streiciau yn Ffrainc fygwth tarfu ar eu trefniadau teithio.

Mae eraill, fel Kevin Davies, allan yn cefnogi aelodau o'r teulu - ac mae eisoes wedi addo "bonws" i'w fab, y mewnwr Gareth, os yw'n cyrraedd carreg filltir arall o ran sgorio ceisiau.

Bydd 'na weiddi i'r naill ochr a'r llall gan un teulu, fodd bynnag.

Fe wnaeth cyn-glo Ariannin, Rimas Alvarez Kairelis gwrdd â'i wraig Lisa yng Nghaerdydd yn dilyn gêm yn 2001.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fydd na ddim "eistedd ar y ffens" yn ystod y gêm, yn ôl Lisa Alvarez Kairelis

Maen nhw bellach yn byw yn Perpignan, ble mae Rimas yn aelod o staff hyfforddi'r clwb Top14.

"Fyddwn ni ddim yn eistedd ar y ffens ddydd Sadwrn - bydda i'n bendant yn cefnogi Cymru, a bydd e gyda'r Ariannin," meddai Lisa.

"Mae fy rhieni i draw, ac mae'r ferch yn dod hefyd, ond bydd hi'n mynd gyda phwy bynnag sy'n ennill!"

Disgrifiad o’r llun,

Ennill neu golli, bydd bendant digonedd o ganu draw ym Marseille

Roedd Rimas yn fuddugol gydag Ariannin ar y diwrnod hwnnw yn 2001, ond mae'n cyfaddef mai Cymru yw'r ffefrynnau y tro hwn.

"Mae ganddyn nhw hyder, maen nhw'n adeiladu ysbryd da yn y grŵp, fydd yn helpu," meddai.

Ers y Cwpan Byd diwethaf mae tîm Super Rugby y Jaguares o Buenos Aires hefyd wedi dod i ben, gan darfu ar baratoadau carfan oedd eisoes yn mynd drwy newid.

"Hyd at nawr dydyn nhw heb chwarae fel ni'n disgwyl," meddai Rimas, gan gyfeirio at y golled agoriadol i Loegr.

"Am weddill y grŵp roedden nhw'n poeni am beidio mynd drwyddo. Ond nawr does dim pwysau, maen nhw wedi pasio'r cam yna, felly dwi'n gobeithio am gêm dda."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dean Mason (dde) a'i ffrindiau yn arbennig o falch o weld Dan Biggar yn ôl yn y tîm

Un sy'n sicr yn gobeithio na ddaw'r daith i ben yn Marseille yw Dean Mason, cyn-athro'r maswr Dan Biggar a'r cefnwr Liam Williams yn Ysgol Gowerton, Abertawe.

Gyda Biggar wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol ar ddiwedd y gystadleuaeth, dyw Dean ddim eisiau i ddydd Sadwrn fod yn ymddangosiad olaf iddo mewn crys coch.

"Roedd e'n dalent enfawr o oedran ifanc, roedd hynny'n amlwg," meddai.

"Gyda Liam, 'naeth e ddatblygu'n hwyrach - gafodd e ddim mewn i dîm ysgolion Abertawe er enghraifft... ond mae e'n esiampl o rywun oedd yn benderfynol o lwyddo.

"Fe aeth e i weithio fel scaffaldiwr, chwarae i Waunarlwydd ac yna ffeindio'i ffordd gyda'r Scarlets ac wedyn Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Gareth Davies yn cael "bonws bach" gan ei dad Kevin (dde) os yn llwyddo i sgorio pedwar cais arall

Un arall o sêr y tîm hyd yma yw Gareth Davies, a dorrodd y record am y nifer fwyaf o geisiau i fewnwr mewn Cwpanau Byd wrth sgorio ei wythfed yn erbyn Awstralia.

"Fi'n meddwl y record sydd isie iddo fe gael nawr yw pedwar cais arall i faeddu'r great Syr Gareth Edwards [yn rhestr ceisiau Cymru]," meddai ei dad, Kevin.

"Fi 'di gweud wrtho fe os neith e 'ny, roddai ryw fonws bach iddo fe!

