Llyfrgell Genedlaethol: 'Ni fu erioed y fath fygythiad i'n casgliadau'

  • Cyhoeddwyd
Llyfrgell GenedlaetholFfynhonnell y llun, Ian Capper/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan y llyfrgell yr hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth wedi dweud wrth Aelod o'r Senedd "ni fu erioed y fath fygythiad i'n casgliadau".

Dywedodd Heledd Fychan AS ei bod hi, a'r pwyllgor diwylliant yr oedd hi'n aelod ohono, wedi codi pryderon am "gyfyngiadau cyllidebol" y llyfrgell ar sawl achlysur.

Mynnodd y dirprwy weinidog Dawn Bowden nad yw penaethiaid y llyfrgell wedi codi "pryderon cyfredol" am eu casgliadau gyda hi.

Mewn datganiad diweddarach, dywedodd llefarydd ar ran y llyfrgell bod "unrhyw bryder sydd gan y llyfrgell yn ymwneud â newidiadau mewn amgylchiadau allai ddigwydd yn y dyfodol".

'Risg i'n hetifeddiaeth'

Dywedodd Heledd Fychan yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf ei bod yn dyfynnu o lythyr ati oddi wrth y llyfrgell yn gynharach y mis hwn "mewn perthynas â thoriadau cyllidebol pellach, os oes rhai".

Yn ôl y llythyr, "mi fydd y risg i'n hetifeddiaeth ddogfennol yn cynyddu'n sylweddol iawn a hynny'n bennaf drwy golli nifer helaeth o swyddi sy'n cynnal y casgliadau, a'n hanallu i gynnal a diogelu adeilad y llyfrgell".

"Ni fu erioed y fath fygythiad i'n casgliadau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru wedi "rhybuddio am y risgiau i gasgliadau cenedlaethol oherwydd cyfyngiadau cyllidebol," meddai Heledd Fychan

Gofynnodd Heledd Fychan i ddirprwy weinidog y celfyddydau Dawn Bowden "pa gamau rydych chi'n bersonol wedi'u cymryd i sicrhau bod ein casgliadau cenedlaethol yn cael eu diogelu?"

Atebodd Ms Bowden: "Yr wyf yn cael fy nghyfarfodydd rheolaidd â'r llyfrgell - y cadeirydd a'r prif weithredwr - a'r diweddaraf o'r cyfarfodydd hynny oedd yr wythnos ddiwethaf.

"Gofynnais yn benodol iddynt am eu pryderon ynghylch diogelwch eu casgliadau a dywedasant wrthyf yn gwbl benodol nad oes ganddynt bryderon cyfredol am eu casgliadau.

"Ni allaf ond dweud wrthych yr hyn y maent yn ei ddweud wrthyf. Os ydynt yn dweud rhywbeth gwahanol wrthych, hoffwn wybod pam."

Disgrifiad o’r llun,

"Rwy'n cael sgyrsiau rheolaidd gyda'r llyfrgell" meddai Dawn Bowden

Yn ddiweddarach, dywedodd llefarydd ar ran y Llyfrgell Genedlaethol wrth y BBC: "Roedd y llyfrgell wedi cadarnhau gyda Llywodraeth Cymru nad oes pryder am ddiogelwch y casgliadau ar hyn o bryd.

"Mae unrhyw bryder sydd gan y llyfrgell yn ymwneud â newidiadau mewn amgylchiadau allai ddigwydd yn y dyfodol."

Dywedodd Heledd Fychan a'r llyfrgell na fyddai'n briodol i rannu'r llythyr gyda'r BBC.

Dywed Llywodraeth Cymru mai cyfanswm y cyllid a ddyfarnwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol hyd yma ar gyfer y flwyddyn 2023/24 yw £12.3m o refeniw (ar gyfer costau o ddydd i ddydd) a £2m o gyllid cyfalaf (ar gyfer buddsoddiadau).

Yn 2022/23 derbyniodd y llyfrgell £12.8m o refeniw a £2.5m o gyfalaf - roedd y ffigwr cyfalaf yn cynnwys swm untro ychwanegol o £500,000 i uwchraddio offer diogelwch.