Protest yng Nghaerdydd i gefnogi'r Palestiniaid
- Cyhoeddwyd
Mae tua 1000 o brotestwyr wedi ymgynnull ar strydoedd Caerdydd i ddangos eu cefnogaeth i'r Palestiniaid.
Daw y brotest wrth i'r lorïau cyflenwadau dyngarol cyntaf gyrraedd Gaza ers dechrau'r rhyfel rhwng Israel a Hamas.
Roedd y gwrthdystiad wedi ei drefnu gan Ymgyrch Undod Palestina Caerdydd, Cyngor Mwslimaidd Cymru, Cymdeithas Fwslemaidd Prydain, a Chlwb Cymdeithasol Palesteina y DU.
Cafodd protestiadau tebyg hefyd eu cynnal yn Llundain a Manceinion.
Maen nhw'n galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza ac am anfon "cymorth dyngarol llawn" i'r diriogaeth.
Fe dorrodd Israel gyflenwadau tanwydd, trydan a dŵr i Gaza wedi i adain filwrol Hamas dorri trwy'r ffin i mewn i Israel, gan ladd pobl a chymryd dros 200 o wystlon.
Yn y cyfamser, mae tua 1.4 miliwn o bobl Gaza wedi'u dadleoli gyda dros hanner miliwn o bobl yn aros yn 147 o lochesi'r Cenhedloedd Unedig.
Mae Ysgrifennydd Tramor y DU, James Cleverly, wedi rhybuddio bod y gwrthdaro yn bygwth y Dwyrain Canol.
Ddydd Gwener fe wnaeth Hamas ryddhau ei wystlon cyntaf ers ei ymosodiad bythefnos yn ôl.
Fore Sadwrn fe deithiodd 20 o loriau dyngarol drwy groesfan Rafah ar y ffin gyda'r Aifft.
Yn ôl byddin Israel, does dim tanwydd wedi ei gludo yno oherwydd pryderon y gallai syrthio i ddwylo mudiad Hamas.
Mae swyddogion iechyd Palesteinaidd yn dweud fod dros 4,000 o bobl wedi eu lladd ers ddechrau cyrchoedd awyr Israel, ac heb danwydd fydd yr ysbytai ddim yn gallu trin cleifion.
Cyn y gwrthdaro roedd Israel yn cyflenwi y rhan fwyaf o anghenion ynni Gaza, ond mae Israel wedi awgrymu mai nod hirdymor ei hymgyrch filwrol yn Gaza yw torri pob cysylltiad â'r diriogaeth.
Dywedodd Gweinidog Amddiffyn Israel, Yoav Gallant, unwaith y byddai Hamas wedi'i drechu, y byddai Israel yn dod â'i "chyfrifoldeb am fywyd yn Llain Gaza" i ben.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2023