"Mae'n drydydd Cwpan y Byd iddo fe nawr, ac ym mhob un mae fel tase fe'n codi stêm yng Nghwpan y Byd ar amser da."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Phil Beddoe (ail o'r dde) roedd o'n benderfynol o gyrraedd er gwaetha'r trafferthion teithio

Mae hen borthladd Marseille wedi bod yn araf lenwi gyda chrysau coch a chanu bellach - ond doedd hi ddim yn siwrne esmwyth i bawb.

Phil Beddoe oedd un o'r rheiny gafodd hediad gwreiddiol wedi ei chanslo yn dilyn streiciau sy'n digwydd yn Ffrainc dros y penwythnos.

Bu'n rhaid iddo felly dalu £100 am hediad newydd, ond wrth gyrraedd Marseille ddydd Gwener dywedodd fod hynny "werth bob ceiniog".

"Roeddwn i'n benderfynol o gyrraedd unrhyw ffordd y gallwn i," meddai.

"'Dyn ni wedi buddsoddi cymaint i ddilyn y tîm o gwmpas Ffrainc, doedd 'na ddim esgus am fod - dim ots faint o streicio oedd 'na, bydden ni'n ffeindio ffordd.

"Dydyn ni heb golli gormod yn ariannol, felly mae'n iawn."

Un cefnogwr yn sownd yn Sbaen

Ond nid pawb sydd wedi bod yn ddigon lwcus gyda'r trafferthion trafnidiaeth.

Mae Justin Manley o Aberystwyth wedi bod ar wyliau yn Sbaen, ond cafodd ei hediad o Alicante i Marseille ei chanslo nos Iau.

"Rwy'n siomedig - cafodd yr awyren ei chanslo oherwydd air traffic control," meddai.

"'Dw i wedi edrych ar ffyrdd eraill o gyrraedd yno - nes i edrych ar hedfan i Valencia, wedyn i Baris, a chael y trên i lawr o fanno, ond roedd y logisteg yn ormod."

Bydd yn ergyd ariannol iddo hefyd - roedd ganddo westy wedi'i drefnu a thocyn i'r gêm ddydd Sadwrn.

"Ro'n i'n edrych ymlaen - cyfarfod ffrindiau mas ym Marseille," meddai Mr Manley.

"Roedd e'n €300 am y tocyn, a'r gwesty ar ben hynny - dyw e ddim yn benwythnos rhad!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gary ac Elen (dde) yn hyderus y bydd Cymru yn trechu'r Pumas

Roedd Gary ac Elen o Ddinbych eisoes allan yn Ffrainc, ond fe wnaethon nhw, fel eraill, newid eu trenau a theithio i'r ddinas yn gynt er mwyn osgoi unrhyw drafferthion.

"Dwi'n hyderus am y gêm yma, sy'n anarferol," meddai Gary.

"Mae'n rhaid, does, efo record Gatland a beth mae o wedi'i gyflawni mewn Cwpanau Byd yn y gorffennol."

Ychwanegodd Elen: "Mae Dan [Biggar] yn ôl, Gareth Davies yn cychwyn, a thîm cryf i gychwyn eto fel yn erbyn Awstralia - gobeithio cychwyn yn gryf, ac yna torri nhw lawr."

Mae Danielle, sydd wedi teithio o Mallorca, hefyd yn edrych ymlaen i ymuno yn y canu unwaith eto.

"Mae'n grêt, pawb wedi cyffroi, fydd y côr yma eto - dwi'n meddwl fydd Cymru'n wych heddiw," meddai.

Ond mae Ryan o Aberpennar ychydig yn fwy pwyllog: "Dwi ddim yn hyderus, ond dwi'n obeithiol.

"Mae'r Ariannin yn chwarae Awstralia a Seland Newydd trwy'r amser, ac yn gallu curo nhw, felly unrhyw dîm sy'n gallu gwneud hwnna, rhaid i chi barchu," meddai

"Mae'r group stages wedi mynd - knockout rugby yw e nawr, does dim ots beth sydd wedi digwydd, yr here and now yw e."